Oasis yn swyno Caerdydd - gig gyntaf y band ers 16 mlynedd

Fe fydd 41 o berfformiadau yn rhan o daith Oasis Live '25 - gyda'r cyfan yn dechrau yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bron i 16 mlynedd ers i Oasis berfformio'n fyw ddiwethaf, mae Liam a Noel Gallagher wedi dychwelyd i'r llwyfan yng Nghaerdydd.
Bydd y brodyr yn cychwyn eu taith newydd hir-ddisgwyledig yn y brifddinas gan berfformio am ddwy noson yn Stadiwm Principality ar 4 a 5 Gorffennaf.
Ar ôl rhyddhau eu halbwm cyntaf, Definitely Maybe, ym mis Awst 1994, roedd cerddoriaeth y brodyr Gallagher yn diffinio'r 90au.
Fe gafodd eu halbwm stiwdio olaf, Dig Out Your Soul ei ryddhau ym mis Hydref 2009 - misoedd yn unig cyn i'r band ddod i ben wedi ffrae yng ngŵyl Rock en Seine ym Mharis.
Ond, wedi blynyddoedd o ffraeo cyhoeddus rhwng Noel a Liam, fe gyhoeddodd y ddau fis Awst y llynedd y byddai'r band yn ailffurfio.
Disgrifiad o’r llun, Dim tocyn, dim problem!
1 o 3
'Ail-fyw fy ieuenctid'
Un sydd yn y stadiwm nos Wener ydi Rhys Llwyd o Gaernarfon, sydd wedi bod yn dilyn Oasis ers yn wyth oed.
"Dwi'n cofio'r haf cyn i fi fynd i'r ysgol fawr, Mam a Dad yn cael CD player i fi am y tro cyntaf, a'r CD cyntaf nes i brynu oedd ail albwm Oasis - (What's the story) Morning Glory? - ac ers y diwrnod yna ma' gyda fi 'chydig bach o obsesiwn efo Oasis."
Mae'n gwylio'r gyngerdd gyda'i wraig a'i fab wyth oed, deuddydd ar ôl iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed.
"Mewn ffordd mae hwn fel yr anrheg pen-blwydd perffaith i fi ail-fyw fy ieuenctid a chyflwyno'r genhedlaeth nesaf i Oasis."

Mae Jez Phillips yn falch o weld digwyddiadau o'r fath yn hwb i fusnesau'r brifddinas
Mae gwaith ymchwil gan fudiad CEBR yn awgrymu bydd y cyngherddau'n cyfrannu bron i £27m i economi Caerdydd.
Mae Jez Phillips, perchennog cwmni pizza Ffwrnes ym Marchnad Caerdydd, yn dweud bod y gyfres o gyngherddau yn y brifddinas wedi rhoi hwb i fusnesau bwyd.
"Ma' fe wedi bod yn brilliant ac ma' fe'n grêt i'r ddinas hefyd achos mae'r castell 'di bod gyda gigs, ma' Blackweir gyda gigs, a hefyd mae'r gigiau mawr yn y stadiwm.
"Mae Oasis yn gam mlaen eto, dwy noson, fi'n disgwyl iddo fe fod yn Supersonic!
"Ma'n grêt i bawb sy'n gwerthu bwyd, lot o bobl yn dod trwyddo, ni efo cynllun, paratoi mwy, a chael mwy o staff 'mlaen a gweld shwd ma' pethe'n mynd a rowlo 'da fe!"

Mae Mei Gwynedd yn disgrifio cyfarfod Oasis fel "un o nosweithiau gora' 'mywyd i"
Does gan y cerddor Mei Gwynedd ddim tocynnau, ond mae o wedi cyfarfod â'r band ac wedi perfformio ar yr un llwyfan.
"Mae 'na rwbath sydd yn amlwg wedi cysylltu Oasis rhwng rhai'n oed i a'r genhedlaeth nesa'," meddai.
"Mae genna i blant - dwy ferch 12 ac 14 - ac maen nhw wrth eu bodda' efo Oasis, efo posters fyny ac ma' nhw'n dwyn records fi.
"Pan o'n i yn y band The Peth - oedd Rhys Ifans yn ffrindia' da efo'r brodyr a dyna sut gawson ni gig yn eu cefnogi nhw yn y stadiwm, so oedd o'n anhygoel."
'Cysylltiadau efo Cymru'
Rhai blynyddoedd cyn hynny roedd Mei wedi eu cyfarfod nhw ar ôl cyngerdd yn Arena Ryngwladol Caerdydd.
"Y noson yna nes i rannu bỳs efo Noel yn ôl i'w hotel yn y bae, a be' oedd yn dda, mi oeddan nhw yn union fel o'n i'n gobeithio y byddan nhw.
"Oeddan ni'n licio'r un gerddoriaeth a'u cysylltiada' nhw efo Cymru - yn dod ar wylia' i Sir Fôn pan oeddan nhw'n ifanc.
"Oedd o'n helpu bod Rhys yn ffrinida' da efo nhw, yn amlwg, ond mi faswn i'n deud bod o'n un o nosweithiau gora' 'mywyd i."
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd27 Awst 2024
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Bydd y rhai sy'n mynd i'r cyngherddau yng Nghaerdydd hefyd yn cael cyfle i weld enwau mawr eraill cerddoriaeth indie y 90au, gyda Richard Ashcroft, prif leisydd The Verve, a Cast - y band Britpop o Lerpwl - hefyd yn perfformio.
Mae'r cysylltiad rhwng Ashcroft a'r brodyr Gallagher yn dyddio nôl degawdau, gan fod Oasis wedi cefnogi The Verve yn 1993.
Fe wnaeth Cast rannu llwyfan gyda Oasis yn un o'u sioeau yn Knebworth yn 1996 hefyd, ac yn fwy diweddar fe wnaethon nhw gefnogi Liam yn ar ei daith y llynedd i ddathlu 30 mlynedd ers rhyddhau Definitely Maybe.

Mae'r cyffro ar gyfer y cyngherddau yn amlwg o amgylch y ddinas
Mae disgwyl i giatiau Stadiwm Principality agor am 17:00 nos Wener a nos Sadwrn.
Ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon, fe rannodd Oasis neges yn nodi amseroedd y gwahanol berfformwyr.
Fe fydd Cast yn dechrau am 18:00, Richard Ashcroft am 19:00 ac Oasis eu hunain am 20:15.
Mae disgwyl i'r to fod ar gau yn Stadiwm Principality, fel yr oedd ar gyfer cyngherddau Taylor Swift y llynedd.

Mae Cyngor Caerdydd yn galw ar bobl i fynd mewn i'r stadiwm yn gynnar os yn bosib
Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau y bydd ffyrdd o amgylch y stadiwm ar gau rhwng 12:00 a hanner nos ar 4 a 5 Gorffennaf.
Mae rhestr lawn o'r ffyrdd fydd yn cael eu heffeithio ar gael ar wefan y cyngor, dolen allanol.
Mae'r awdurdod yn galw ar bobl sy'n mynd i'r cyngherddau i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar os yn bosib.
Y gred yw y bydd traffordd yr M4 yn brysur iawn cyn y cyngherddau ac mae gyrwyr yn cael eu hannog i wirio gwefan Traffig Cymru, dolen allanol cyn teithio.
Fe fydd y cyngor yn darparu mannau parcio yng Ngerddi Soffia a'r Ganolfan Ddinesig ar gyfer y cyngherddau, tra bod gwasanaeth parcio a theithio hefyd ar gael o'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd o 09:00.
Er bod Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod am ddarparu "capasiti ychwanegol" lle bo modd, mae'r cwmni wedi rhybuddio y gallai gwasanaethau fod yn hynod brysur.
Fe fydd cwmni GWR hefyd yn darparu chwech o drenau ychwanegol o Gaerdydd.

Dyma'r diweddaraf o gyfres o gyngherddau mawr i gael eu cynnal yn Stadiwm Principality yr haf hwn
Dywedodd yr arolygydd Adrian Snook o Heddlu'r De fod gan y llu "brofiad eang" o baratoi ar gyfer y math yma o ddigwyddiadau.
"Rydyn ni wedi paratoi ar gyfer y digwyddiad yma fel y bydda ni ar gyfer unrhyw ddigwyddiad mawr arall yn y ddinas - fe fydd 'na nifer o swyddogion ac adrannau gwahanol yn gweithio yng nghanol y ddinas y penwythnos hwn," meddai.
"Pwrpas hyn oll yw gwneud yn siŵr fod pawb sy'n ymweld â Chaerdydd yn gallu gwneud hynny mewn modd diogel, a'u bod yn mwynhau'r cyngerdd."
Ar ôl dwy noson yng Nghaerdydd, fe fydd Oasis yn perfformio ym Manceinion am bum noson yn Heaton Park ar 11, 12, 16, 19 a 20 Gorffennaf.
Wedi hynny fe fydd y band yn chwarae cyfres o ddyddiadau yn Stadiwm Wembley, Llundain, Stadiwm Murrayfield, Caeredin a Pharc Croke yn Nulyn.
Byddan nhw wedyn yn teithio i Toronto, Canada, i ddechrau rhan ryngwladol y daith cyn gorffen ar 23 Tachwedd yn São Paulo, Brasil.