Dŵr Cymru i roi £24m yn ôl i gwsmeriaid ar ôl methu targedau

DŵrFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru wedi cael gorchymyn i ddychwelyd £24.1m i gwsmeriaid drwy filiau is y flwyddyn nesaf ar ôl methu targedau allweddol ar faterion fel llygredd.

Cafodd yr ad-daliad ei gyhoeddi yn adolygiad blynyddol rheoleiddiwr y diwydiant Ofwat o berfformiad cwmnïau dŵr a dŵr gwastraff yng Nghymru a Lloegr.

Mae Dŵr Cymru wedi’u rhoi yng nghategori isaf Ofwat am dair blynedd yn olynol, y tu ôl i Southern Water yn unig.

Mae prif weithredwr Ofwat, David Black wedi rhybuddio cwmnïau na fyddai “arian yn unig” yn datrys y mater a bod angen newid diwylliant.

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn "gweithio’n galed i gyflawni’r gwelliannau rydyn ni’n gwybod bod angen i ni eu gwneud".

Disgrifiad o’r llun,

Safle trin dŵr gwastraff Dŵr Cymru yn Sir Henffordd

Mae cwmnïau dŵr ar draws y ddwy wlad wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £158m ar ôl methu targedau allweddol.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, ni chyflawnodd unrhyw gwmni y sgôr uchaf, er bod pedwar cwmni wedi dangos gwelliant ers y llynedd.

Cosb Dŵr Cymru - i fyny o £18.3m ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf - yw'r bumed fwyaf a gafodd ei roi gan Ofwat y tro hwn.

Mae cwmni dŵr arall, Hafren Dyfrdwy, sy’n gwasanaethu rhannau o ganolbarth, gogledd a de Cymru, wedi cael gorchymyn i dalu cosb o £200,000.

“Rhaid i gwmnïau roi camau gweithredu ar waith nawr i wella perfformiad… a pheidio ag aros nes bydd y llywodraeth neu reoleiddwyr yn gofyn iddyn nhw weithredu,” meddai David Black.

Mae Ofwat yn asesu perfformiad yr 17 cwmni dŵr a dŵr gwastraff mwyaf yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn yn erbyn targedau allweddol ar gyfer materion fel llifogydd o garthffosydd, tarfiadau ar gyflenwadau, a gollyngiadau dŵr.

Dadansoddiad

Gohebydd amgylchedd BBC Cymru, Steffan Messenger

Fel ein hafonydd, mae enw da Dŵr Cymru wedi bod yn dirywio hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i adroddiadau fel hyn.

Mae asesiadau gan reoleiddiwr arall - Cyfoeth Naturiol Cymru - wedi israddio'r cwmni sawl gwaith hefyd, o un sy'n "arwain yn y diwydiant" i un sydd "angen gwneud gwelliannau".

Mae'n bosib bydd 'na fwy o benawdau anodd hefyd, wrth i OFWAT gynnal ymchwiliadau penodol i bob un o'r cwmnïau dŵr ynglŷn â'u perfformiad amgylcheddol.

Cydnabod mae Dŵr Cymru bod angen gweld newidiadau sylweddol, ac maen nhw'n addo buddsoddi £4bn yn ail hanner y ddegawd - gyda £2.5bn o hyn i'w glustnodi ar gyfer yr amgylchedd.

Ond mae'n golygu na ddylai cwsmeriaid ddisgwyl i'r gosb heddiw arwain at leihad amlwg yn eu biliau.

Bydd yr ad-daliad - sydd fod i'w gynnwys mewn biliau yn 2025/26 - yn cael ei lyncu gan gynnydd disgwyliedig yn faint ry'n ni'n talu am ddŵr a gwasanaethau carthffosiaeth, wrth i gwmnïau fel Dŵr Cymru straffaglu i ymateb i'r heriau sydd wedi'u hamlygu.

'Gwelliannau'n cymryd amser'

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: “Rydym yn gweithio’n galed i gyflawni’r gwelliannau y gwyddom fod angen i ni eu gwneud, ac y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl gennym ac sydd wedi’u hamlinellu gan Ofwat.

"Mae gwelliannau o'r fath yn cymryd amser ac yn cael eu hategu gan gynlluniau buddsoddi manwl i sicrhau cynnydd.

“Fel cwmni dŵr heb unrhyw gyfranddalwyr, mae ein ffocws ar y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i’n cwsmeriaid a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd."

Mae corff y diwydiant, Water UK, wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig