Ceidwadwyr yn gadael pwyllgor Covid dros ffrae tyngu llw

- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymddiswyddo o bwyllgor Covid y Senedd, ar ôl i Lafur wrthod cefnogi eu galwadau i dystion roi tystiolaeth ar lw.
Cafodd y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 ei sefydlu er mwyn darganfod bylchau yn ymchwiliad Covid y DU - bylchau sydd angen eu harchwilio'n fanylach yng Nghymru.
Dywedodd Tom Giffard, sydd bellach wedi ymddiswyddo fel cyd-gadeirydd y pwyllgor, fod "teuluoedd a gollodd anwyliaid yn haeddu atebion gonest", a bod Llafur yn rhwystro hynny.
Dywedodd Jane Hutt, yr Ysgrifennydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol, bod galwadau i dystion dyngu llw yn "bryderus", ac yn rhoi'r argraff "na fyddai modd ymddiried yn y dystiolaeth fel arall".
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Mae Ymchwiliad Covid y DU yn cael ei arwain gan farnwr ac yn clywed tystiolaeth ar lw, ond nid yw hynny'n rheidrwydd i bwyllgorau Senedd - er ei fod yn bosib mewn rhai achosion.
Ni fydd y Ceidwadwyr yn cymryd rhan yn y pwyllgor, ac mae'n ansicr a fydd modd parhau gydag ond ASau Llafur a Phlaid Cymru.
Heb orfodi tystion i dyngu llw, mae'r pwyllgor yn "siop siarad ddibwynt", meddai Tom Giffard, gan ddweud ei fod yn gwrthod bod â rhan mewn "proses sy'n methu a rhoi atebion i'r cyhoedd".
Dywedodd Ceidwadwr arall, Sam Rowlands, bod angen i'r pwyllgor gael y pwerau "er mwyn cael ei chymryd o ddifrif".

Dywedodd Tom Giffard bod y pwyllgor yn "siop siarad ddibwynt"
Roedd Llywodraeth Cymru'n poeni y gallai gofyn i bobl roi tystiolaeth ar lw ei gwneud yn llai tebygol y byddai tystion yn cyfrannu.
Dywedodd Ms Hutt bod y llywodraeth wedi dangos "ymrwymiad clir i broses yr ymchwiliad ac i ddysgu gwersi".
Dywedodd y gallai rhoi tystiolaeth ar lw roi'r argraff na fyddai'n cael gwybodaeth gywir fel arall, a "niweidio'r ysbryd o bartneriaeth sydd yng Nghymru".
Gallai arwain at y rhai sydd wedi eu gwahodd yn bod yn anfodlon cymryd rhan, yn teimlo bod angen cyngor cyfreithiol neu'n cyfyngu eu hatebion, meddai.
Roedd Plaid Cymru wedi cefnogi'r Ceidwadwyr, gan eu bod hefyd wedi galw am ymchwiliad Covid ar gyfer Cymru yn unig.
Dywedodd AS Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, ei bod yn "amhosib dysgu'r ffeithiau cywir heb dystiolaeth ffeithiol, ac yn fwy pwysig, mae risg o ddysgu'r gwersi anghywir a pheryglu bywydau yn y dyfodol".
"Dyna pam yr wyf mor gadarn bod angen i dystion dyngu llw..."