Trefn gystadlu newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd saith diwrnod

Cystadleuwyr ifanc gefn llwyfan yn y brifwylFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau manylion trefn newydd ar gyfer cystadlaethau'r Eisteddfod flynyddol wrth i'r ŵyl ehangu o chwe diwrnod i saith am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf.

Fe gyhoeddodd y mudiad fwriad i ehangu'r ŵyl yn ystod Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr eleni gan ddweud bod hynny'n "ymateb i'r cynnydd yn y niferoedd sy'n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am gystadlaethau newydd".

Mae manylion y cystadlaethau newydd, sy'n un o ganlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnwys aelodau, aelwydydd, ysgolion a phwyllgorau lleol, i'w gweld yn y Rhestr Testunau ar gyfer prifwyl 2026 yn Ynys Môn sydd wedi ei chyhoeddi ddydd Llun.

Y nod, medd yr Urdd, trwy ddod â chyfanswm y cystadlaethau i dros 400 erbyn hyn, yw "sicrhau bod y trefniadau newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i ymwneud â'r Gymraeg drwy'r celfyddydau".

Dyma fydd trefn newydd y cystadlu wythnos yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn:

  • Dydd Sadwrn: Dysgwyr, Dawnsio Disgo

  • Dydd Sul: Aelwydydd

  • Dydd Llun: Uwchradd bl10 a dan 19, ADY

  • Dydd Mawrth: Uwchradd bl7,8,9 ac offerynnol bl10 a dan 25

  • Dydd Mercher: Adrannau, Uwchradd offerynnol bl7,8,9

  • Dydd Iau: Cynradd (Cân actol a Pherfformiad theatrig i ysgolion ac Adrannau)

  • Dydd Gwener: Cynradd

Eisteddfodfwyr yn ardal y babell CanlyniadauFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Dyma'r cystadlaethau newydd ar gyfer 2026:

  • Unawd Blwyddyn 6 ac iau i ddysgwyr

  • Côr Sioe 25 oed ac iau - trefniant Corws o gân o sioe gerdd neu gân wreiddiol Gymraeg

  • Cystadleuaeth unigol ADY

  • Dawns Stepio i grŵp o 4 neu lai i flwyddyn 6 ac iau

  • Monolog bl7,8,9

  • Cân o Sioe Gerdd bl7,8,9

  • Côr Blwyddyn 6 ac iau i ysgolion dros 300 o blant

  • Cystadlaethau Eisteddfod T newydd

  • Cystadleuaeth Celf, Dylunio a Thechnoleg newydd i ddisgyblion PMLD

Dywed yr Urdd bod 119,593 o gofrestriadau i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, sy'n fwy nag erioed o'r blaen" a bod cynnydd sylweddol - 42% - yn nifer y dysgwyr Cymraeg ifanc a gymrodd ran o'i gymharu ag Eisteddfod 2024.

'Cydweithio â'r cyhoedd'

Mae'r Eisteddfod, medd Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru, Llio Maddocks, "yn ŵyl sy'n esblygu" ac mae'r mudiad ieuenctid "yn gwrando ar ein haelodau".

"I sicrhau ein bod ni'n parhau i fod yn fudiad cynhwysol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, rydym wedi cydweithio â'r cyhoedd i greu'r amserlen gystadlu newydd hon," dywedodd.

"Mae ymgynghori a chydweithio gyda channoedd o aelodau a hyfforddwyr wedi sicrhau bod y trefniadau newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i gymryd rhan, a diolchwn i'r holl bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o'r ymgynghoriad cenedlaethol yn enwedig.

"Eu gŵyl nhw ydi Eisteddfod yr Urdd, ac mae derbyn eu mewnbwn i'r broses wedi bod yn amhrisiadwy. Gobeithiwn fydd y datblygiad yma'n arwain at fwy fyth yn ymwneud â'r Gymraeg a'r celfyddydau, a hynny drwy eu perthynas â'r Urdd."

Wyth o blant, merched a bechgyn, yn eisted neu'n sefyll ar arwydd Croeso Eisteddfod yr UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Gan groesawu'r cynnydd blynyddol o ran nifer y cystadleuwyr, dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol yn Ynys Môn, Manon Wyn Williams bod "ymestyn hyd yr Eisteddfod i saith diwrnod yn ddatblygiad hanfodol a chyffrous".

Ychwanegodd: "Mae'n fraint ein bod ni ym Môn yn cael croesawu'r Eisteddfod arbrofol hon ac mae'n gyfle i edrych o'r newydd ar strwythur yr ŵyl gan gydweithio â phlant a phobl ifanc Cymru wrth wneud hynny.

"Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i'r Fam Ynys y flwyddyn nesaf!"

Fe fydd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn yn cael ei chynnal ar faes Sioe Môn ger Gwalchmai rhwng dydd Sadwrn y Sulgwyn, 23 Mai a dydd Gwener 29 Mai.

Fe fydd yr Ŵyl Groeso yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 20 Medi gyda gorymdaith trwy ganol Llangefni, cyn "prynhawn o hwyl a gig" ym Mhafiliwn Cae Sioe Môn, gyda pherfformiadau gan Celt, Fleur de Lys a Cordia.