70,000 yn gwylio Oasis yng Nghaerdydd ar ôl 16 mlynedd

Daeth ffans Oasis o bob cwr o'r byd i Gaerdydd i fwynhau'r gyngerdd gyntaf ers 2009
- Cyhoeddwyd
Perfformiodd Oasis am y tro cyntaf mewn 16 o flynyddoedd yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd nos Wener.
Chwaraeodd y band ei holl ganeuon mwyaf adnabyddus, mewn set wnaeth bara ychydig dros ddwy awr o flaen bron i 70,000 o bobl.
Diolchodd y canwr, Liam Gallagher, i'r dorf am fod yn amyneddgar gyda'r band dros y blynyddoedd, ar ôl iddo gyrraedd y llwyfan gyda'i frawd, Noel, law yn llaw.
Bydd y grŵp yn perfformio am ail noson yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, cyn parhau gyda thaith fyd eang dros y misoedd nesaf.
"Odd gweld y ddau frawd yn cael cwtsh ar y diwedd – anhygoel"
Cyn y noson fawr, fuodd yna nifer o gwestiynau ynglŷn â safon y perfformiad a lleisiau'r brodyr Gallagher.
Ond yn fuan iawn roedd hi'n amlwg fod y band yn barod ac i'r miloedd yn y stadiwm yn gwylio, mi oedden nhw cystal ag oedden nhw yng nghanol y 90au.
Mwynhaodd y dorf wledd o ganeuon gan gynnwys 'Wonderwall', 'Morning Glory', 'Don't Look Back in Anger' a'r gân olaf, 'Champagne Supernova'.
Yn ystod y gân 'Live Forever', fe ymddangosodd ddelwedd ar y sgrin tu ôl i'r llwyfan o'r pêl-droediwr Lerpwl Diogo Jota - fuodd farw mewn damwain car yn Sbaen ar ddydd Iau.

Diolchodd Liam Gallagher i'r dorf am fod yn amyneddgar gyda'r band dros y blynyddoedd
Daeth cefnogwyr Oasis o bob cwr o'r byd i Gaerdydd, i fwynhau'r gyngerdd gyntaf ers 2009 - o Frasil i'r Almaen, Sweden a De Corea.
Yn y dorf hefyd roedd nifer o wynebau cyfarwydd gan gynnwys hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru, Craig Bellamy, y comedïwr Rob Brydon a'r actor Danny Dyer.
Fe gymharodd Liam Gallagher canu swynol y dorf i filoedd o gantorion megis Charlotte Church yn llenwi'r stadiwm.
Ar ddiwedd y perfformiad, fe gofleidiodd y brodyr Gallagher, cyn gadael y llwyfan wedi noson fythgofiadwy i'r miloedd o dan do'r stadiwm.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.