Tad i ddau fu farw mewn gwrthdrawiad wedi ei wahardd rhag gyrru - cwest

A494 LlanferresFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A494 yn Llanferres gan blismon oedd oddi ar ddyletswydd, meddai'r crwner

  • Cyhoeddwyd

Roedd beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad ddechrau'r mis wedi ei wahardd rhag gyrru ar y pryd, mae cwest wedi clywed.

Bu farw Matthew Peacock, 32, ar ôl i'w feic modur Honda daro fan Mercedes Sprinter ar yr A494 yn Llanferres, sir Ddinbych ar 6 Mawrth.

Roedd Mr Peacock, tad i ddau o blant o Ruthun, ar ei ffordd i'w waith yn siop Boots ym Mrychdyn pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 09:16.

Yn dilyn post-mortem cafodd anafiadau lluosog ei roi fel yr achos marwolaeth dros dro. Bydd profion tocsicoleg pellach yn cael eu cynnal.

'Gwên gynnes'

Dim ond yn ddiweddar yr oedd Mr Peacock wedi dechrau gweithio fel swyddog diogelwch ym Mrychdyn - ar ôl gweithio yn siop Boots Rhuthun cyn hynny.

Dywedodd ei gydweithwyr ei fod yn "cael ei nabod am ei garedigrwydd, ei wên gynnes a'i barodrwydd i helpu unrhyw un mewn angen".

Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd apêl ei lansio i helpu teulu Mr Peacock i dalu am yr angladd ac mae'r targed o £6,000 bron wedi'i gyrraedd.

Cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad sydd eto i'w bennu.

Pynciau cysylltiedig