Pum munud gyda Bardd y Mis: Esyllt Lewis
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n fardd sydd hefyd yn artist gweledol ac yn hoff o fwyd, nofio gwyllt a chwarae pêl-droed.
Yn un o Graig-Cefn-Parc ger Abertawe yn wreiddiol, mae Esyllt Angharad Lewis bellach yn byw yn Nyffryn Ogwen. Hi fydd Bardd y Mis Radio Cymru drwy gydol Ebrill, felly dyma ambell gwestiwn i ddod i'w hadnabod yn well.
Rydych chi’n mwynhau teithio. Lle fyddech chi’n mynd fory petai Cymru Fyw yn talu?
Petai’r byd ddim mewn picil mor enbyd a bod Cymru Fyw yn talu, fydden i’n 'neud taith o amgylch y byd am flwyddyn neu ddwy, gan weithio mewn ambell le ar hyd y daith er mwyn dod i 'nabod pobl tu hwnt i’r wedd dwristaidd.
Hoffwn i ddychwelyd i Dde America ryw ddydd ar gyfer y dawnsio, y bwyd a’r dirwedd, ac i Siapan ar gyfer ei phensaernïaeth a’i defodau traddodiadol. Hefyd India, Georgia, Ciwba, Mecsico...
Fel artist gweledol ac awdur, oes un yn dod yn fwy rhwydd i chi neu oes rhai pethau yn arwain at ddefnyddio cyfrwng penodol?
Mae fy ymarfer fel artist gweledol wedi ei wreiddio mewn iaith - fy niddordeb pennaf yw archwilio’r ffyrdd y gall iaith fod yn beth gweledol a sut all pethau gweledol fod yn iaith, drwy berfformio, argraffu, arlunio a gosodwaith.
Mae bod yn chwareus gyda sŵn iaith yn ganolog. Dwi’n sgwennu darne o ryddiaith ryfedd ac yn eu perfformio ar fy nghof, gan blethu rhwng sŵn y Gymraeg a’r Saesneg a’r tensiynau diwylliannol a seinyddol rhwng y ddwy iaith.
Fel un sy’n hoff o fwyd da, be' ydi’r pryd gorau i chi ei gael erioed?
Wow, y cwestiwn anodda!
Rhywbeth ar ôl bod yn nofio yn y môr. Arogl barbeciw. Mecryll ffresh a lemwn. Bara twym cartref gyda menyn Shir Gâr. Symla i gyd, gore i gyd go iawn.
Fi’n caru bod bwyd yn beth bob dydd a bod e’n rhywbeth i’w rannu, ffrindie a theulu a dieithriaid yn dod ynghyd, y cyffro tawel a phawb yn mwynhau gyda’i gilydd.
Pam sefydlu clwb pêl-droed Titws Taf?
Alla i ddim cymryd y clod am sefydlu’r tîm pêl-droed yn anffodus: mae’r diolch i fy ffrindie Non Williams a Bethan Mai Morgan Ifan (Rogue Jones), ond roeddwn i’n rhan o’r criw cychwynnol ac mi wnes ddylunio’r logo gyda Bethan.
Ro’n i’n chware pêl-droed drwy gydol fy mhlentyndod gyda fy mrodyr hŷn ac ar iard Ysgol Gynradd Felindre, ac i dîm pêl-droed iau Penllergaer lle mai fi a Katie fy ffrind o’r ysgol oedd yr unig ferched! Ond unwaith i fi fynd i’r ysgol fawr, gêm i fechgyn yn unig oedd hi.
Felly mae Titws Taf yn gyfle anhygoel i ferched allu dod at ei gilydd i chwarae a chefnogi ei gilydd mewn awyrgylch hyfryd, cynhwysol a sili. Mae’r un peth yn wir am y tîm yr oeddwn i’n rhan ohono yn Glasgow, Cathkin Blazes - mae’r gymuned yn gynhaliaeth, fel paned o de ar ôl bod mas yn y glaw.
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2024
Rydych wedi dechrau doethuriaeth ar waith celf Paul Davies a Grŵp Beca. Dywedwch fwy am yr artistiaid a beth ydi’r apêl i chi.
Casgled llac o artistiaid oedd Grŵp Beca, wedi ei arwain gan yr artist Paul Davies, oedd yn wreiddiol o Abertawe ond wedi colli’r iaith. Roedd e’n awyddus i feithrin diwylliant gweledol unigryw Gymreig a Chymraeg sosialaidd, ac roedd celf y grŵp yn eistedd tu allan i’r ‘sefydliad’ traddodiadol, yn heriol yn weledol ac yn wleidyddol.
Mae Paul Davies fwyaf enwog am ei berfformiad byrfyfyr ar faes Eisteddfod Wrecsam 1977, pan fu’n dal trawst rheilffordd uwch ei ben gyda’r llythrennau WN (Welsh Not) wedi eu hysgythru arno, mewn protest yn erbyn diffyg presenoldeb artistiaid o Gymru yn y pafiliwn celf a chrefft.
Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Ma' sawl un o fy hoff feirdd wedi cael bywyde cythryblus neu letchwith; Frank O’ Hara, TH, Eileen Myles, ond dwi’n meddwl bydden i’n hoffi camu i feddwl Joni Mitchell am damaid, am ei gallu rhyfeddol fel cantores, sgwenwraig ac artist gweledol, ac am orfod bod - a llwyddo bod - bedair gwaith yn well na’r dynion er mwyn ennill ei bara.
Athrylith! “I am a lonely painter, I live in a box of paints.”
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Dwi’n hoffi cerddi sydd ar yr olwg gyntaf yn edrych fel rhywbeth y bydde unrhyw un wedi gallu sgwennu, ond sy’n trafod rhywbeth bob dydd mor syml a chain, yn sylwi ar harddwch y cyffredin, fel ei fod yn eich bwrw chi cyn i chi gael cyfle i holi pam.
Ond ar hyn o bryd Pa beth yw dyn? gan Waldo fydde raid iddi fod os ydym yn credu mewn grym geiriau.
‘Beth yw trefnu teyrnas? Crefft sydd eto’n cropian.
A’i harfogi? Rhoi’r cyllyll
Yn llaw’r baban.’
Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Dwi’n creu fy ngwaith celf fy hun fel rhan o ymchwil y ddoethuriaeth, a dwi newydd ddechre (!) felly ma' na ddigon i nghadw i’n brysur.
Fydda i’n cyhoeddi pamffled gyda Chyhoeddiadau’r Stamp yn yr haf a bydd yna hefyd flodeugerdd o sgwennu gan fenywod Cymru wedi ei olygu gennyf i a fy modryb Catrin Beard yn cael ei chyhoeddi.
Dwi newydd symud i Fethesda ac ma' crwydro’r mynyddoedd a nofio’r afonydd wrth i’r Gwanwyn flaguro yn gynllun braf. Mae’n lle hudolus.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2024