Heddlu'n ymchwilio i ladrad 42 o ŵyn yng Ngheredigion

ŵynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y defaid (nid y rhai uchod) eu dwyn rhywbryd o fewn y tair wythnos ddiwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i 42 o ŵyn gael eu dwyn o gae yng Ngheredigion.

Cafodd yr anifeiliaid eu dwyn ger pentref Capel Cynon, ac roedden nhw'n rhan o braidd o 400 o ddefaid.

Cafodd y lladrad ei adrodd i Heddlu Dyfed-Powys ar 29 Awst, ac maen nhw'n credu i'r lladrad ddigwydd rhywbryd o fewn y tair wythnos ddiwethaf.

Dywedodd yr Arolygydd Matthew Howells o'r llu eu bod "unwaith eto yn troi at y gymuned ffermio i'n helpu i ddod o hyd i'r anifeiliaid hyn ac adnabod y rhai sy'n gyfrifol".

Rhiciau nodweddiadol yr ŵyn yn eu clustiauFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan yr ŵyn riciau nodweddiadol yn eu clustiau

Roedd yr ŵyn yn cael eu gwirio'n aml, meddai'r heddlu, ond oherwydd y swm mawr ohonynt yn y cae, ni wnaeth y perchennog sylwi fod rhai ar goll tan iddyn nhw gael eu cyfrif.

Mae gan y mwyafrif o'r ŵyn wynebau gwyn, ond mae rhai ag wynebau du, ac mae ganddyn nhw farc gwyrdd a glas ar eu pennau a'u cefnau.

Nid yw'r ŵyn wedi eu tagio, ond mae ganddyn nhw riciau nodweddiadol yn eu clustiau.

Nid oes unrhyw ŵyn wedi'u gwerthu o'r praidd hwn eleni, felly ni ddylai fod unrhyw ŵyn mewn mannau eraill gyda'r un rhiciau yn y clustiau.

'Effaith ddinistriol'

Dywedodd yr Arolygydd Howells fod yr heddlu'n gwybod o brofiad y bydd yr "atebion" o fewn y diwydiant.

"Bydd rhywun wedi gweld yr anifeiliaid hyn, naill ai'n cael eu rhoi trwy farchnad stoc, lladd-dy, neu efallai eu bod mewn cae ger lle'r ydych chi'n byw ac yn gweithio," meddai.

"Mae yna hefyd y posibilrwydd eu bod wedi mynd i mewn i'r gadwyn fwyd yn anghyfreithlon fel 'smokies'."

Ychwanegodd yr arolygydd fod "lladrad ar y raddfa hon yn cael effaith ddinistriol ar y dioddefwr, ei deulu a'i fusnes".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.