Rhybudd olew palmwydd i berchnogion cŵn Sir Benfro

Lucy a'i chiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Nellie gyda'i pherchennog Lucy Beswick

  • Cyhoeddwyd

Mae perchnogion cŵn yn Sir Benfro yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus ar ôl i ddafnau o olew palmwydd gael eu golchi i lannau traethau'r sir dros y penwythnos.

Mae yna adroddiadau bod olew palmwydd wedi ei ddarganfod ym Marloes, a hynny ar ôl i gi bach tair oed farw ar ôl bwyta olew palmwydd yn Niwgwl fis diwethaf.

Fe gafodd Nellie, oedd yn groesiad rhwng Pwdl Maltaidd a Daeargi Efrog ei tharo yn wael ar ôl bwyta sylwedd du ar y traeth.

Mae perchennog Nellie, Lucy Beswick o Hertfordshire, wedi disgrifio'r profiad o golli ei chi fel "ergyd enfawr" iddi hi a'r teulu.

Fe rybuddiodd Cyngor Sir Penfro ymwelwyr â'r arfordir i fod "yn wyliadwrus am y potensial bod olew palmwydd yn golchi i'r lan".

'Roedd hi'n meddwl y byd i ni'

Fe wnaeth Lucy ymweld â Sir Benfro ddiweddd mis Mai i weld ei chwaer, ac fe benderfynodd fynd â Nellie am dro ar hyd traeth Niwgwl.

"Roedden ni yn cerdded ar hyd y lan ac fe sylwodd Nellie ar wrthrych du crwn oedd yn edrych fel crestog.

"Roedd e'n dywyll, a thua maint darn hanner can ceiniog, ac roedd tri neu bedwar ohonyn nhw.

"Fe wnaeth hi arogli fe ac yna bwyta un. Roeddwn i yn ceisio tynnu'r peth o'i cheg hi."

Tua saith awr awr yn ddiweddarach, fe ddechreuodd Nellie ymddwyn fel petai'n gysglyd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Nellie fis diwethaf

Roedd ei pherchennog yn meddwl efallai ei bod hi'n dioddef gydag aflwydd ar ei phancreas unwaith eto, ond dros y dyddiau nesaf fe waethygodd ei chyflwr.

Cafodd ei rhoi ar hylif trwy ganiwla, ond fe ddechreuodd gael ffitiau. Fe aeth i goma a bu'n rhaid i Lucy wneud y penderfyniad anodd i ddiffodd ei pheiriant cynnal bywyd ar 5 Mehefin.

Ar ôl trafod gyda'i milfeddyg, mae Lucy yn meddwl bod Nellie wedi bwyta gwenwyn ar y traeth oedd wedi ei amgylchynu gan olew palmwydd.

"Roedd hi'n dair oed ac roedd hi'n meddwl y byd i ni. Mae hyn wedi bod yn ofnadwy.

"Fe gafodd ei phrynu yn ystod y cyfnod clo am ei bod ni wedi colli ci arall i gansyr. Pan ddigwyddodd hyn, fe gafodd effaith enfawr ar y teulu."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd olew palmwydd ei olchi i lannau traethau'r sir yn 2020

Y gred yw bod dafnau o olew palmwydd yn ymddangos ar draethau am fod llongau yn golchi eu tanciau balast allan ar y môr.

Mae unrhyw wastraff o'r tanciau yn cael ei ollwng wedi ei orchuddio gyda haenen o olew palmwydd.

Mae'r dafnau hyn wedyn yn cael eu cario gan y llanw i'r traethau.

Mae dros 50,000 o bobl wedi arwyddo deiseb a sefydlwyd gan Lucy yn galw am wahardd yr arferiad.

Dywedodd: "Pa niwed mae hyn yn gwneud i'n cefnforoedd? Mae'n warthus! Mae'n gwneud niwed i fywyd y môr ac i anifeiliaid ar y tir."

Cyngor i'r cyhoedd

Fis diwethaf, fe gyhoeddodd Cyngor Sir Penfro rybudd i bobl fod yn wyliawrus am y potensial y gallai olew palmwydd ymddangos ar lannau'r sir.

Mae olew palmwydd yn ymddangos fel arfer ar ffurf blociau meddal tywyll, melyn neu gwyn, ac mae'n aroglu yn debyg i ddisel.

Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i gadw cŵn ar dennyn ac i gadw draw o'r blociau meddal hyn.

Fe ddylai unrhyw un sydd yn gweld y blociau gysylltu gyda Chyngor Sir Penfro.

Pynciau cysylltiedig