Cyngor yn 'gamblo' ar rieni'n ailystyried addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor a chyn-aelod o grŵp y Super Furry Animals, Cian Ciaran, wedi beirniadu Cyngor Caerdydd yn hallt ar ôl i'w blentyn orfod aros tri mis i glywed a fyddai'n cael lle yn Ysgol Gyfun Glantaf eleni.
Roedd mab Mr Ciaran ymhlith yr 14 o blant aeth i apêl am nad oedden nhw wedi cael cynnig lle yn yr ysgol.
Doedd traean plant blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Hamadryad yn Nhrebiwt ddim wedi cael lle er bod yr ysgol yn nalgylch Glantaf.
Cadarnhaodd Cyngor Caerdydd fod 10 allan o 14 apêl ar gyfer Ysgol Gyfun Glantaf wedi bod yn llwyddiannus.
'Diffygion yn y system'
Dywedodd Mr Ciaran: "Roedd o'n gyfnod annifyr iawn a'r ysgol yn cysylltu gyda gwybodaeth a ninnau ddim yn gwybod a fyddai o'n mynd yno.
"Mae hyn wedi dangos y diffygion yn y system.
"Mae Cyngor Caerdydd yn gamblo bob blwyddyn ar rieni yn ailystyried addysg Gymraeg ac mae pob plentyn sy'n cael eu colli yn cael effaith hirdymor ar yr iaith ac ar yr economi hefyd."
Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi croesawu'r ffaith fod y plant wedi cael eu derbyn ond yn dweud eu bod hi'n siom fawr eu bod nhw wedi gorfod aros mor hir.
Yn ôl Ein Maher, cyfarwyddwr cenedlaethol RhAG: "Mae'n rhaid i Gyngor Caerdydd wella'r ffordd y maen nhw'n cynllunio lleoedd ysgol dros y misoedd nesaf gan graffu'n ofalus ar y niferoedd sydd o fewn ein hysgolion cynradd a sicrhau bod y dilyniant i'r ysgol uwchradd yn un hwylus a diffwdan.
"Rhaid hefyd ystyried yr effaith ar les dysgwyr pan nad yw'r cynllunio lleol yn digwydd a bod rhaid mynd i broses apêl.
"Bydd RhAG yn codi'r materion hyn gyda'r sir a gyda swyddogion Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau nesaf."
Yn ôl Cian Ciaran mae angen sefydlu Ysgol Uwchradd Gymraeg newydd yn ne'r brifddinas.
"Byddai hynny'n dod a chydraddoldeb, byddai plant yn edrych ymlaen at fynd i'r ysgol heb boeni am deithio yno a sut maen nhw'n mynd i ddod adref ar ôl gweithgareddau allgyrsiol.
"Mae sicrhau plant dwyieithog yn fuddsoddiad yn y dyfodol."
Wrth ymateb i'r feirniadaeth yn gynharach eleni fe ddywedodd Cyngor Caerdydd fod yna ddigon o lefydd yn Ysgolion Uwchradd Cyfrwng Cymraeg y brifddinas i ateb y galw a'u bod nhw'n gweithio gyda'u partneriaid a chyda Fforwm Addysg y brifddinas i gefnogi twf addysg Gymraeg ac i sicrhau fod yna ddarpariaeth ar gyfer bob rhan o'r ddinas.
Maen nhw'n dweud eu bod yn adolygu niferoedd disgyblion yn gyson ond nad oes yna ddigon o blant i gynnal pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yn ne'r brifddinas.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Mai
- Cyhoeddwyd5 Chwefror