Taflu cerrig i 'Garu ar y Gwely'
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd Santes Dwynwen mae hen draddodiadau caru Cymru yn destun sy'n haeddu ein sylw. Ond faint wyddoch chi am hanes rhai o arferion canlyn Cymry'r gorffennol?
Yr hanesydd Elin Tomos sy'n bwrw golwg ar y traddodiad o 'Garu ar y Gwely'.
Deffro'r ferch
Un arfer cyffredin yn y Gymru wledig oedd 'Caru ar y Gwely' neu 'Garu yn y Gwely' a 'Charu'r Nos.' Fel rheol, byddai dyn ifanc - o fferm gyfagos gan amlaf - yn curo ar ffenest ystafell wely merch ifanc trwy daflu graean neu garreg, arfer a elwir yn 'cnoco' neu 'cnoco lan' mewn rhai ardaloedd.
Wedi deffro'r ferch mi fyddai'r dyn ifanc yn ymuno â hi yng nghegin y tŷ neu yn ei hystafell wely lle'r oeddent i fod i dreulio'r nos yn eu dillad gyda darn o bren rhyngddynt mewn ymdrech i amddiffyn diweirdeb y ferch.
Roedd 'Caru ar y Gwely' yn arfer poblogaidd ar draws siroedd Aberteifi, Penfro, Caerfyrddin, Meirionnydd, Caernarfon a Môn. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod arferion tebyg wedi bod yn gyffredin mewn gwledydd eraill hefyd gan gynnwys yr Alban, Lloegr, gwledydd Sgandinafia, yr Iseldiroedd a'r Unol Daleithiau.
Yn anad dim, roedd yr arfer yn ymarferol a chyfleus. Bryd hynny, rhaid cofio bod gweithwyr amaethyddol a morwynion domestig yn gweithio oriau hir.
Fel rheol, byddai gweithwyr yn cael eu rhyddhau i fynychu gwasanaethau crefyddol ar y Sul ac efallai yn derbyn hanner diwrnod yr wythnos o amser rhydd ychwanegol. Roedd y cyfleoedd i gwrdd â chymar newydd yn brin a'r cyfleoedd hynny i dreulio amser yn dod i'w hadnabod yn well yn brinnach fyth.
Y Gymraes â moesau llac?
Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd rhai yn dechrau lleisio barn yn erbyn yr hen draddodiad. Codwyd nyth cacwn ym mywyd cyhoeddus Cymru yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar gyflwr addysg y wlad ym 1847; adroddiad a gyfeiriwyd ato'n fuan wedyn fel Brad y Llyfrau Gleision.
Dadrithiwyd y Cymry gan sylwadau'r arolygwyr; portreadwyd Cymru fel gwlad gyntefig ac anfoesol ac yn yr adroddiad gosodwyd chwyddwydr ar ferched Cymru a daethpwyd i'r casgliad bod gan y Gymraes foesau llac. Yn ôl yr adroddiad roedd hoffter y Cymry o 'garu'r nos' yn destun cywilydd. Yn wir, ym marn yr arolygwyr trachwant merched y wlad oedd 'prif bechod y Cymry.'
Yn dilyn trawma cyhoeddi'r adroddiad roedd crefyddwyr a pharchusion Cymru yn benderfynol o wrthbrofi honiadau dilornus yr arolygwyr ac aethpwyd ati i geisio rhoi terfyn ar arferion megis 'Caru ar y Gwely.'
Nid codi cywilydd ar y bechgyn ieuanc, oedd yn arddel traddodiad, oedd eu nod - y merched a feirniadwyd!
Ym 1868 fe wnaeth 'amaethwr parchus' o Sir Fôn rybuddio ei forwynion bod yn rhaid iddynt roi'r gorau i 'garu ar y gwely' ac os y digwyddai ef ddal un ohonynt yn gadael i ddyn ddyfod ati i'r gwely, y byddai'n llosgi'r 'gwely halogedig'.
Gan gadw at ei air, yn fuan wedyn, ac yntau wedi dal un o'i forwynion yn 'caru ar y gwely', llusgwyd gwely'r forwyn allan o'r tŷ ac fe'i llosgwyd yn ulw ar y buarth yng ngwydd pawb a oedd yn gweithio yno.
Mewn llythyr a argraffwyd ym mhapur newydd Y Faner nodwyd bod y 'ferch ieuangc fu yn caru ynddo' wedi cael ei gorfodi i fod yn bresennol i edrych arno yn llosgi o'i hachos. Roedd y llythyrwr (a guddiai tu ôl i'r ffugenw 'Edmygwr') yn falch o ddatgan bod y morwynion eraill wedi achub ar y cyfle i weiddi pethau annymunol ar y ferch hefyd.
Gwarchod y traddodiad
Er gwaethaf y sylwadau dirmygus, roedd llawer o Gymry yn daer o blaid y traddodiad. Pan feiddiodd y Parchedig T. Miles Evans, Abergwili, godi ei lais yn erbyn yr arfer mewn pregeth Sul fe wawdiwyd ef yn gyhoeddus.
Mynnodd y gynulleidfa nad oedd ganddo'r hawl i ymosod ar 'arferion y wlad.' Gyda chenedlaethau o gyplau wedi canlyn trwy 'garu'r nos' roedd llawer yn teimlo na allent ymddwyn yn rhagrithiol ac atal y to iau rhag arddel yr hen arferiad.
Ym 1870 llwyddodd dau was fferm o'r enw Jenkins a Williams ddwyn achos yn erbyn perchennog fferm Gwynfryn yn ardal Aberystwyth am ymosod yn ffyrnig arnynt ar ôl iddo'u dal yn 'caru'r nos' gyda dwy o'i forwynion.
Cyhoeddwyd yr hanes yn yr Illustrated Police News lle'r oedd y gohebydd yn beirniadu'r arfer gwledig ac yn synnu bod y rheithgor wedi ochri gyda'r gweision trwy sicrhau iawndal o £15 yr un iddynt, swm sydd oddeutu £1,000 yn ein harian ni heddiw!
Erbyn terfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth yr arfer yn fwyfwy anghyffredin er mae rhai'n dadlau bod y traddodiad wedi parhau hyd at ganol y ganrif ddiwethaf mewn rhai ardaloedd megis siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin. Heddiw, mae'n annhebygol y bydd unrhywun yn taflu cerrig ar ffenestr hen ffermdy yn y gobaith o ddod o hyd i'w enaid hoff cytûn!