Lowri Thomas yn 'gobeithio' cystadlu ym Mharis

Disgrifiad,

Mae Lowri yn gobeithio bod yna gyda'r tîm

  • Cyhoeddwyd

Gyda'r Gemau Olympaidd ym Mharis yn agosáu, mae nifer o'r athletwyr wedi cael gwybod a ydyn nhw'n ddigon lwcus i gystadlu yno.

O ran y gamp seiclo, does dim lle i Geraint Thomas sydd wedi ei gadarnhau yn aelod o dîm Ineos fydd yn cystadlu yn y Tour de France y penwythnos hwn.

Mae o leiaf bedwar o Gymry yn rhan o dîm seiclo Prydain sef Stephen Williams a Joshua Tarling ar y ffordd, bydd Ella Maclean Howell yn beicio mynydd ac Emma Finucane yn seiclo ar y trac.

Mae Cymraes arall, Lowri Thomas, ymhlith yr eilyddion, ac yn gobeithio cael ei chyfle.

Dywedodd Lowri: "Dwi angen aros yn bositif iawn a meddwl dwi angen mynd mor gyflym â gallai just in case".

"Dwi'n gobeithio byddai'n gallu bod 'na gyda'r merched - yn cefnogi nhw ac yn gwneud pethau arbennig."

Pynciau cysylltiedig