Jak Jones yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Jak Jones drwodd i rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd ar ôl curo Stuart Bingham 17-12 yn y Crucible yn Sheffield.
Y cyn-bencampwr Bingham oedd y ffefryn, gyda Jones yn rhif 44 ar restr detholion y byd.
Ond fe lwyddodd y gŵr o Gwmbrân i ddal ei afael ar ei fantais yn y sesiwn olaf a sicrhau ei le yn y ffeinal.
Os yn fuddugol, Jones fydd y chwaraewr cyntaf i ddod yn bencampwr byd ar ôl dod drwy'r rowndiau rhagbrofol ers Shaun Murphy yn 2005.
Y Cymro diwethaf i wneud hynny oedd Terry Griffiths yn 1979.
Bydd Jones, 30, yn wynebu Kyren Wilson yn y rownd derfynol ddydd Sul, gyda'r sesiwn agoriadol i ddechrau am 13:00.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai