Lori wedi mynd ar dân yng nghanol Pwllheli

Llun o'r tân ym Mhwllheli o sedd teithiwr car
Disgrifiad o’r llun,

Does dim awgrym o sut ddechreuodd y tân ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddogion tân wedi bod yn ymateb ar ôl i lori fynd ar dân yng nghanol Pwllheli.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn ardal Ffordd Ala a Ffordd Caerdydd am tua 08:05 fore Mercher.

Mae lluniau yn dangos fflamau mawr yn dod o'r cerbyd wrth i griwiau tân geisio eu rheoli.

Dywedodd y gwasanaeth tân mewn datganiad fod y lori yn cludo nwyddau i siop leol ar y pryd.

Roedd pedwar criw tân a dwy uned arbenigol yn rhan o'r ymateb.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynghori pobl i osgoi'r ardal am y tro, gan ddiolch hefyd i'r cyhoedd am eu cydweithrediad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n gofyn i bobl osgoi'r ardal am y tro

Pynciau cysylltiedig