Cymraeg sêr fel Dewi Lake ac Aaron Ramsey yn gosod 'esiampl wych'

Dewi Lake oedd capten Cymru yn eu gemau diwethaf yn erbyn Awstralia dros yr haf
- Cyhoeddwyd
Mae sêr y byd chwaraeon fel Dewi Lake ac Aaron Ramsey yn arwain drwy esiampl ac yn annog pobl ifanc i ddefnyddio eu Cymraeg.
Dyna farn Rheolwr y Gymraeg Undeb Rygbi Cymru, sy’n dweud bod chwaraeon yn ffordd o roi hyder i bobl sy’n ansicr wrth ddefnyddio’r iaith.
Mewn cyfweliad ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru, dywedodd Gwyn Derfel hefyd fod cynnwys Cymraeg o fewn rhaglenni diwrnod gêm rygbi Cymru wedi codi o 10% i 40%.
Mae'r Undeb wedi'u beirniadu yn y gorffennol am eu diffyg dwyieithrwydd.
Ond mae Mr Derfel yn dweud fod newid agweddau wedi bod yn fewnol, er mae'n cydnabod bod "lot fawr o ffordd i fynd".
'Cymraeg gwbl naturiol'
Dywedodd Mr Derfel ei fod wedi treulio diwrnod ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd eleni gyda chapten tîm rygbi Cymru Dewi Lake.
"Roedd gweld ymateb y bobl ifanc i’r ffaith bod capten Cymru yn siarad Cymraeg ac yn dweud ‘os nad ydw i’n siŵr o ambell air Cymraeg dwi’n jest yn d'eud y gair Saesneg - so what?’
“Cymraeg gwbl naturiol ac mae’n arbennig o bwysig bod pobl sydd efo’r Gymraeg yn ei defnyddio.
“Mae chwaraeon yn gyfle gwych i fod yn esiampl wych i bobl ifanc sydd falle ddim mor hyderus yn eu Cymraeg.”

Cafodd capten pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, ei addysg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Roedd yn canmol Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd am y ffordd wnaethon nhw ddelio gydag Aaron Ramsey dros y blynyddoedd.
Fe wnaeth y chwaraewr, sydd bellach yn gapten ei wlad, roi'r gorau i wneud cyfweliadau Cymraeg yn sgil beirniadaeth am safon ei iaith meddai rhai - ond mae hynny bellach wedi newid.
"Be' oedden nhw’n ei wneud efo chwaraewyr oedd ddim yn arbennig o hyderus, yn enwedig Aaron Ramsey, roedden nhw’n ei warchod ac roedden nhw’n ei annog o," meddai Mr Derfel.
"Ac mae Ramsey rŵan mor falch o 'neud stwff yn Gymraeg ac maen nhw’n fodelau rôl mor, mor bwysig.”

Cyn cael ei benodi i’w swydd newydd 18 mis yn ôl roedd Gwyn Derfel yn rheolwr cyffredinol prif gynghrair pêl-droed Cymru, Y Cymru Premier
Mr Derfel oedd y person cyntaf i gael ei benodi fel Rheolwr y Gymraeg i’r undeb rygbi pan gafodd y swydd newydd ei chreu yn 2023.
Roedd hynny’n dilyn cyfnod pan gafodd yr undeb ei beirniadu am ddiffyg defnydd o’r iaith, o’i gymharu gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru.
Yn ôl Mr Derfel, fe gafodd ei "siomi ar yr ochr orau" pan ddechreuodd y swydd gan fod cymaint o wasanaethau yn y Gymraeg, ond bod angen gwella - gan gynnwys cynyddu’r defnydd a chreu polisi iaith newydd a’i gweithredu.
'Undeb Rygbi Cymru wedi gwella'
Er bod “lot fawr o ffordd i fynd”, meddai, mae nifer o welliannau wedi eu gwneud ac mae agweddau positif o fewn yr undeb.
"'Da ni ar siwrnai ar hyn o bryd, mi ryda ni’n anelu at wella - ond, er enghraifft, mae datganiadau ni i’r wasg yn gwbl ddwyieithog," meddai.
“Mae cynnwys ein rhaglenni ni ar gemau wedi codi o 10% yn Gymraeg i 40%... ac fel mae’n digwydd mae gêm y menywod yn Rodney Parade yn erbyn Awstralia - honno fydd y rhaglen gwbl ddwyieithog gynta' mae’r undeb wedi ei chyhoeddi.
"Felly mae 'na welliannau yna ond dechrau’r daith yda ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023