Newid posib i system barcio Caerdydd yn 'annheg' ar fyfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Mae newid posib i system barcio Caerdydd yn "annheg", meddai myfyrwyr, gan na fyddan nhw'n gymwys am drwydded.
Bwriad y cyngor sir yw "lleihau effaith cerbydau myfyrwyr ar drigolion lleol" a "hyrwyddo'r defnydd o deithio llesol a chynaliadwy".
Ond mae rhai myfyrwyr yn poeni am effaith hyn ar eu cyrsiau a'u ffordd o fyw.
Mae llywydd undeb cenedlaethol i fyfyrwyr wedi'i alw'n gynnig "gwleidyddol i gefnogi’r boblogaeth leol" a bod myfyrwyr wedi'u "rhoi i un ochr".
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor na fyddai unrhyw newid yn dod i rym tan o leiaf Hydref 2026, a bod hynny'n rhoi "digon o amser i fyfyrwyr ystyried trefniadau amgen".
Mae gan bobl Caerdydd - gan gynnwys myfyrwyr - tan 1 Rhagfyr i leisio'u barn ar y cynnig.
'Pawb yn flin a siomedig'
Mae un fyfyrwraig sy'n astudio meddygaeth wedi disgrifio'r cynnig fel un "anghyfleus ac annheg".
I Elain Edwards sy'n wreiddiol o Fangor, bydd y cynnig hwn yn "effeithio'n fawr" ar ei gallu i gyrraedd sesiynau addysgu mewn gwahanol ysbytai.
Er ei bod yn cydnabod bod y brifysgol yn darparu bysys i gyrraedd y lleoliadau, dywedodd nad yw rheiny'n "addas oherwydd yr amseroedd maen nhw'n mynd" gan ychwanegu fod 'na "ddiffyg hyblygrwydd".
Aeth ymlaen i ddweud bod "meddygaeth yn gwrs sydd wedi ei ddylunio i bobl sydd efo car, yn enwedig yn ne Cymru" a bydd yr anallu i barcio ei char yn Cathays yn broblem.
"Ma' pawb yn flin a siomedig oherwydd dwi’n teimlo bod y cyngor ddim yn rhoi priority i’r myfyrwyr.”
Dywedodd Eleri Davies, myfyrwraig ar ei thrydedd flwyddyn, fod gallu parcio car yn “allweddol” i fyfyrwyr yn y brifddinas.
Ag hithau’n gobeithio mynd ymlaen i astudio’r cwrs TAR Cynradd y flwyddyn nesaf, dywedodd y gallai’r cynnig yma effeithio ar ei phenderfyniad yn y pen draw.
“Byddwn ni’n mynd ar placement am hanner y flwyddyn, felly bydd angen bod yn yr ysgol am 08:20,” meddai.
Ychwanegodd y byddai’n rhaid iddi “adael mor gynnar yn y bore, ac mae hynny os mae’r trenau neu’r bysys yn rhedeg”.
Roedd o’r farn nad yw trafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd yn “ddibynadwy iawn” gan nodi fod “cymaint o’r trenau eleni yn rail replacement buses”.
Dywedodd ei bod yn teimlo’n “rhwystredig am y sefyllfa barcio 'ma, mae’n 'neud i fi ailfeddwl neud y cwrs TAR cynradd”.
Dywedodd hefyd fod diffyg gwybodaeth am yr ymgynghoriad yn broblem ymhlith ei chyd-fyfyrwyr.
“O'n i ddim yn gwybod bod e’n digwydd nes i fi weld neges…
"Dyw Cyngor Caerdydd heb roi dim byd lan, maen nhw wedi rhoi rhywbeth lan ar wefan nhw ond faint o bobl sydd actually yn checo’u gwefan nhw."
Fe ddisgrifiodd Deio Owen, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymru, y sefyllfa fel un “bryderus iawn” gan ddweud fod “myfyrwyr yn dibynnu lot arnyn nhw [ceir] ar gyfer pethau fel siopa, mynd ar brofiad gwaith, mynd i leoliad”.
Dywedodd ei bod hi’n “broblem bod hyn hyd yn oed yn cael ei ystyried” gan ddweud ei fod yn “bryder bo' ni’n gweld myfyrwyr yn cael eu rhoi i un ochr mewn cymunedau fel 'ma”.
“Mae o i weld wedi ei dargedu ac ella yn benderfyniad gwleidyddol i gefnogi’r boblogaeth leol," meddai.
Mae’n annog myfyrwyr i ymateb i’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod hyn ddim yn cael effaith arnyn nhw.
Beth yw'r ymgynghoriad?
Mae ymgynghoriad cyngor y brifddinas yn rhan o gynllun i gynnig "fframwaith newydd ar gyfer rheoli parcio yng Nghaerdydd".
Mae'r ymgynghoriad eisoes wedi agor a bydd yn dod i ben wedi chwe wythnos ar 1 Rhagfyr 2024.
Mae'n nodi mai bwriad creu'r ardaloedd o reoli parcio yw "rhoi cyfle gwell i breswylwyr barcio ar eu stryd, neu ar ffyrdd cyfagos at eu cartref - tra'n lleihau'r cyfleoedd i barcio ar gyfer cymudwyr".
Dywed un o gynigion yn yr ymgynghoriad na fydd "eiddo 'myfyrwyr yn unig’ yn gymwys i gael trwyddedau parcio" - a dyma sydd wedi cythruddo nifer o fyfyrwyr.
"Bydd peidio â darparu'r Trwyddedau Parcio i'r eiddo hyn yn lleihau effaith cerbydau myfyrwyr ar drigolion lleol ac yn hyrwyddo'r defnydd o deithio llesol a chynaliadwy gan fyfyrwyr," meddai'r cynnig.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys cyflwyno parthau parcio a chynigion.
"Ni fydd gan eiddo yn ardal allanol y ddinas hawl i drwyddedau parcio," meddai.
"Bydd unrhyw drwyddedau presennol yn cael eu diddymu'n raddol pan fydd deiliad y drwydded yn symud allan."
- Cyhoeddwyd27 Medi 2024
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2024
Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Caerdydd na fyddai newid o'r fath yn dod i rym tan Hydref 2026 "ar y cynharaf, gan roi digon o amser i fyfyrwyr ystyried trefniadau amgen".
“Hyd yn hyn mae 15% o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn fyfyrwyr ac mae ymgysylltu pellach yn digwydd gyda'r tair prifysgol i gynyddu'r gyfradd ymateb hon ymhellach," meddai llefarydd.
Maen nhw'n annog myfyrwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad gan ddweud eu bod wedi cyhoeddi "taflen wybodaeth sydd wedi'i hanelu at fyfyrwyr, sy'n cynnwys cod QR ar gyfer mynediad rhwydd i fynegi eu barn".
"Rhan o nod y cyngor yw edrych ar ffyrdd y gallwn hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy yn well yn y ddinas."