Eisteddfod yr Urdd yn bwriadu ehangu'n ŵyl saith diwrnod

Arwydd croeso
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Urdd wedi cyhoeddi bwriad i ehangu'r Eisteddfod i fod yn ŵyl saith diwrnod yn Ynys Môn yn 2026.

Daw'r newid mewn ymateb i gynnydd yn y niferoedd sy'n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am fwy o gystadlaethau.

Mae Eisteddfod yr Urdd yn bodoli ers 1929, a dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau i'r Urdd, ei bod hi'n ŵyl sy'n "esblygu ac yn gwrando ar ein haelodau".

Bydd y cystadlu yn dechrau ar ddydd Sadwrn y Sulgwyn, 23 Mai 2026, ac yn rhedeg tan ddydd Gwener, 29 Mai.

Mae'r bartneriaeth ddarlledu gydag S4C a BBC Radio Cymru yn mynd i barhau.

'Mudiad cynhwysol ar gyfer pob plentyn'

Dywedodd yr Urdd mai'r bwriad ydy cydweithio gydag aelodau, aelwydydd, canghennau a phwyllgorau i sicrhau bod y trefniadau'n cynnig mwy o gyfleoedd i gymryd rhan.

Bydd y trefniadau terfynol yn cael eu cadarnhau adeg cyhoeddi Rhestr Testunau 2026 yn yr hydref.

Yn y cyfamser, maen nhw'n gwahodd adborth ar y datblygiad drwy lenwi ffurflen ar eu gwefan, dolen allanol.

Dywedodd Llio Maddocks eu bod "mor falch o weld yr effaith gadarnhaol y mae'r ŵyl yn ei chael drwy gynyddu'r cyfleoedd i ymwneud â'r Gymraeg tu allan i'r ystafell ddosbarth".

"Felly i sicrhau ein bod ni'n parhau i fod yn fudiad cynhwysol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, byddwn yn ehangu'r Eisteddfod," meddai.

Mae'r penderfyniad wedi derbyn cefnogaeth gan y Pwyllgor Gwaith lleol.

Dywedodd Manon Wyn Williams, Cadeirydd ar y Pwyllgor Gwaith yn Eisteddfod Môn, bod y cynnydd mewn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn "galonogol iawn".

"Mae'n golygu bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd amhrisiadwy drwy'r mudiad," meddai.

Ychwanegodd fod y diolch am hynny lawr i "waith diflino hyfforddwyr, athrawon, gwirfoddolwyr a staff gweithgar yr Urdd ledled Cymru".