Bachgen wedi marw ar ôl syrthio oddi ar feic modur a brynodd ar-lein

Preston yn paentio drws garej yn goch.Ffynhonnell y llun, Bayview Aluminium
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Preston Camps-Lee ar ôl syrthio oddi ar ei feic modur ddydd San Steffan 2023

  • Cyhoeddwyd

Bu farw bachgen, 15 oed, ar ôl syrthio oddi ar feic modur a brynodd ar Facebook yn ôl casgliad cwest.

Roedd Preston Camps-Lee, o Bort Talbot wedi bod allan gyda ffrind ar eu beiciau modur ddydd San Steffan 2023 ar ôl prynu'r beic Stomp ar-lein ychydig ddyddiau ynghynt.

Clywodd y cwest iddo golli rheolaeth ar y ffordd, taro palmant a syrthio gan achosi anaf difrifol i'w ymennydd.

Bu farw yn yr ysbyty'r diwrnod canlynol.

Mae teulu Preston bellach yn galw am ddeddf newydd i wahardd gwerthu beiciau modur i bobl dan oed heb ganiatâd rhieni.

Nododd adroddiad yr heddlu fod Preston wedi prynu'r beic am £500 ar ôl gweld hysbyseb ar Facebook.

Nid oedd gan deiars y beic ddigon o aer a doedd gan Preston – oedd yn gweithio'n rhan-amser gyda chwmni ffenestri - "ddim digon o brofiad" fel beiciwr.

Clywodd y cwest fod Preston wedi cael ei gynghori gan ffrind i beidio â phrynu'r beic modur, oedd a brêc cefn diffygiol, ond fe aeth ati beth bynnag.

Dywedodd ei fam-gu, Kay Camps: "Rwy'n credu y dylai fod cyfraith na ddylai beic gael ei werthu i blentyn heb ganiatâd y rhiant.

"Roedd yr hysbyseb yn dangos bod y beic yn barod i'w reidio. Fe wnaeth y beic ladd fy ŵyr.

"Roedd ei fywyd yn werth mwy na £500, doedd y beic hwnnw ddim i fod ar y ffordd."

'Cael ei garu gan bawb'

Dywedodd y crwner Aled Gruffydd: "Nid oedd Preston wedi dangos unrhyw ddiddordeb mewn beiciau modur o'r blaen ac nid oedd ganddo fawr o brofiad o'u gyrru.

"Yn y dyddiau cyn y Nadolig roedd yn awyddus i brynu beic modur ac wedi cymryd arno'i hun i wario arian a dderbyniodd fel anrhegion ac o'i gyflog i brynu beic modur."

Ychwanegodd: "Roedd Preston ar gefn beic modur oedd mewn cyflwr gwael gyda brêc cefn nad oedd yn gweithio - efallai bod hyn wedi effeithio ar ei allu i arafu wrth agosáu at y gornel ond nid oes modd cadarnhau hynny yn bendant."

Mewn teyrnged yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd ei fam Kelly, bod Preston fel ei "babi hi" a "dyn y tŷ".

Dywedodd bod Preston "yn ein cadw ni i gyd gyda'n gilydd" a'i fod yn "ddyn bach a oedd yn cael ei garu gan bawb".

Ychwanegodd: "Cysga'n dawel fy mab".

Cafodd Preston ei ddisgrifio gan ei ysgol fel "chwaraewr talentog" a "disgybl gwych".

Pynciau cysylltiedig