Paratoadau Covid Cymru: Naw maes angen archwiliad pellach

Arwydd Covid-19Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r modd y cafodd negeseuon eu rhannu gyda'r cyhoedd ymhlith y materion sydd wedi eu codi

  • Cyhoeddwyd

Mae bylchau wedi'u nodi yn ymateb Cymru i'r pandemig Covid, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.

Mae'r pwyllgor trawsbleidiol wedi bod yn edrych ar sut y gwnaeth Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ymateb i'r argyfwng.

Mae nawr am archwilio sut y gellir cynllunio'r model gwytnwch a pharodrwydd gorau i Gymru.

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yn y Senedd fis nesaf pan ofynnir i Aelodau o'r Senedd gymeradwyo ymchwiliad pellach.

Arwydd am reolau Covid CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwahaniaethau rhwng rheolau gwledydd y DU yn golygu bod angen rhannu negeseuon gyda'r gyhoedd

Dyma adroddiad cyntaf y pwyllgor ers iddo gael ei sefydlu ym mis Mai 2023.

Gwaith y pwyllgor yw nodi pa fylchau yn Ymchwiliad Covid-19 y DU gyfan, sydd angen eu harchwilio'n fanylach yng Nghymru.

Cyhoeddwyd adroddiad cychwynnol yr ymchwiliad hwnnw fis Gorffennaf diwethaf tra rhoddodd Llywodraeth Cymru eu hymateb ym mis Ionawr.

Mae pwyllgor y Senedd wedi ystyried yr ymateb hwnnw ac mae hefyd wedi casglu tystiolaeth i ganfod a oedd unrhyw fylchau, ac wedi cyflogi arbenigwyr o Brifysgol Nottingham Trent i gynorthwyo.

Daeth y pwyllgor o hyd i naw maes y mae angen eu harchwilio ymhellach:

  • Adolygu'r model gwytnwch a pharodrwydd mwyaf effeithiol i Gymru;

  • Rhannu data yn ystod argyfyngau;

  • Eglurder negeseuon cyhoeddus;

  • Dysgu sut i egluro rolau sifil wrth gefn a gwella atebolrwydd;

  • Edrych ar argyfyngiadau sifil wrth gefn ar draws ffiniau, lle mae cyfrifoldebau yn cael eu rhannu;

  • Adolygu sut y mae modd rhannu prosesau gwytnwch blaenllaw yng Nghymru;

  • Ystyried sut all anghydraddoldebau cymdeithasol gael eu cynnwys yn y strwythurau parodrwydd a gwytnwch;

  • Adolygu manteision dull penodol i Gymru o gryfhau systemau gwytnwch;

  • Ystyried y ffordd orau i Gymru weithredu argymhellion adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU.

'Pandemig yn brofiad poenus a thrawmatig'

Dywedodd Joyce Watson AS a Tom Giffard AS, cyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19:

"Heddiw, rydym yn lansio adroddiad cyntaf Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19.

"Mae'n ganlyniad misoedd o waith cynhwysfawr i asesu a nodi bylchau posibl i'w harchwilio ymhellach o ganfyddiadau adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU.

"Roedd y pandemig yn brofiad poenus a thrawmatig i lawer yng Nghymru. Rydym yn hynod ddiolchgar am y mewnwelediadau a'r profiadau a rannwyd gan bawb a wnaeth ein cynorthwyo gyda'n gwaith, gan gynnwys ein hymgynghoriad cyhoeddus a'n digwyddiad rhanddeiliaid.

"Rydym wedi nodi ein casgliadau ac wedi tynnu sylw at bob maes rydym yn credu bod angen ei archwilio ymhellach.

"Bydd y bylchau hyn yn cael eu cyflwyno mewn cynnig i'r Senedd gyfan i'w hystyried yr wythnos nesaf."

Mae gofyn i'r Senedd gymeradwyo'r ymchwiliad pellach hwn ar 2 Ebrill.

Os yn cytuno, bydd y pwyllgor wedyn yn dechrau gweithio ar graffu sy'n benodol i Gymru y tu hwnt i'r gwrandawiadau a wnaed eisoes gan Ymchwiliad y DU gyfan.