Y lleuad yn llenwi'r awyr o Aberdaron i Abertawe

Yr olygfa yn Llandudno nos Fawrth
- Cyhoeddwyd
Roedd golygfeydd godidog i'w gweld ar hyd Cymru nos Fawrth wrth i'r lleuad llawn gyfuno ag eclips lloerol rhannol.
Mae'r hyn sy'n cael ei gyfeirio at fel supermoon - sef pan mae'r lleuad yn ymddangos yn arbennig o fawr a llachar - yn digwydd pan mae'r lleuad ar ei bwynt agosaf wrth fynd o amgylch y ddaear.
Roedd diffyg rhannol ar y lleuad i'w weld yn oriau mân fore Mercher hefyd, gyda thua 4% o wyneb y lleuad wedi ei orchuddio gan gysgod y ddaear.
Gyda'r awyr yn anghyffredin o glir, roedd modd gweld y ffenomenon o bob rhan o Gymru.

Caerdydd

Tonypandy

Llandegla
Mae supermoon yn ddigwyddiad anghyffredin, a dyma'r ail o bedwar fydd yn digwydd eleni.
Dydi diffyg rhannol ar y lleuad ddim yn ddigwyddiad sydd i'w weld yn aml chwaith.
Fe fydd yr eclips lloerol rhannol nesaf ym mis Awst 2026, pan mae disgwyl y bydd 96% o wyneb y lleuad wedi ei gysgodi.

Aberdaron

Caerdydd

Abertawe
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2024
- Cyhoeddwyd11 Mai 2024
- Cyhoeddwyd13 Awst 2024