Gwaharddiad pedair blynedd i gyn-fewnwr Cymru, Rhys Webb
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-fewnwr Cymru, Rhys Webb, wedi ei wahardd rhag chwarae rygbi am bedair blynedd gan yr awdurdodau yn Ffrainc.
Fe gafodd Webb ei wahardd dros dro ym mis Awst y llynedd, yn fuan wedi iddo ymuno â Biarritz Olympique - sy'n chwarae yn yr ail haen yn Ffrainc.
Daeth i'r amlwg fod Webb wedi profi'n bositif am fath o hormon twf yn ystod sesiwn ymarfer.
Fe ddaeth sampl A a B yn ôl yn bositif.
Ni fydd hawl gan Webb i chwarae tan 2027, sy'n golygu y byddai'n 38 erbyn i'r gwaharddiad ddod i ben.
Roedd Webb wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le, ac mae Barritz wedi cael cais am ymateb.
Fe chwaraeodd Webb 40 o weithiau i Gymru cyn cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol yn fuan cyn Cwpan Rygbi'r Byd 2023.
Fe gychwynnodd Webb ei yrfa broffesiynol gyda'r Gweilch yn 2007 gan ymddangos 154 o weithiau i'r rhanbarth, cyn ymuno â thîm Toulon yn Ffrainc yn 2018.
Daeth yn ôl i Gymru yn Rhagfyr 2019 gan chwarae dros 200 o gemau yn ystod ei ail gyfnod gyda'r Gweilch.
Fe chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf yn 2012 ac roedd yn rhan o garfan y Llewod yn 2017 yn Seland Newydd, gan chwarae mewn dwy gêm brawf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2023
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023