Angen gofalu am deuluoedd sy'n mynd trwy 'brofiad erchyll'
- Cyhoeddwyd
Mae gofalu am deuluoedd babanod gafodd eu geni yn gynnar yr un mor bwysig â gofalu am eu plant, yn ôl rhieni a meddygon.
Mae hyd at 10% o fabanod sy'n cael eu geni yng Nghymru angen gofal mewn uned newyddenedigol.
Ond yn aml mae cartrefi eu rhieni ymhell o le maen nhw’n derbyn gofal.
Ers 2016 mae Cwtsh Clos ar safle Ysbyty Singleton yn Abertawe wedi darparu llety i rieni sydd â babanod yn yr uned gofal dwys, er mwyn iddyn nhw allu aros yn agos at eu plant.
Yn ôl y bwrdd iechyd mae’r tai yn "glinigol" iawn, ac maen nhw nawr yn codi arian i’w hadnewyddu.
Cafodd Mari Glyn, sydd bellach yn ddwy oed, ei geni wedi 31 wythnos gyda chymhlethdodau meddygol.
O ganlyniad, fe dreuliodd Bethan Wyn Evans a’i gŵr Carwyn Evans dipyn o amser mewn ysbytai.
Dywedodd Ms Evans: “Gath hi ei geni’n gynnar yn 31 wythnos gyda nifer fawr o broblemau. Oedd hi ar beiriant anadlu a buon ni yno [ym Mryste] am saith wythnos a ddim yn gwybod ar y pryd os bydde hi’n cael dod adre' gyda ni ai peidio.”
Cafodd Mari ei symud i Ysbyty Singleton. Er yn agosach i adref roedd y siwrne hon yn gallu cymryd hyd at awr o gartre’r teulu yn Llangynnwr ger Caerfyrddin.
Cafodd Bethan a Carwyn gynnig llety yn Cwtsh Clos, oedd yn golygu bydden nhw’n agos at Mari pe bai angen.
“Ni’n ddiolchgar tu hwnt ein bod ni dafliad carreg oddi wrth ein merch ni. Ond mae rhiant sy’n mynd drwy broses neonatal, mae e’n ddwys iawn, a ti angen rhywle le ti’n gallu switch off am gyfnod,” meddai Bethan.
Ychwanegodd: “Dwi’n meddwl fod e’n deg i ddweud taw basic iawn oedd beth oedd yna i ni. Hyn a hyn oeddwn ni’n gallu coginio heb ffwrn er enghraifft.”
Disgrifiodd Bethan adegau lle cafon nhw eu galw mewn ar frys pryd oedd Mari mewn cyflwr gwael, tra yn yr ysbyty ym Mryste.
Dywedodd y teulu bod y “profiad erchyll” yma’n atgyfnerthu pwysigrwydd bod yn agos at eu merch.
“Pe na bai nhw wedi gallu rhoi e i ni [y llety] bydden ni mwy na thebyg wedi talu am AirBnB, achos oedd dim gobaith bydde ni’n teithio nôl i Gaerfyrddin, oedd dim gobaith fydden ni'n treulio gymaint o amser i ffwrdd o Mari.”
Yn ôl yr elusen Bliss gall gael babi mewn uned newyddenedigol gael effaith enfawr ar gyllid teulu, gan gostio ar gyfartaledd £2,256 yn ychwanegol iddyn nhw.
Gall costau ychwanegol gynnwys teithio, llety, bwyd a cholli enillion.
'Un ystafell i rieni am bob 10 crud'
Dywedodd eu Rheolwr Polisi, Ymchwil ac Ymgyrchoedd, Beth McCleverty, fod ymchwil a wnaed gan Bliss, sydd i'w gyhoeddi yn ddiweddarach yn yr haf, yn dangos, “am bob deg crud yng Nghymru dim ond un ystafell sydd yn yr uned newyddenedigol i rieni aros gyda’u babi".
“Felly dyna gyfran fach iawn o deuluoedd yng Nghymru sy’n cael cymorth da iawn mewn gwirionedd.
“Mae’n bwysig iawn i rieni fod yn rhan o ofal eu babi a gallen nhw ddim gwneud hynny am hanner yr amser oherwydd eu bod adref dros nos.”
Mae Ceri Selman yn ffisiotherapydd yn yr Uned Gofal Dwys Newyddenedigol yn Ysbyty Singleton.
“Ni’n gwybod bod iechyd meddwl ac iechyd emosiynol rheini yn helpu datblygu’r babanod. So mae’n bwysig iawn bod y rhieni yn gallu byw fan hyn yn ddi-straen,” meddai.
Fe ddywedodd y bwrdd iechyd eu bod ar adegau yn derbyn teuluoedd o Aberystwyth i Sir Benfro.
Maent wedi derbyn rhoddion o ffriwyr aer (air-fryers) a micro-donnau, ond yn ôl Ceri Selman mae angen adnewyddu’r ceginau a’r ystafelloedd ymolchi.
Targed y bwrdd iechyd yw codi £160,000 drwy dudalen Go Fund Me.
Mae Carwyn Glynne Evans, tad Mari Glyn, yn rhedeg pedwar marathon ultra rhwng Bryste a Llangynnwr ym mis Awst i godi arian i Cwtsh Clos.
“O’n i byth ‘di bod trwy unrhyw beth tebyg o’r blaen, heb sôn am enedigaeth babi beth bynnag ond hefyd y cymhlethdodau. Ond oedd e’n bwysig i ni gael rhywle i fynd ar ddiwedd pob dydd,” meddai.
Mae’n gobeithio codi digon o arian i “foderneiddio’r tai... jest i gael gymaint o home comforts ag sy’n bosib, i fod yn rhywle sy’n gartrefol iddyn nhw a’n rhywle i allu ymlacio mewn sefyllfa mor ddifrifol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n bwysig bod gan rieni'r opsiwn o allu aros mor agos â phosib at eu babanod os ydyn nhw'n derbyn gofal newyddenedigol. Dylai'r llety fod yn agos at yr uned newyddenedigol.
"O dan Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan, y Byrddau Iechyd sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gofal, gan gynnwys trefnu bod llety ar gael i rieni.
“Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru sydd â'r cyfrifoldeb am fonitro cydymffurfiaeth â'r Safonau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2019