Prif weinidog y DU yn ansicr a fydd yn ymgyrchu yng Nghaerffili

Syr Keir Starmer
Disgrifiad o’r llun,

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n mynd i Gaerffili, dywedodd Syr Keir Starmer y byddai'n mynychu cynhadledd ei blaid y penwythnos hwn

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi dweud wrth BBC Cymru nad yw'n gwybod a fydd yn ymgyrchu yng Nghaerffili cyn is-etholiad y Senedd y mis nesaf.

Awgrymodd bod cynhadledd ei blaid dros y penwythnos yn rheswm pam efallai na fydd yn mynd i'r etholaeth.

Mae Llafur yn wynebu brwydr i gadw Caerffili - sedd y maen nhw wedi'i dal yn y Senedd ers 1999, ac yn San Steffan ers dechrau'r 20fed ganrif.

Dywedodd y prif weinidog fod "manteision enfawr" i gael Llafur mewn grym yn llywodraethau'r DU a Chymru, a dywedodd fod yn rhaid i'w blaid weithio'n galed i "ennill pob pleidlais".

Mae uwch wleidyddion yn aml yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd is-etholiad i helpu timau ar lawr gwlad.

Mae'r is-etholiad, a sbardunwyd gan farwolaeth y diweddar AS Llafur Hefin David, ar 23 Hydref.

Daeth sylwadau Syr Keir wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi cronfa ledled Prydain i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer mannau cyhoeddus a strydoedd mawr.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU £214m mewn cyllid newydd yng Nghymru, gan gynnwys £35m i 22 awdurdod lleol Cymru ei ddefnyddio dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd y byddai naw awdurdod - gan gynnwys Caerffili - yn derbyn hyd at £20m yr un.

Gofynnwyd i Syr Keir gan BBC Cymru a fyddai'n mynd i Gaerffili: "Dydw i ddim yn gwybod a ydw i'n mynd i Gaerffili. Mae'n amlwg yn dod yn fuan iawn ac mae gennym ni gynhadledd ein plaid yr wythnos nesaf".

Pan ddywedwyd wrtho ei fod yn is-etholiad allweddol, ychwanegodd Syr Keir: "Fel y gwyddoch chi, rydyn ni yn Lerpwl yr wythnos nesaf, mae gennym ni gynhadledd fawr y blaid ar y gorwel."

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn ased etholiadol i'w blaid yno, ychwanegodd: "Rwy'n gweithio'n dda iawn gyda'r prif weinidog [Eluned Morgan], a chyn belled â'n bod yn parhau i hyrwyddo'r gwahaniaeth rydym yn ei wneud, dyna sy'n bwysig.

"Hyd yn oed heddiw yng Nghaerffili, rydym wedi cyhoeddi ein cronfa balchder bro, sef cyllid deng mlynedd i Gaerffili, a rheolaeth leol dros yr hyn y mae'r arian hwnnw'n cael ei wario arno."

Mae polau piniwn diweddar wedi awgrymu bod Llafur yn drydydd yng Nghymru ar gyfer etholiadau'r Senedd nesaf ym mis Mai, gydag arolwg YouGov diweddar yn rhoi'r blaid ar 14%.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn poeni am fod yr arweinydd Llafur cyntaf i golli Cymru, dywedodd: "Wel, mae gennym ffordd bell i fynd cyn yr etholiadau hynny.

"Y peth pwysicaf yw bod yn gwbl glir o'r manteision enfawr o gael prif weinidog Cymru Llafur a phrif weinidog y DU Llafur yn gweithio gyda'i gilydd."

Cronfa balchder bro

Ddydd Iau cyhoeddodd Llywodraeth y DU gronfa balchder bro, gyda naw cyngor arall yn derbyn £20m yr un dros ddegawd, sef:

  • Blaenau Gwent

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Casnewydd

  • Rhondda Cynon Taf

  • Caerffili

  • Sir Gâr

  • Conwy

  • Caerdydd

  • Abertawe

Byddai cyfanswm o £1.5m ar gael i bob un o 22 awdurdod lleol Cymru i'w wario dros ddwy flynedd, ac eithrio Pen-y-bont ar Ogwr a fydd yn cael £3m.

Mae'r cynllun yn debyg i'r gronfa codi'r gwastad flaenorol, gan fod yn rhaid i gynghorau wneud cynigion i Lywodraeth y DU am yr arian.

Dywedodd Syr Keir: "Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr, ond yr hyn sydd bwysicaf yw pwy sy'n penderfynu sut mae'n cael ei wario: y cymdogion, gwirfoddolwyr a rhieni sy'n adnabod eu cymunedau orau."

Rhestr ymgeiswyr

Mae saith o ymgeiswyr yn y ras i gynrychioli etholaeth seneddol Caerffili hyd yma:

Steve Aicheler - Democratiaid Rhyddfrydol

Anthony Cook - Gwlad

Gareth Hughes - Y Blaid Werdd

Gareth Potter - Ceidwadwyr

Llŷr Powell - Reform

Richard Tunnicliffe - Plaid Lafur

Lindsay Whittle - Plaid Cymru