Siom 'diffyg statws' prif wobrau lleisiol yr Eisteddfod Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o gyn-enillwyr gwobr y Rhuban Glas i gantorion yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn bryderus am newidiadau i'r gystadleuaeth.
Dywedodd Huw Rhys-Evans - a enillodd yr unawd tenor deirgwaith yn olynol cyn cipio Gwobr Goffa Osborne Roberts yn 1980 - fod cael tri unawdydd yn unig yn y rownd derfynol yn "gywilyddus".
"Mae pwysigrwydd y canu unawdol yn lleihau bob blwyddyn yn y Brifwyl," meddai.
Ychwanegodd Mr Rhys-Evans - sy'n wreiddiol o Dregaron ac nawr yn ganwr proffesiynol yn Llundain - fod yna "ddiffyg statws" i wobrau canu Osborne Roberts a David Ellis yn yr Eisteddfod ym Mhontypridd eleni.
Dywed yr Eisteddfod Genedlaethol bod pwyllgor wedi penderfynu cael yr un nifer o gystadleuwyr yn y rownd derfynol ag yn y cystadlaethau cyfatebol ar gyfer offerynwyr, cantorion gwerin, llefarwyr ac actorion.
- Cyhoeddwyd19 Medi
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2023
Mae cystadlaethau y Rhuban Glas ymhlith prif wobrau'r Brifwyl i gantorion gyda Gwobr David Ellis yn cael ei rhoi i unawdwyr dros 25 a Gwobr Osborne Roberts i rai rhwng 19 a 25 oed.
Ymhlith yr enwau mawr sydd wedi cipio gwobr David Ellis mae Stuart Burrows (1959), Dai Jones Llanilar (1970), Shan Cothi (1995), Rhys Meirion (1996) a Sian Meinir (2001).
Mae enillwyr Gwobr Osborne Roberts yn cynnwys Bryn Terfel (1987), Fflur Wyn (2001), Rhian Lois (2006) a Trystan Llyr Griffiths (2009).
Dywed Huw Rhys-Evans fod newidiadau i'r ddwy gystadleuaeth yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gamgymeriad.
"Yn y gorffennol, roedd y ddwy gystadleuaeth yma yn uchafbwynt i'r cystadlu lleisiol, gyda chwech canwr yn ymgeisio am bob rhuban," meddai.
"Torrwyd hyn i bedwar cystadleuydd a bellach dim ond tri sy'n cael cystadlu.
"Dwi'n siomedig fod yr Eisteddfod wedi newid y rheolau sy'n gadael dau ganwr allan, - un o dan 25 ac un dros 25 oed."
'Perfformwyr mwyaf addawol'
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod: "Erbyn hyn, nid o reidrwydd y sawl sydd wedi dod i'r brig yn y cystadlaethau lleisiol unigol o dan/dros 25 oed sydd yn symud ymlaen i gystadlu am Wobr Goffa David Ellis a Osborne Roberts. Dewis y perfformwyr mwyaf addawol yw briff y beirniaid."
Ychwanegodd mai "penderfyniad Pwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod oedd cysoni'r nifer o gystadleuwyr sydd yn cystadlu ar y prif gystadlaethau i dri".
Dyna'r drefn, medd y llefarydd, yn achos Gwobr Llwyd o'r Bryn (Rhuban Glas y llefarwyr), Gwobr Ruth Herbert Lewis (am gyflwyno alawon gwerin), Gwobr Richard Burton (am gyflwyniadau dramatig) a'r Rhubanau Glas Offerynnol.
Ond mae cantorion fel Barry Nudd Powell o Lanfihangel-y-Creuddyn, a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth Bas Bariton 25 oed a throsodd yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf eleni, yn siomedig.
"Rwy'n credu fod cyfleon yn cael eu colli i nifer o gystadleuwyr," meddai.
"Yn draddodiadol gyda'r chwech dosbarth roedd cyfle i'r chwe enillydd fynd trwyddo a chreu cyngerdd.
"Ond wrth gwtogi yn gyntaf i bedwar llais a'r enillwyr, bellach lawr i dri, sydd yn cael eu dewis o unrhyw un o'r dosbarthiadau - mae mor agored â hynny - mae cyfleoedd yn sicr yn cael eu colli.
"Mae'r Eisteddfod i fod rhoi cyfle i bawb ar draws bob math o gystadlaethau i barhau yn amatur achos dyna be' yw e ar ddiwedd y dydd a ry'n ni yn poeni be fydd terfyn hyn i gyd."
Mae Mr Powell yn cefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol ond mae hefyd yn cystadlu yn gyson mewn eisteddfodau lleol.
"Mae'n draddodiad, mae'n rhan o'n hanes ni ac rwy'n gobeithio y bydd y genhedlaeth nesaf yn dod i mewn iddo fe, ond dwi'n ofni nad yw y sicrwydd yna ddim yno i'r dyfodol."
'Uchafbwynt pob unawdydd'
Enillodd Eleri Owen Edwards y Rhuban Glas - Gwobr Goffa David Ellis - yn Eisteddfod Sir Ddinbych 2013.
A hithau bellach yn hyfforddi ac yn feirniad cerdd, mae hi'n dweud bod hi'n bwysig cadw statws y gystadleuaeth.
Mae hi'n teimlo y dylai pedwar canwr gael mynd i'r rownd derfynol gan fod pob canwr yn enillydd yn eu dosbarth eu hunain ac yn haeddu cael cystadlu eto ar gyfer y Rhuban Glas.
"Mae'r gystadleuaeth mor bwysig - nod pob canwr amatur yw cyrraedd yr uchafbwynt o ennill yn eu dosbarth unigol o ran y lleisiau ac ymgyrraedd wedyn at fynd 'mla'n at y Rhuban Glas," dywedodd.
"Dyma yw pinacl ac uchafbwynt pob unawdydd - cyrraedd y Rhuban Glas ac wrth gwrs ei hennill hi ar ddiwedd y dydd."
Enillodd Ffion Haf o Landeilo y Rhuban Glas i unawdwyr dros 25 oed yn Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2015.
"Fel enillydd olaf ffurf gwreiddiol y gystadleuaeth pan roedd chwech cystadleuydd yn cael mentro am y rhuban, teimlaf efallai bod gormod o newid wedi digwydd," meddai.
"Nid wyf yn erbyn yr egwyddor o'r pedwar categori llais sydd gennym bellach, gan fod hyn wedi annog cystadleuaeth gryfach mewn ambell gategori - a oedd yn y gorffennol â llai o gystadleuwyr.
"Fodd bynnag, erbyn eleni daeth newid arall. Teimlaf nad yw dethol tri canwr/cantores yn unig i berfformio yn y rownd derfynol yn annog a hybu cystadleuaeth safonol pan fydd un yn colli ar y cyfle bob blwyddyn.
"A ydy hi wir yn broblem cael un cystadleuydd arall ar y llwyfan sy'n golygu deg munud ychwanegol at raglen y dydd?"
Mae'r tenor operatig a'r sylwebydd cerdd Gwyn Hughes Jones wedi canu yn rhai o brif dai opera'r byd, ac mae hefyd wedi dod i'r brig yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Pwrpas Gwobr Goffa David Ellis [Y Rhuban Glas] ydi dathlu y cyflawniadau mwyaf nodedig yn nhraddodiad amatur canu clasurol Cymru," dywedodd.
"Tydi newid natur y gystadleuaeth a gwanhau ei gofynion i ymateb i sefyllfa bresennol y traddodiad hwnnw ddim yn dderbyniol."
Yn y cyfamser mae Huw Rhys-Evans yn dweud ei fod yn poeni i ba gyfeiriad fydd yr Eisteddfod yn mynd yn y dyfodol o ran y cystadlaethau lleisiol.
"Ni fuaswn i wedi bod yn ganwr proffesiynol oni bai i mi gael y cyfle i gystadlu ac ennill Gwobr Goffa Osborne Roberts," meddai.
"Dwi'n teimlo fod yr Eisteddfod yn datblygu i fod yn ŵyl fel Glastonbury gyda llai a llai o bwyslais ar y cystadlu."
'Treialu am dair blynedd'
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: “Y Pwyllgor Diwylliannol sy’n gyfrifol am benderfynu ar ffurf pob cystadleuaeth a gynhelir yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Mae’r Pwyllgor yn gosod cyfeiriad i waith y tîm cystadlaethau sy’n gweithredu’r penderfyniadau. Mae unrhyw newid sylfaenol i gystadlaethau’n cael eu trafod yn y panelau canolog sy’n cynnwys cynrychiolwyr lleol, cenedlaethol ac arbenigwyr yn y Maes gydag argymhellion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Diwylliannol.
"Mae gwirfoddolwyr lleol yn gweithio gydag aelodau o’r panelau perthnasol i ddewis themâu a chystadlaethau i’w cynnwys yn y Rhestr Testunau, gyda’r cyfan yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Diwylliannol cyn ei gytuno gan Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod.
“Nod y Pwyllgor Diwylliannol yw sicrhau fod ein rhaglen gystadlaethau blynyddol yn apelgar i gystadleuwyr a chynulleidfaoedd ac yn adlewyrchu Cymru heddiw, gan ystyried anghenion ein cystadleuwyr, boed yn amatur neu broffesiynol,2 ychwanegodd llefarydd.
"Mae cystadlu’n greiddiol i holl ethos yr Eisteddfod. Dyma sy’n ein gwneud yn wahanol i bob gŵyl arall, ac mae’n elfen hollbwysig o’r Brifwyl.
"Eleni, datblygwyd y rhaglen gystadlu ymhellach drwy gyflwyno cyfres o nosweithiau cystadleuol yn y Pafiliwn liw nos. Cafodd y rhain groeso brwd gan gystadleuwyr a’r gynulleidfa.
"Bydd y rhain yn cael eu treialu am dair blynedd yn y lle cyntaf, yn union fel unrhyw newid arall i’r rhaglen gystadlaethau, gyda chyfle i’n pwyllgorau a’n panelau eu gwerthuso ar ddiwedd pob gŵyl.
“Mae’r gwaith o ddenu cystadleuwyr Wrecsam wedi cychwyn, a’r broses o bennu cystadlaethau ar gyfer Eisteddfod 2026 ar fin cychwyn yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus yng Nghrymych ar 10 Hydref.”