Angen gwelliannau brys ar ysbyty yn Wrecsam

Ysbyty Annibynnol New HallFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae angen gwelliannau brys ar ysbyty annibynnol yn Wrecsam yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Yn dilyn ymweliad, dolen allanol ym mis Mawrth 2023, daeth arolygwyr i’r casgliad bod nifer o risgiau yn Ysbyty New Hall, Rhiwabon y mae angen gweithredu arnynt ar unwaith.

Cleifion sydd wedi cael diagnosis o anableddau dysgu ac anhwylderau meddyliol yw’r cleifion sy’n cael gofal yn yr ysbyty.

Ond tra bod staff yn trin cleifion ag urddas a pharch, ymhlith y meysydd oedd yn achosi pryder oedd camgymeriadau wrth roi meddyginiaeth, diffyg offer achub bywyd ac achosion o dorri rheolau diogelwch tân.

Nodwyd hefyd fod angen gwella'r cefnogaeth i gleifion, ac y dylai cwynion gael eu cofnodi’n effeithiol.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Mae’r BBC yn deall fod gan Ysbyty Annibynnol New Hall , dolen allanolbellach gynllun gwella y bydd yn ei weithredu i fynd i’r afael a’r gwelliannau, ac bydd yr AGIC yn monitro’r cynllun hwnnw.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones: "Mae'r materion a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn destun pryder, ac rydym wedi gofyn i'r lleoliad roi sicrwydd ar unwaith y bydd yn ymdrin â'r risgiau i ddiogelwch y cleifion a'r staff.

"Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gwasanaeth er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau."

Pynciau cysylltiedig