'Sioc' wrth i gwrs ymarfer dysgu Prifysgol Aberystwyth ddod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau na fydd cyrsiau ymarfer dysgu yn cael eu cynnal yn y brifysgol y flwyddyn nesaf.
Ddydd Gwener fe gafodd myfyrwyr wybod bod y cwrs TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) yn dod i ben.
"Ges i sioc ofnadw' pan ges i e-bost yn dweud na fydd y cwrs yn cael ei gynnal yn Aber y flwyddyn nesaf," meddai Cerys Davies wrth siarad â Cymru Fyw.
Mae Cerys, o Gwm Gwaun, yn fyfyrwraig trydedd blwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth - roedd hi'n edrych ymlaen i wneud cwrs ymarfer dysgu uwchradd mewn drama.
"Fi ar hyn o bryd ar ddiwedd y drydedd flwyddyn - adeg anodd, mae angen cyflwyno y traethawd hir ac mae 'na arholiadau ar y gorwel.
"Peth diwetha o'n i mo'yn clywed bod y cwrs o'n i am 'neud flwyddyn nesaf ddim yn digwydd.
"Fi'n 'neud gradd mewn Addysg a Drama a'r cam naturiol nesaf i fi oedd 'neud cwrs ymarfer dysgu mewn drama."
'Dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd'
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau mewn datganiad na fydd cyrsiau TAR yn cael eu cynnal yn Aberystwyth flwyddyn nesaf.
Wrth i lefarydd gael ei holi a fyddai swyddi yn cael eu colli yn sgil y penderfyniad dywedodd nad oedd am ymhelaethu ar y datganiad.
"O ganlyniad i benderfyniad Cyngor y Gweithlu Addysg i beidio ailachredu rhaglen TAR sy'n cael ei darparu gan Bartneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon Aberystwyth fydd y Brifysgol ddim yn cynnig cyrsiau TAR o ddiwedd y flwyddyn academaidd hon ymlaen," medd y datganiad.
"Fydd y penderfyniad ddim yn cael effaith ar astudiaethau na chymhwyster y myfyrwyr TAR presennol.
"Fe fydd ein Hysgol Addysg yn parhau i gynnal amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau gradd mewn Astudiaethau Plentyndod ac Addysg, cyrsiau ar lefel Meistr i athrawon a chyrsiau ymchwil mewn Addysg."
Wrth ymateb, dywedodd Cyngor y Gweithlu Addysg - sy'n achredu ac yn ailachredu rhaglenni dysgu - nad oedd cyrsiau TAR yn cwrdd â'r criteria gan gadarnhau bod rhaglen Aberystwyth yn darparu cyrsiau ymarfer dysgu cynradd ac uwchradd.
"Dyw'r adroddiad sydd yn cynnwys y penderfyniad hwn ddim yn ddogfen gyhoeddus," medd llefarydd, "ond mi allai gadarnhau bod Parneriaeth Aberystwyth wedi derbyn copi."
'Ddim yn gwybod be' i 'neud'
"Lwcus bo fi wedi cael gwybod fore Gwener achos ro'n i yn arwyddo am dŷ yn Aberystwyth brynhawn Gwener," ychwanegodd Cerys Davies.
"Dwi ddim yn gwybod be i 'neud nawr - dyw'r cwrs ddim ar gael yng Nghaerfyrddin a'r tebyg yw bydd yn rhaid i fi fynd i Gaerdydd.
"Ar y pryd 'nes i ddim trio am le yng Nghaerdydd gan bo fi wedi cael lle yn Aberystwyth."
Dywedodd myfyrwraig arall, sydd am aros yn ddienw, fod y newyddion yn achosi cryn bryder iddi hi.
"Dwi wedi arwyddo am dŷ yn Aberystwyth flwyddyn nesaf ac wrth fy modd yma.
"Fy mwriad oedd gwneud ymarfer dysgu uwchradd mewn Saesneg ac roeddwn wrth fy modd fy mod wedi cael fy nerbyn ar y cwrs.
"Pan chi ar ddiwedd eich trydedd blwyddyn mae cael newyddion fel hyn yn anodd.
"Yn fy achos i, dwi'n dod o America - felly os ydw i angen gweithio bydd rhaid i fi drefnu fisa gwahanol."
'Athrawon ddim yn gwneud cynnydd digonol'
Mae adroddiad Estyn yn 2023, dolen allanol yn nodi bod "Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon Aberystwyth (AGA) yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, sy’n gweithio mewn partneriaeth â chwe ysgol arweiniol a 59 o ysgolion partneriaeth sydd wedi’u lleoli ledled Cymru".
Mae Partneriaeth AGA yn rhan o Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth.
Yn yr adroddiad nodwyd bod 30 o fyfyrwyr ar y pryd yn dilyn llwybr TAR Cynradd wyth ohonynt yn dilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd 21 o fyfyrwyr yn dilyn y llwybr TAR Uwchradd - pump ohonynt yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd arolwg Estyn yn cydnabod bod y Bartneriaeth wedi wynebu heriau yn sgil Covid ond nododd ei "bod wedi bod yn rhy araf i flaenoriaethu meysydd pwysig o’i gwaith sydd angen eu gwella".
Ychwanegodd: "Nid yw gormod o addysgu, mentora a gormod o’r profiadau dysgu a ddarperir gan y bartneriaeth yn cynorthwyo athrawon dan hyfforddiant i wneud cynnydd digonol."
Roedd yna bump o argymhellion gan Estyn yn dilyn yr arolygiad sef:
Gwella prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant fel eu bod yn nodi’n fanwl gywir yr agweddau ar waith y bartneriaeth sydd angen eu gwella fwyaf i sicrhau cynnydd myfyrwyr;
Cryfhau gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys rôl yr ysgol arweiniol, ac effeithiolrwydd arweinyddiaeth ar y cyd;
Gwella ansawdd addysgu a mentora ar draws y bartneriaeth;
Sicrhau bod y rhaglen yn darparu ystod sy’n briodol o gydlynus, integredig a graddol o brofiadau sy’n datblygu eu gwybodaeth a’u medrau yn ddigon manwl ac eang;
Mynd i’r afael â phroblemau sy’n cael effaith negyddol ar les myfyrwyr, a chryfhau’r cyfraniad a wnânt at werthuso a gwella’r rhaglen.
Nodwyd y byddai Estyn yn ailarolygu’r ddarpariaeth ymhen rhyw flwyddyn sef ar ddechrau 2024.
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
Yn ychwanegol i'r cyrsiau gradd ac ymchwil roedd datganiad y Brifysgol yn nodi bod yr ysgolheigion yn yr adran ynghlwm ag ymchwil mewn meysydd allweddol fel iechyd a lles, datblygu'r cwricwlwm, polisi addysg cenedlaethol a lleol, deallusrwydd artiffisial ac addysg cyfrwng Cymraeg.
"Bydd ein Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol gydag ysgolion yn parhau fel arfer," ychwanegodd y datganiad.