Twnnel Conwy yn ailagor yn llawn ar ôl tân ar yr A55

Mae'r twnnel wedi ailagor yn llawn ar ôl iddo gau oherwydd tân dydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae twnnel Conwy wedi ailagor yn llawn ar ôl iddo gau oherwydd tân brynhawn Iau.
Cafodd y twnnel i gyfeiriad y gorllewin ei gau ar ôl i gerbyd fynd ar dân, gyda thraffig yn cael ei symud drwy'r twnnel tua'r dwyrain.
Fe agorodd y twnnel yn rhannol wedi i'r cerbyd gael ei symud yn yr oriau mân ddydd Gwener, ond roedd tagfeydd mawr ar yr A55 ers y digwyddiad.
Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru nad oedd unrhyw un wedi marw, ond cafodd digwyddiad mawr ei ddatgan.
Bydd terfyn cyflymder dros dro o 50mya o gwmpas y twnnel, a bydd y twnnel tua'r gorllewin yn cau dros nos yr wythnos nesaf ar gyfer atgyweiriadau, yn ôl Traffig Cymru.
Fe gafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub wybod am y tân am 13:49 ddydd Iau ac fe adawodd y criwiau'r lleoliad am 19:52.
Yn ôl llefarydd ar ran y gwasanaeth fe gafodd 10 injan dân eu galw i'r digwyddiad.
Ar gyfartaledd mae tua 40,000 o gerbydau yn gyrru trwy'r twnnel bob dydd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates fod "gwaith anhygoel wedi digwydd i gael y twnnel yn ôl yn agor mor sydyn".
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates fod "gwaith anhygoel wedi digwydd i gael y twnnel i agor mor sydyn".
"Mae be fuasai wedi gallu bod yn ddigwyddiad erchyll wedi ei osgoi oherwydd y cynlluniau a'r gwaith paratoi am y fath yma o ddigwyddiad," meddai.
"Mae'r timau ar draws y gwasanaethau brys, asiantaeth cefnffyrdd, a Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith arbennig i sicrhau bod neb wedi brifo neu waeth, ac mae'r ymdrech sydd wedi mynd i mewn i'w ailagor mor sydyn mewn dim ond tri diwrnod yn anhygoel."
Ychwanegodd bod cydrannau trydanol yn y twnnel wedi cael eu newid a bod gwaith i sicrhau bod y twnnel yn ddiogel yn strwythurol hefyd wedi digwydd.
"Wnes i yrru drwy'r twnnel yn gynharach heddiw a fuasech chi erioed yn meddwl fod tân mawr wedi digwydd yna," meddai.

Roedd lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos craen ar dân yn y twnnel
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin