Awyrennau ymladd Americanaidd yn ymarfer yng ngorllewin Cymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd cymunedau yn y de-orllewin eu syfrdanu nos Lun wrth i lu awyr yr Unol Daleithiau gynnal ymarferion yn yr ardal.
Roedd sawl awyren F35-A yn rhan o'r ymarferion uwchben Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin - oedd yn cynnwys hedfan yn gyflym ar uchder isel.
Roedd cannoedd o sylwadau yn trafod y mater ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai yn dweud nad oedden nhw erioed wedi gweld ymarferion mor swnllyd fin nos o'r blaen.
Fe wnaeth un o swyddogion canolfan llu awyr yr UDA yn Suffolk gadarnhau bod eu hawyrennau yn rhan o'r ymarferion.
Ychwanegodd fod "angen i beilotiaid feistroli nifer o sgiliau penodol, ac mae hedfan gyda'r nos yn un o'r sgiliau hynny".
- Cyhoeddwyd8 Mai 2024
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd2 Awst 2023
'Reit gyffrous'
Dywedodd Nigel Williams o Cross Hands ei fod yn gwylio'r teledu gyda'i deulu pan glywodd y sŵn.
"Fe aethon ni allan a dechrau ffilmio'r cyfan. Ni 'rioed wedi clywed unrhyw beth fel hynny o'r blaen, roedd y cyfan yn reit gyffrous i ddweud y gwir," meddai.
"Roedd yn ymddangos i ni fel bod yr awyrennau yn dilyn gwrthrych arall oedd â golau coch arno.
"Fe ddiflannodd y golau, a ry' ni'n meddwl bod yr awyrennau wedi dilyn y gwrthrych tua'r gorllewin," meddai.
Mae gan Weinyddiaeth Amddiffyn y DU nifer o safleoedd sy'n cael eu defnyddio ar gyfer ymarferion, gan gynnwys ardal sy'n cael ei gyfeirio ato fel y 'Mach Loop' yn ardal Machynlleth.