Y Cofis yn paratoi i herio Ewrop

Caernarfon yn dathlu ar ôl curo PenybontFfynhonnell y llun, FAW/Sam Eaden
Disgrifiad o’r llun,

Caernarfon yn dathlu ar ôl curo Penybont yn rownd derfynol y gemau ail gyfle

  • Cyhoeddwyd

Cyrraedd Ewrop fu'r freuddwyd erioed i Glwb Pêl-Droed Tref Caernarfon a’u cefnogwyr – ac maen nhw ar fin gwireddu hynny.

Bydd y Canaries yn chwarae yn erbyn Crusaders o Ogledd Iwerddon yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Cyngres Europa.

'Wedi dod yn agos o'r blaen'

Mae Richard Davies yn falch iawn o fod y rheolwr cyntaf i arwain Caernarfon i Ewrop, rhywbeth maen nhw wedi ceisio ei wneud ers blynyddoedd.

“Dyna ydi’r targed bob tro dechrau’r flwyddyn,” meddai Richard Davies.

“'Da ni’n gwybod tydio mor hawdd â hynny ac mae ‘na lot o dimau da yn y gynghrair.

“'Da ni wedi bod yn agos o’r blaen – wedi colli mewn semi-ffeinals, colli mewn ffeinals a 'di curo mewn play-off ond yn anffodus mynd i Scotland oedd y prize yr adeg yna a dim Ewrop.

So mae gwneud o a bod y tîm cynta i wneud o yn ffantastig.”

Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Rheolwr Caernarfon, Richard Davies

Roedd torf o dros 1,900 yn bresennol yn Yr Oval nôl ym mis Mai wrth i fuddugoliaeth o 3-1 dros Benybont yn rownd derfynol y gemau ail gyfle sicrhau lle yn Ewrop.

Mae’r diwrnod hwnnw yn dal yn ffres yn y cof ac am aros yn y cof am amser maith, meddai Richard Davies.

“Odd o’n ffantasig o ddiwrnod ac achlysur amazing i ni fel clwb – i’r chwaraewyr, i’r bwrdd ac yn enwedig y ffans,” ychwanegodd.

“Dwi’n meddwl o'dd y dathliadau ar y diwedd rhwng yr hogia ifanc a’r hogia hŷn ar y cae yn dweud bob dim amdanan ni fel clwb.

“'Da ni’n glwb i'r gymuned, ac odd y support oedd yma y diwrnod yna yn amazing a 'swn i’n dweud y gorau yn y gynghrair.

“Odd o’n neis rhoi rhywbeth yn ôl i’r ffans.”

Un enw amlwg fydd ddim yn chwarae rhan i'r Canaries yn Ewrop fydd Sion Bradley, gyda Chwaraewr y Tymor Uwchgynghrair Cymru yn ymuno gyda'r Seintiau Newydd.

Chwarae yn Nantporth

Gyda’r Oval ddim yn cyrraedd gofynion Uefa i gynnal y gêm gartref mi fydd Caernarfon yn chwarae yn Nantporth, Bangor.

Mae'n benderfyniad sydd wedi ennyn trafodaeth ymysg rhai o gofio'r elyniaeth draddodiadol rhwng Caernarfon a Clwb Dinas Bangor.

Ond gyda Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt yr unig opsiwn arall oedd ar gael i’r clwb, roedd hi’n bwysig nad oedd cefnogwyr Caernarfon yn gorfod teithio’n rhy bell i wylio eu tîm.

“Mae’n agosach at adra ac yn haws i bawb fynd yna,” meddai Richard Davies.

“Fel rheolwr mi fydda ni’n chwarae ar wair ac nid 4G a dwi’n meddwl bydd hynna’n siwtio ni'n well gan 'na dyna 'da ni’n chwarae ar Yr Oval.

“Mae ‘na dipyn bach o dwrw wedi cael ei wneud amdano fo ond fel clwb ‘da ni jest yn meddwl am y rhesymau iawn a be' ‘da ni'n trio wneud ydi gwneud yn siŵr 'da ni’n cael ein enw yn y rownd nesaf.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Crusaders sydd gan y trydydd nifer fwyaf o bencampwriaethau yng Ngogledd Iwerddon, tu ôl i Linfield a Glentoran

Bydd Caernarfon yn wynebu Crusaders yn y cymal cyntaf ym Mangor ar 11 Gorffennaf gyda’r ail gymal ym Melffast wythnos yn ddiweddarach.

Gorffennodd Crusaders yn bedwerydd yn Uwchgynghrair Gogledd Iwerddon y tymor diwethaf ac fel Caernarfon fe sicrhawyd lle yn Ewrop drwy ennill y gemau ail gyfle.

“Maen nhw’n dîm da ac yn dîm llawn amser," ychwanegodd.

“Dwi’n disgwyl iddyn nhw fod o safon uchel. 'Da ni o hyd yn mynd i fod yn underdogs a ‘da ni yn licio bod yn underdogs ac mi wnawn ni godi i’r sialens yna.”