Dedfrydu tad a merch am achosi niwed diangen i anifeiliaid

Cyfaddefodd Richard Scarfe, 44, a'i ferch Brogan Scarfe, 26, iddyn nhw achosi dioddefaint diangen i anifeiliaid fferm rhwng Ionawr 2022 ac Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl beri gofid
Mae tad a merch wedi cael eu dedfrydu ar ôl iddyn nhw gyfaddef eu bod wedi achosi niwed diangen i anifeiliaid.
Cyfaddefodd Richard Scarfe, 44, a'i ferch Brogan Scarfe, 26, ym mis Mawrth iddyn nhw achosi dioddefaint diangen i anifeiliaid fferm rhwng Ionawr 2022 ac Ebrill 2023.
Cafodd Mr Scarfe ddedfryd ohiriedig o 11 mis a gwaharddiad oes rhag cadw anifeiliaid, tra bod ei ferch wedi'i dedfrydu i orchymyn cymunedol o 12 mis.
Clywodd y llys bod swyddogion wedi o hyd i foch marw wedi'u gadael yn agos at fannau lle roedd moch byw, ac roedd clust un mochyn wedi ei chnoi oherwydd diffyg bwyd.
Gwelodd y llys luniau o un mochyn gyda'i ben wedi'i ddal rhwng rhwystr, ac roedd yn gwichian mewn poen.
Dangosodd un arall ddafad gyda'i hasennau yn y golwg ac roedd yr oen yn methu sefyll.
Dangoswyd fideo i'r llys hefyd o foch wedi'u dal mewn mwd dwfn, yn agos at ddau garcas mochyn.
'Lefel uchel o ddioddefaint'
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad Christian Jowett, bod defaid wedi cael eu darganfod heb ddigon o ddŵr a bwyd, eu bod yn denau gyda'u hasennau a'u hasgwrn cefn i'w gweld yn glir.
Ychwanegodd Mr Jowett fod un mochyn wedi ei ddarganfod gyda rhwygiadau ar ei glust, o ganlyniad i foch eraill yn cnoi arno oherwydd diffyg bwyd.
Dywedodd y Barnwr Catherine Richards fod yr achos yn "lefel uchel o ddioddefaint nifer fawr o anifeiliaid".
Richard Scarfe oedd perchennog Highland View yn Llandyfái, Sir Benfro ers 2019.
Ym mis Mawrth fe blediodd ef a'i ferch yn euog i achosi niwed i foch, defaid, dofednod a chŵn, o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
Rhwng 2022 a 2023 cynhaliodd Cyngor Sir Penfro arolygiadau gyda'r RSPCA a milfeddygon. Fe gymrodd yr awdurdod berchnogaeth o'r holl anifeiliaid ar y fferm yn 2023.
Clywodd y llys bod Mr Scarfe wedi cael ei gynghori gan filfeddyg ar ôl archwiliad yn 2023 i roi mwy o fwyd i'r moch, a'i fod wedi ei "gythruddo" gan ddadlau na ddylai moch fod yn dew.
Fe wnaeth Mr Scarfe ysgwyd ei ben yn y llys tra bod ei ferch yn eistedd yn ddiemosiwn.
'Lefel amhriodol o ymddiriedaeth'
Clywodd y llys fod Richard Scarfe wedi'i wahardd rhag cadw rhai anifeiliaid ym mis Chwefror 2022.
Fe drosglwyddodd yr anifeiliaid i ofal ei ferch Brogan ac nid oedd hi'n gallu gofalu amdanyn nhw oherwydd "diffyg profiad".
Dywedodd bargyfreithiwr Ms Scarfe, Ross McQuillan-Johnson, fod y fenyw 26 oed "yn amlwg wedi cael lefel amhriodol o ymddiriedaeth a chyfrifoldeb".
Disgrifiodd y Barnwr Richards sut torrodd Mr Scarfe ei orchymyn gwahardd wrth iddi ddod i'r amlwg ei fod yn dal i fod yn gysylltiedig â gofalu am foch a defaid.
Dywedodd y Barnwr wrth Ms Scarfe: "Does gen i ddim amheuaeth eich bod wedi gweithredu o ganlyniad i deyrngarwch i'ch tad", wrth iddi gael ei dedfrydu i orchymyn cymunedol o 12 mis.
Fe dderbyniodd Mr Scarfe ddedfryd ohiriedig o 11 mis a gwaharddiad oes rhag cadw anifeiliaid.