Beirniadu Zip World am godi tâl parcio ac arwydd uniaith Saesneg

Chwarel PenrhynFfynhonnell y llun, Zip World
Disgrifiad o’r llun,

Mae Zip World wedi'i feirniadu am godi am barcio ar ei safle yn Chwarel Penrhyn

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Zip World wedi'i feirniadu am godi tâl am barcio ar un o'i safleoedd yng Ngwynedd.

Mae arwyddion a gafodd eu gosod ym maes parcio Chwarel Penrhyn, Bethesda, yn nodi bod angen talu £3 am hyd at dair awr o barcio.

Mae'r cwmni yn cael ei feirniadu hefyd am osod arwyddion Saesneg yn unig.

Mae Zip World wedi ymddiheuro am y diffyg Cymraeg ar yr arwyddion ac yn dweud y bydd arwyddion Cymraeg yn cael eu gosod yr wythnos nesaf.

Ychwanegodd llefarydd fod y cwmni'n codi am barcio i "helpu gyda’r cynnydd mewn costau busnes".

'Rhag cywilydd'

Mae nifer o bobl leol yn flin bod rhaid talu am barcio - yn enwedig pobl sy'n mynd i'r caffi ar y safle.

Dywedodd Gaynor Davies: "Wel dyna ni fyddan ni ddim yn mynd am ginio neu coffi a talu £3 i barcio, na gyrru neb arall yna chwaith."

Dywedodd Barbara Hardy: "Rhag cywilydd iddyn nhw godi £3 i barcio. Mae pobl lleol yn mynd i'r Zip am ginio a coffi reit aml. Ni fydd pobl leol yn cefnogi hyn."

Dywedodd Ann Griffiths: "Ni fydd pobl leol yn mynd yna am goffi rwan - fydd o'n rhy gostus - pobl leol sy'n mynd yna'n y gaeaf pan mae'r twristiaid i ffwrdd."

'Siomedig'

Dywedodd y cynghorydd lleol Beca Roberts :"Gwynedd sy'n arwain y ffordd o ran proffil, polisi a'r defnydd o'r Gymraeg ledled Cymru.

"Mae sicrhau'r balans rhwng gwasanaethu cymunedau'r ardal a gwasanaethu'r diwydiant twristaidd yn her fawr - yn arbennig adeg yma o'r flwyddyn pan fo mwy o brysurdeb yn y fro.

"Siomedig ydy gweld arwyddion uniaith Saesneg gan gyflogwr mawr sy'n gwasanaethu pobl leol - mae canran uchel sy'n siaradwyr Cymraeg, yma yn Nyffryn Ogwen.

"Dwi'n hyderus y gall y gwall hwn gael ei unioni gan y cwmni, a byddaf yn cysylltu â Zip World i holi iddynt ailedrych ar eu polisi ieithyddol."

'Cynnydd mewn costau busnes'

Dywedodd llefarydd ar ran Zip World: “Yn yr un modd â nifer o fusnesau eraill, rydyn ni wedi dechrau codi am barcio yn Zip World i helpu gyda’r cynnydd mewn costau busnes.

"Dim ond un cynllun yw hwn a fydd yn golygu ein bod yn gallu dal ati i wella ac ailfuddsoddi yn ein safleoedd, gan gynnwys cynnal a chadw ac, yn bwysicaf oll, gwella’r profiad i’n holl ymwelwyr.

"Rydyn ni dal wedi ymrwymo i gefnogi ein cymunedau lleol a byddwn ni’n parhau i fuddsoddi yn yr ardaloedd sydd o amgylch ein safleoedd.”