Menyw 65 oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan fan
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 65 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cerddwr a fan ym Mlaenau Gwent.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd yr Eglwys yn nhref Blaenau tua 11:10 ddydd Sadwrn.
Cafodd yr heddlu a pharafeddygon eu hanfon i'r safle ond bu farw'r fenyw, oedd yn byw yn y dref, yn y fan a'r lle.
Dywed Heddlu Gwent eu bod yn rhoi cymorth i'w pherthnasau, a bod gyrrwr y fan - dyn 31 oed, sydd hefyd o'r dref - "yn helpu swyddogion gyda'u hymholiadau".
Mae'r llu yn apelio i glywed gan unrhyw un a deithiodd ar hyd Stryd yr Eglwys, neu a oedd yn yr ardal, rhwng 10:50 a 11:15 ddydd Sadwrn, 18 Ionawr.
Maen nhw hefyd yn gofyn am luniau camera ar neu gamera teledu cylch cyfyng all fod o gymorth i'r ymchwiliad.