Osian Roberts 'yn falch' o arwain Como i Serie A
- Cyhoeddwyd
Be sy’n dod i’r meddwl pan mae rhwyun yn sôn am Como?
Dinas sy’n cael lot o ymwelwyr yn un peth, gan fod Llyn Como ar garreg y drws, a hefyd gan ei bod hi mor agos at Yr Alpau.
Mi fydd yna atyniad newydd yno o fis Awst ymlaen, sef pêl-droed o’r radd flaenaf, achos mae clwb Como newydd ennill dyrchafiad i brif adran Yr Eidal, sef Serie A.
A phwy sydd wedi eu harwain nhw yno? Wel, neb llai na chyn is-reolwr Cymru Osian Roberts.
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr
“Dwi’n eithriadol o falch achos pan ddois i yma mi oedd ganddon ni lot o waith i’w wneud," meddai.
“Ond chwarae teg i’r chwaraewyr am y ffordd maen nhw wedi mynd o’i chwmpas hi.
“Fedra i ddim eu canmol nhw ddigon – maen nhw wedi bod yn ffantastig.
“Fel staff ‘dan ni wedi dod at ein gilydd yn sydyn iawn, wedi cydweithio’n agos a ‘dan ni wedi medru llwyddo i wneud be oedd y targed, sef cyrraedd Serie A.
“Mae’r freuddwyd wedi dod yn realiti."
Cyfnodau anodd
Mae stori clwb Como yn un ryfeddol. Y tro diwethaf iddyn nhw fod yn Serie A oedd yn nhymor 2002-03, pan orffenon nhw un safle o waelod y tabl a disgyn i Serie B.
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth ar ôl hynny, gyda’r clwb yn disgyn i Serie D, sef y bedwaredd haen ym mhyramid pêl-droed Yr Eidal.
Yn ogystal â hynny mi roedd yn rhaid dirwyn y clwb i ben ar ddau achlysur oherwydd problemau ariannol.
Ond mae pethau wedi bod ar eu fyny ers 2019 ar ôl i gwmni tobacco Djarum o Indonesia brynu’r clwb.
“Maen nhw wedi cael amser caled iawn," meddai Osian. "Maen nhw wedi bod yn y diffeithwch am y ddau ddegawd diwethaf.
“Mae hi wedi bod yn galed iawn ar bawb sy’n gysylltiedig â’r clwb.
“Ond mae’r perchnogion newydd wedi dod i fewn ryw bedair blynedd yn ôl, a rŵan maen nhw isho adeiladu rhywbeth sbesial. Mae ganddon ni bobl dda yma’n y clwb.
“Mae’n glwb mewn lleoliad sbesial iawn. Mae gen ti agosatrwydd cymuned Como, hanes Como a chymeriadau Como reit yn nghanol popeth.
“Mae’n glwb ac yn ddinas arbennig iawn. Dwi wedi bod yn hynod o ffodus i gael y profiad yma.”
Cefnogaeth Thierry Henry
Mi gafodd Osian ei benodi’n rheolwr dros dro nôl ym mis Rhagfyr ar ôl i Thierry Henry ei awgrymu i berchnogion y clwb.
Mae cyn-ymosodwr Ffrainc ac Arsenal yn un o gyfranddalwyr y clwb ers 2022.
Mae’r ddau yn nabod ei gilydd ers rhai blynyddoedd bellach, ar ôl i Henry wneud ei gymwysterau hyfforddi gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd.
Roedd y cyrsiau’n cael eu rhedeg gan Osian, oedd yn gyfarwyddwr technegol CBDC ar y pryd.
“Mi oedd cael rhywun fel Thierry yn rhoi ei ffydd ynddai yn golygu lot.
“Ond mi oedd yna bwysau arna'i wedyn i fod yn llwyddiannus. Dwi’n teimlo rhyddhad mawr fy mod i wedi llwyddo i arwain y clwb i Serie A.
“Dwi wedi bod yn siarad gyda Thierry ryw dair i bedair gwaith yr wythnos, a mae o bob tro wedi bod yn gefnogol.
“Mi fydd y cyfnod yma yn cael ei gofio fel pennod hynod lwyddiannus yn hanes y clwb.”
Tydi hi ddim yn glir eto be fydd rôl Osian y tymor nesaf.
Mae o hefyd yn gweithio fel pennaeth datblygiad y clwb, ac y bwriad gwreiddiol oedd ei fod yn canolbwyntio’n llwyr ar y swydd honno o ddechrau tymor 2023-24 ymlaen.
Ond a fydd hynny’n newid ar ôl yr hyn mae wedi ei gyflawni y tymor yma?
“Mae rhan gyntaf fy swydd wedi ei chwblhau, ac ar ôl pwyso a mesur ‘nawn ni gael sgwrs eto i weld sut awn ni o’i chwmpas hi y flwyddyn nesaf.
“Mae ‘na nifer o bosibiliadau a dwi ddim wedi meddwl dim am hynny i fod yn onest oherwydd y nod yn glir oedd ceisio mynd i fyny eleni. Os ddim eleni – allen ni fynd fyny y tymor nesa?
“Ond ‘dan ni wedi llwyddo i’w gwneud hi y tymor yma, sy’n sbesial iawn gan gofio’r clybiau mawr sydd o’n cwmpas ni.
“Mi fydd ‘na gyfle i eistedd lawr cyn bo hir a sortio allan sut mae’r clwb yma’n mynd i symud ymlaen.”
Paratoi at Serie A
Beth bynnag fydd rôl Osian y tymor nesaf, mi fydd ganddo ran bwysig i’w chwarae yn ymdrechion Como i aros yn Serie A.
Ar y funud mae stadiwm y clwb, Stadio Comunale G. Sinigaglia, dim ond yn gallu dal 7,500 o gefnogwyr, ond mae yna gynlluniau’n barod i wneud rhywbeth am hynny.
“Mae’n ymddangos y bydd yna waith yn cael ei wneud i ddatgblygu’r stadiwm. ‘Dan ni’n gobeithio y bydd pawb, gan gynnwys y cyngor lleol, yn ein helpu ni fel ein bod yn gallu gwneud hynny mor sydyn â phosibl.
“Dwi’n gobeithio hefyd y bydden ni’n gallu cryfhau’r garfan, ond mae’n bwysig cofio hefyd fod yna chwaraewyr da yma’n barod.
“Mae’n bwysig pan ‘dan ni’n mynd i Serie A ein bod ni’n mynd i gystadlu. Tydi’r perchnogion ddim eisiau i hyn fod yn rhywbeth dros dro.
"Sylfaen ydi hyn eleni i adeiladu arno, ac i barhau i adeiladu arno. Mae ‘na amser cyffrous iawn o flaen y clwb ac o flaen y ddinas, ac yn ffodus iawn i mi dwi reit yn ei chanol hi."