Faint o wleidyddion sydd gan Gymru o'i gymharu â gwledydd eraill?

  • Cyhoeddwyd

'Mae ‘na ormod o wleidyddion'… dyna gyhuddiad sy’n cael ei wneud gan rai pobl o bryd i’w gilydd ynglŷn â'r strwythurau llywodraethol yng Nghymru.

Mae cynlluniau i ehangu Senedd Cymru o 60 aelod i 96 wedi eu pasio, gyda’r bwriad o leihau baich gwaith yr aelodau, cynyddu atebolrwydd y llywodraeth a chryfhau y gyfundrefn ddemocrataidd.

Ond gyda’r newidiadau yma, a fydd gan Gymru fwy neu lai o wleidyddion o'i gymharu â deddfwriaethau eraill ym Mhrydain, Ewrop a thu hwnt?

Yn ôl ystadegau gwefan ukpopulation.org, mae'n cael ei amcangyfrif y bydd 3,308,000 o bobl yn byw yng Nghymru ar 1 Gorffennaf eleni.

Felly, dyma gymariaethau â chyrff deddfwriaethol eraill sydd â phoblogaethau tebyg i Gymru.

Mae’n werth nodi bod gan Yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel Cymru wrth gwrs, Aelodau yn Senedd San Steffan â chynrychiolaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi hefyd.

Er mwyn gosod y cymariaethau yn ei gyd-destun mae rhai o'r enghreifftiau yma yn genhedloedd sydd ddim yn annibynnol, ac eraill yn wladwriaethau annibynnol.

Mae'n bwysig nodi mai cymariaethau ar ran poblogaeth gyfan yw rhain hefyd, nid nifer etholwyr sy'n gymwys i bleidleisio.

Cymru

Poblogaeth: 3,308,000

Cynlluniau newydd ar gyfer Senedd Cymru: 96 aelod

Nifer y dinasyddion i bob aelod: 34,458

Cynrychiolaeth Senedd San Steffan presennol: 40 aelod (75,200 o ddinasyddion i bob aelod)

Cynrychiolaeth Senedd San Steffan, cynlluniau newydd 2024: 32 aelod (94,000 o ddinasyddion i bob aelod)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Siambr yn Holyrood, Caeredin

Yr Alban

Poblogaeth: 5,580,000

Senedd Yr Alban: 129 aelod (43,255 o ddinasyddion i bob aelod)

Senedd San Steffan: 59 aelod (94,576 o ddinasyddion i bob aelod)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cartref Cynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont, dwyrain Belfast

Gogledd Iwerddon

Poblogaeth: 1,941,000

Cynulliad Gogledd Iwerddon: 90 aelod (21,566 o ddinasyddion i bob aelod)

Senedd San Steffan: 18 aelod (107,837 o ddinasyddion i bob aelod)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Siambr Senedd Gwlad y Basg yn Vitoria-Gasteiz

Gwlad y Basg

Poblogaeth Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg: 2,227,581

Enw'r senedd: Eusko Legebiltzarra / Senedd Gwlad y Basg

Aelodau: 75

Nifer y dinasyddion i bob aelod: 29,701

Mae'r dair dalaith sy'n ffurfio Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg hefyd yn anfon 18 Aelod Seneddol i'r Congreso de los Diputados (Tŷ Cyffredin Sbaen) ym Madrid: Álava (4) Gipuzkoa (6) Biscay (8).

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad Maximilianeum, Munich

Bavaria

Poblogaeth: 13,700,000

Enw'r senedd: Bayerischer Landtag / Senedd Talaith Bavaria

Aelodau: 203

Nifer y dinasyddion i bob aelod: 67,488

Mae gan y Bundestag (Senedd Yr Almaen) 734 o aelodau, gyda 47 etholaeth yn Bavaria. Mae'r dalaith hefyd yn anfon aelodau i'r senedd drwy ddefnyddio dull D'Hondt, system ethol gynrychioladol, yn debyg i Senedd Cymru.

Ffynhonnell y llun, getty
Disgrifiad o’r llun,

Adeiladau Senedd Gorllewin Awstralia yn Perth

Gorllewin Awstralia

Poblogaeth: 2,910,000

Enw'r senedd: Parliament of Western Australia / Senedd Gorllewin Australia

Aelodau: 95 (59 yn y Cynulliad a 36 yn y Cyngor)

Nifer y dinasyddion i bob aelod: 30,632

Mae Gorllewin Awstralia hefyd yn anfon aelodau seneddol (16/151) a seneddwyr (12/76) i senedd genedlaethol Awstralia.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Adeiladau'r senedd ar Rue des Parlementaires, Québec

Quebéc

Poblogaeth: 8,750,000

Enw'r senedd: Assemblée nationale du Québec / Cynulliad Cenedlaethol Quebéc

Aelodau: 125

Nifer y dinasyddion i bob aelod: 70,000

Yn y Senedd Cenedlaethol yn Ottawa mae gan Quebéc 24 o Seneddwyr allan o125, a 78 Aelod Seneddol o'r 338 yn Nhŷ'r Cyffredin.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tu fewn i Chambre des Députés, Senedd Lwcsembwrg

Lwcsembwrg

Poblogaeth: 662,000

Enw'r senedd: Hôtel de la Chambre des Députés / Neuadd Siambr y Dirpwyon

Aelodau: 60

Nifer y dinasyddion i bob aelod: 11,033

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Eisteddfodd Senedd Latfia am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 1922

Latfia

Poblogaeth: 1,815,000

Enw'r senedd: Latvijas Republikas Saeima / Senedd Genedlaethol Gweriniaeth Latfia

Aelodau: 100

Nifer y dinasyddion i bob aelod: 18,150

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Senedd Seland Newydd oedd y cyntaf yn y byd i roi'r bleidlais i fenywod, yn 1893

Seland Newydd

Poblogaeth: 5,263,000

Enw'r senedd: Pāremata Aotearoa / Senedd Seland Newydd

Aelodau: 123

Nifer y dinasyddion i bob aelod: 42,789

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Y Palas Seneddol, Zagreb

Croatia

Poblogaeth: 3,990,000

Enw'r senedd: Hrvatski sabor / Senedd Croatia

Aelodau: 151

Nifer y dinasyddion i bob aelod: 26,424

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Senedd Lithwania yn y brifddinas, Vilnius

Lithwania

Poblogaeth: 2,696,000

Enw'r senedd: Lietuvos Respublikos Seimas / Senedd Genedlaethol Gweriniaeth Lithwania

Aelodau: 141

Nifer y dinasyddion i bob aelod: 19,121