'Angen darllenwyr arbenigol yng Nghymru i sicrhau sensitifrwydd'

Gareth Evans Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Gareth Evans-Jones yn cynghori gweisg ar sut i sicrhau cynrychiolaeth deg a chydraddoldeb mewn llenyddiaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae angen ystyried cael pobl arbenigol yng Nghymru i sicrhau sensitifrwydd mewn llenyddiaeth, medd darlithydd sydd wedi bod yn cynghori gweisg ar sut i sicrhau cynrychiolaeth deg a chydraddoldeb.

"Mae sensitivity checkers yn arbenigo ar ddarllen gweithiau gwahanol ac yn rhoi cyngor," medd Dr Gareth Evans-Jones o Brifysgol Bangor.

Wrth siarad yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru dywed ei bod yn anodd i awduron adlewyrchu'r amrywiaeth sydd yn ein cymdeithas ond ei bod yn hynod bwysig parhau i wneud hynny a "bod rhai cymunedau ddim eto wedi cael eu cynrychioli yn ein llenyddiaeth".

"Mae'n her, mae'n her enfawr ond mae'n her y medr rywun fynd i'r afael â hi - cyn belled â bod yr ymchwil yn cael ei wneud a'r sensitifrwydd yn cael ei fynegi," ychwanegodd.

"Gyda hynna mae 'na le felly i ofalu bod ein gweisg yn ymwneud â mudiadau fel Cyngor Hil Cymru neu unrhyw fudiadau perthnasol eraill.

"Mae elfennau hiliol neu feddiannu diwylliannol mewn amryw destunau ond mae pethau wedi gwella oherwydd mae 'na fwy o drafod ond mae dal lle i fynd... a rhaid gwneud ein gorau glas i beidio gwneud unrhyw beth tocenistaidd gan ddefnyddio agwedd arall at bwrpas - ticio'r bocs math o beth."

Wrth ymateb i drafodaethau diweddar dywedodd bod "cael mwy o drafodaethau yn beth gwych er mwyn cydnabod pwysigrwydd gwneud ymchwil a siarad â chymunedau o ba bynnag fydolwg y mae llenorion yn ceisio ei adlewyrchu."

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall (Camera Sioned)
Disgrifiad o’r llun,

Wrth ysgrifennu'r gyfrol ar Betty Campbell roedd gan Casia Wiliam ymgynghorydd diwylliannol i'w chynghori

Yn y cyfamser dywed un awdures bod cyhoeddi llyfrau Cymraeg sy'n cynrychioli amrywiaeth y gymdeithas yng Nghymru "yn bennod newydd a phwysig" yn hanes y diwydiant.

Mae Casia Wiliam newydd gyhoeddi cyfrol am hanes y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru, Betty Campbell.

Roeddwn wedi "synnu o weld cyn lleied o wybodaeth oedd amdani [Betty Campbell] yn Gymraeg ac felly rwy' wedi mynd ati i ysgrifennu'r gyfrol gyda Gwasg Carreg Gwalch", meddai.

Ond dywed fod ganddi "fwy nag erioed" o nerfusrwydd "yn dilyn yr holl drin a thrafod sydd wedi bod ers y Steddfod".

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd "taswn i'n cael cynnig comisiwn i ysgrifennu'r llyfr yma heddiw, gwrthod faswn i" yn "sgil y misoedd diwethaf".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Natalie Jones fod "dal bwlch" yn bodoli "i blant i weld eu hunain a phlant o bob lliw" mewn llyfrau Cymraeg

Yn ddiweddar wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Natalie Jones o Gyngor Hil Cymru nad oedd hi'n "cofio gweld llawer o straeon o gwbl, yn enwedig rhai positif, am bobl ddu a brown, yn enwedig yn yr iaith Gymraeg" pan yn blentyn.

Mae Natalie Jones, sydd hefyd yn swyddog addysg, cynrychiolaeth a'r Gymraeg i S4C, newydd gyhoeddi llyfr i blant - 20 o bobl liwgar Cymru.

"Mae'n bwysig fod lleisiau pobl ddu a brown yn cael eu clywed a bod y cynnwys yn authentic." meddai a dywed ei bod yn gobeithio y bydd mwy o lyfrau o'r fath yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.

Ffynhonnell y llun, Carreg Gwalch

Mae'r gyfrol 'Y Lliwiau i Gyd, Stori Betty Campbell' gan Casia Wiliam yn dilyn hanes Betty Campbell, ac mae'r awdures yn gobeithio y bydd y llyfr yn adnodd dysgu pwysig i blant Cymru.

Wrth gydweithio â theulu Betty Campbell, dywedodd ei bod "wedi mwynhau gwrando ar yr atgofion niferus am Betty".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Casia Wiliam yn gobeithio y bydd plant Cymru yn mwynhau dysgu am hanes rhyfeddol Betty Campbell

Wrth ysgrifennu'r gyfrol, roedd gan Casia ymgynghorydd diwylliannol i'w chynghori a dywed ei fod wedi rhoi "cyngor gofalus a gwerthfawr" iddi.

Fe bwysleisiodd fod "oriau maith o ymchwilio - drwy ddarllen, gwylio a gwrando - hefyd wedi digwydd cyn bod yr un gair ar bapur".

A hithau'n cydnabod na fyddai'n derbyn y comisiwn i ysgrifennu'r gyfrol pe bai'n gallu troi'r cloc yn ôl, dywedodd ei bod yn "gobeithio y bydd plant Cymru yn mwynhau dysgu am hanes rhyfeddol Betty Campbell".

Ŵyr Betty, Lewis Campbell yw arlunydd y gyfrol.

'Angen mwy o gynlluniau mentora'

Dywed Casia Wiliam ei bod wedi bod yn "fraint" i gael sgwennu’r gyfrol ac mae'n gobeithio "y bydd yn gyfle i lot o blant Cymru ddysgu amdani".

Dywedodd fod yna'n "bendant" alw am fwy o lyfrau sy'n portreadu hanes pobl ddu ac o gefndir amrywiol yn Gymraeg.

"Ers i hyn i gyd ddigwydd gyda'r fedal ddrama, dwi wedi meddwl lot, darllen lot a checio nôl efo fi fy hun... dwi ddim yn meddwl fod 'na un ateb clir," meddai,

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio "gweld mwy o gynlluniau mentora, addysgu, lle mae awduron Cymraeg o gefndir neu hil amrywiol yn cael cefnogaeth i ddod yn awduron profiadol ac wedyn adrodd straeon eu hunain".

Dywedodd hefyd "os ydi unigolion gwyn yn sgwennu'r straeon yma, mae'n bwysig fod hynny'n digwydd mewn ffordd ofalus a phwyllog".

"Mae 'na lot o bethau da ni'n gallu eu gwneud i symud hyn yn ei flaen yng Nghymru.

"Dwi'n meddwl bod cyhoeddi llyfrau sy'n cynrychioli amrywiaeth ein cymdeithas yn bennod newydd gyffrous o ran cyhoeddi'n Gymraeg."

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi dweud bod cynyddu amrywiaeth mewn llyfrau yn "flaenoriaeth" iddyn nhw.

Maen nhw eisoes wedi dosbarthu pecyn o 50 llyfr i ysgolion Cymru yn 2023 oedd yn cynnwys llyfrau ar sail "cynrychiolaeth eang ac amrywiaeth", a dywedon nhw eu bod yn "cydweithio â chyhoeddwyr er mwyn cynhyrchu mwy o lyfrau sy'n cynnig cynrychiolaeth".