Etholiad 'mwyaf difyr' ers sefydlu deddfwrfa Cymru yn 1999

- Cyhoeddwyd
Gyda blwyddyn union i fynd tan etholiad Senedd Cymru nid gormodedd yw honni mai pleidlais 2026 fydd y mwyaf difyr ac anodd ei dirnad ers etholiadau cyntaf un deddfwrfa Bae Caerdydd yn ôl yn 1999.
Mae'r etholiad diweddar yng Nghanada yn brawf o ba mor sydyn y gall pethau newid mewn gwleidyddiaeth yn enwedig mewn cyfnod o ansicrwydd rhyngwladol.
Serch hynny, mae'n anodd dychmygu y bydd naill ai'r Blaid Lafur neu'r Ceidwadwyr wedi dianc o gorsydd eu hamhoblogrwydd presennol ymhen 12 mis.
Mae'n anarferol yng ngwleidyddiaeth Prydain i'r blaid sy'n llywodraethu yn San Steffan a'r brif wrthblaid fod yn amhoblogaidd tost ar yr un pryd heb unrhyw arwydd fod y pendil gwleidyddol yn symud rhyngddynt.
Dyna sut mae pethau ac fel 'na maen nhw'n debyg o fod ymhen blwyddyn.
Gwleidydda: Ffordd goch Gymreig?
Vaughan, Richard a'i gwesteion sy'n dadansoddi flwyddyn cyn yr etholiad
Eisoes mae 'na grafu pen go iawn yn digwydd yn rhengoedd y Ceidwadwyr a Llafur ynghylch sut mae trawsnewid y sefyllfa rhwng nawr a'r etholiad.
Oddi mewn i'r Ceidwadwyr Cymreig mae 'na garfan bur sylweddol sy'n deisyfu gweld y blaid yn addo diddymu Senedd Cymru yn gyfan gwbl, ond mae'n anodd rhagweld arweinyddiaeth y blaid Brydeinig yn arddel polisi o'r fath.
Mewn etholiadau mewnol i fwrdd y blaid Gymreig yn ddiweddar llwyddodd cefnogwyr y setliad presennol i wrthsefyll her gan wrthwynebwyr datganoli.
Mae'n debyg felly mai 'cyn belled ond dim pellach' fydd neges y blaid flwyddyn nesaf.

Mae rhai o wleidyddion Llafur yn y Bae am weld atgyfodi strategaeth "dŵr coch clir" rhwng Caerdydd a'r blaid yn Llundain
Ond tra bod y Ceidwadwyr yn bryderus am 2026 mae Llafur Cymru yn arswydo'r hyn allai ddod gan ofni bod dros ganrif o lwyddiannau etholiadol di-dor yn dirwyn i ben.
Yn anffodus i'r blaid, does dim cytundeb ynghylch y ffordd ymlaen gyda rhai o wleidyddion y Bae am weld ailadrodd strategaeth "dŵr coch clir" Rhodri Morgan trwy feirniadu rhai o benderfyniadau llywodraeth Keir Starmer.
Mae eraill o fewn y blaid - yr aelodau seneddol yn bennaf - yn credu y byddai creu rhaniadau diangen gyfystyr â hunanladdiad gwleidyddol yn enwedig yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol.

Mae Nigel Farage wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd Reform yn cipio seddi yn y Senedd
Yn nhermau Cymru gallai amhoblogrwydd y ddwy blaid fwyaf agor y drws i ddwy blaid, Plaid Cymru sy'n dathlu ei chanmlwyddiant eleni a Reform UK sydd ond wedi bodoli ers 2018.
Yn ychwanegu at y cymhlethdod mae system bleidleisio newydd sy'n ei gwneud hi'n llawer iawn haws i bleidiau sydd heb gyfundrefn o ganghennau ar lawr gwlad i wneud marc.
Fe fydd canlyniad yr etholiad nesaf yn llawer mwy cynrychioliadol na'r rhai a gynhaliwyd o dan y gyfundrefn flaenorol oedd mwy neu lai yn gwarantu y byddai Llafur yn ennill o gwmpas hanner y seddi.
Y tro nesaf, fe fydd nifer cynrychiolwyr y pleidiau mewn senedd newydd o 96 aelod yn adlewyrchu eu canran o'r bleidlais genedlaethol yn llawer mwy agos.
Gan fod gan Gymru bellach bedair plaid fawr a dwy blaid arall â chyfle credadwy o ennill seddi mae'n debyg y bydd y broses o ffurfio llywodraeth yn un hir a chymhleth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
- Cyhoeddwyd20 Medi 2024