'Pob dydd yn wahanol' i fyfyriwr, 20, sy'n byw gyda Covid hir

Yn y llun yma mae Bethan yn gwenu i'r camera. Mae hi'n gwisgo cap du, sbectol du a chot du. Tu ol iddi mae 'na nifer o adeiladau.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bethan yn 16 oed pan gafodd hi coronafeirws am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Covid hir wedi dwyn tipyn oddi ar Bethan Mai.

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae hi wedi gorfod addasu bob elfen o'i bywyd yn sgil y symptomau hirdymor sy'n eu heffeithio.

Pum mlynedd ers i'r pandemig daro, mae BBC Cymru wedi siarad â phobl ifanc sy'n dweud bod coronafeirws wedi dwyn eu plentyndod.

Mae'r elusen, Long Covid Kids, yn galw am sefydlu gwasanaethau pediatrig arbenigol yng Nghymru.

'Sgwrs ddiwethaf yn 2023'

Cafodd Bethan Mai, o Bontardawe, wybod fod ganddi Covid-19 ym mis Medi 2021.

Roedd hi newydd ddechrau yn y chweched dosbarth ac yn 16 oed.

"O'dd e jyst yn teimlo fel annwyd," meddai Bethan, sydd bellach yn 20 oed.

Ond wrth i'r boen newid a phara am fisoedd, dechreuodd feddygon amau ei bod hi'n dioddef o Covid hir.

Er i Bethan gael cymorth i gleifion Covid hir, roedd y driniaeth i blant a phobl ifanc yn ei siomi.

"Oedden nhw wedi dangos i fi'r prosesau galla'i ddefnyddio i 'neud bywyd fi'n well," meddai. "Roedd yr help wedi rhedeg allan.

"Roedd yn siomedig mewn ffordd oherwydd yn fy mhen o'n i'n meddwl y byddai'n nhw yma i fy nghefnogi yn y tymor hir.

"Rwy'n meddwl mai'r tro diwethaf i mi gael sgwrs gyda nhw oedd fy mlwyddyn olaf yn chweched dosbarth felly byddai hynny wedi bod yn gynnar yn 2023."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eu bod nhw'n flin bod Bethan yn teimlo nad oedd y cymorth ar gael.

Ychwanegodd y bwrdd y byddai Bethan yn gymwys am gymorth fel oedolyn, fel rhan o'r rhaglen adferiad sydd ar gael.

Yn y llun yma mae Bethan yn eistedd wrth ddesg yn Senedd Cymru yng Nghaerdydd. Ar y ddesg mae papuriau amrywiol sydd trafod profiadau plant a phobl ifanc o cofid hir.Ffynhonnell y llun, Bethan Mai
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan yn benderfynol o rannu ei phrofiad a chodi ymwybyddiaeth

"Mae pob dydd yn wahanol," meddai Bethan, sy'n byw gyda blinder dyddiol, ymhlith symptomau eraill.

Mae'r fyfyrwraig wedi gorfod teilwra ei haddysg oherwydd nad yw hi wastad yn bosib iddi fynd i bob gwers a darlith yn sgil ei symptomau.

"Fi'n cymryd y bws o adre i'r brifysgol ac mae hwnna fel arfer yn cymryd awr a hanner, 'falle dwy awr. Mae hwnna yn cymryd lot allan ohona'i."

O ganlyniad i'w chyflwr dyw Bethan ddim yn gallu gwneud yr hyn mae ei ffrindiau yn gwneud fel dysgu gyrru.

"Dyw pobl ddim yn deall bod nhw angen bod yn gynhwysfawr oherwydd fi'n edrych yn iawn."

Beth yw Covid hir?

Mae cyflwr Covid hir, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), yn gysylltiedig â feirws Covid-19 ac yn cwmpasu tua 200 o symptomau sy'n para o leiaf deufis, heb unrhyw esboniad arall.

Dyw hi ddim yn glir faint o blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi'u heffeithio gan y cyflwr ond mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod tua 94,000 o bobl yn byw gyda'r cyflwr ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran elusen Long Covid Kids fod diffyg data yn un o'r prif bryderon.

"Mae'r gwasanaethau arbenigol y mae meddygon teulu yn cyfeirio atynt yn rhai pediatrig yn bennaf ond ar hyn o bryd does dim darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru."

Bethan MaiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bethan bod ei dyled yn fawr i athrawon chweched dosbarth Ysgol Gyfun Ystalyfera

"Mae'r gefnogaeth wedi bod yn dda," meddai Bethan am ei phrofiad fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe.

Ond er iddi gael cefnogaeth benodol o adran sy'n ymwneud â disgyblion gydag anableddau, mae Bethan wedi wynebu cwestiynau am ei phresenoldeb.

"Dwi hefyd wedi cael sefyllfaoedd eraill lle mae un ai sylwadau wedi'u gwneud, neu lle dywedwyd wrthyf nad yw fy mhresenoldeb yn foddhaol, sy'n brofiad rhyfedd o ystyried bod y brifysgol ei hun wedi cyfaddef bod angen cael mwy o hyblygrwydd o ran fy mhresenoldeb.

"Maen nhw'n trio bod yn inclusive ond ti jyst yn meddwl 'dwi ddim yn dod mewn am reswm sydd yn iawn'."

E-byst awtomatig

Dywedodd Prifysgol Abertawe eu bod nhw'n ymroi i gefnogi pob myfyriwr, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda chyflyrau fel Covid hir.

Mae'r brifysgol wedi cydnabod bod e-byst awtomatig am bresenoldeb myfyriwr ddim wastad yn cydnabod cymhlethdod sefyllfa'r unigolyn.

Ychwanegodd eu bod nhw'n adolygu prosesau o hyd ac yn annog myfyrwyr i rannu eu pryderon.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynyddu'r cyllid sydd ar gael i gefnogi pobl sy'n profi effeithiau iechyd hirdymor y feirws.

"Mae byrddau iechyd yn darparu cefnogaeth unigol ac wedi'i theilwra i bobl o bob oed sydd â Covid hir trwy Raglen Adferiad," meddai llefarydd.

Pynciau cysylltiedig