Cefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru yn 'ysbeidiol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r gefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr yng Nghymru yn "ysbeidiol", yn ôl elusen o Lanelli.
Mae Links Combined Forces yn dweud bod y galw am gefnogaeth ar gyfer pobl sy'n gadael y lluoedd arfog yn cynyddu, ond ei bod hi'n anodd i bobl wybod lle i droi.
Dangosa'r ffigyrau diweddaraf bod 77% o gyn-filwyr yng Nghymru wedi profi o leiaf un trawma milwrol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod wedi buddsoddi mewn gwasanaethau i gefnogi cyn-filwyr.
Mae'r elusen iechyd meddwl i gyn-filwyr, Links Combined Forces, yn cefnogi tua 150 o gyn-filwyr.
Maen nhw'n cynnal sesiynau galw heibio bob bore dydd Mawrth, yn ogystal â chynnal boreau coffi rheolaidd ar benwythnosau a sesiynau cwnsela dros y ffôn.
Mae Andrew McDonald-Rice yn gynorthwyydd prosiect gyda Link Combined Forces, ac mae o'n dweud ei bod hi'n anodd i gyn-filwyr ddod o hyd i'r gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw.
"Ar draws Cymru mae'r gefnogaeth yn ysbeidiol. Ni'n llawer o elusennau bach sy'n gwneud ein pethau ein hunain. Rydyn ni nawr yn ceisio dod at ein gilydd o dan un ymbarél," meddai.
"Mae'r angen am gefnogaeth yno ac mae'n tyfu. Mae mwy o gyn-filwyr yn dod allan nawr ac nid yw PTSD yn digwydd ar unwaith. Mae'n cymryd amser a nawr mae'n digwydd."
Cefnogaeth 'sylfaenol iawn'
Mae Mr McDonald-Rice yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ar ôl gwasanaethu yn y lluoedd arfog rhwng 1986 a 1991.
Cafodd ei gyfeirio at Links i ddelio â hynny, ac mae bellach yn aelod o staff gyda'r elusen ac yn dysgu dosbarthiadau paentio gyda chyn-filwyr eraill.
"(Roedd gadael y lluoedd arfog) Mae fel taro wal frics. Chefais i ddim help gyda thai na budd-daliadau. Nid oedd unrhyw gymorth gydag iechyd meddwl a ddechreuodd e ddirywio o fewn chwe mis o ddod allan. Roedd 'na gefnogaeth sylfaenol iawn."
Yn ôl GIG Cyn-filwyr Cymru, cafodd 574 o gyn-filwyr eu cyfeirio at y gwasanaeth iechyd am gymorth iechyd rhwng 2021-2022.
O'r data sydd ar gael, mae dros 77% o gyn-filwyr wedi profi o leiaf un trawma milwrol.
Mae digartrefedd ymhlith cyn-filwyr hefyd yn achos pryder i'r elusen Helping Homeless Veterans UK.
Maen nhw'n honni bod 80% o'r achosion maen nhw'n delio â nhw ar draws Cymru a Lloegr yn ymwneud â chyn-filwyr sydd wedi cael eu troi allan o lety rhent preifat.
Mae'r elusen yn gobeithio troi hen glwb nos Raffles yn Llanelli yn fflatiau ar gyfer cyn-filwyr digartref yn yr ardal.
Mae Jordan Davies yn gyn-filwr o Wauncaegurwen ac mae o'n gweithio ar y prosiect fel trydanwr.
Fe wnaeth ddioddef o PTSD yn dilyn dau gyfnod yn gwasanaethu yn Irac.
"Mae yna lawer o gyn-filwyr yn ei chael hi'n anodd, ac maen nhw mor proud... dydyn nhw ddim yn hoffi gofyn am help," meddai.
"Maen nhw'n cuddio yn y cefndir. Felly rydyn ni eisiau iddyn nhw wybod ein bod ni yma iddyn nhw."
Ymatebion y llywodraethau
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ledled Cymru, rydyn ni'n ariannu GIG Cymru i Gyn-filwyr i ddarparu cymorth iechyd meddwl arbenigol ac mae gennym ni Rwydwaith Trawma Cyn-filwyr i ddarparu cymorth ar gyfer cyflyrau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau.
"Yn gynharach eleni fe wnaethom ni lansio cynllun i bractisau meddygon teulu ddod yn gyfeillgar i gyn-filwyr."
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am amddiffyn, wedi dweud: "Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud y DU yr wlad orau yn y byd i fod yn gyn-filwr.
"Rydym wedi lansio ystod o gymorth ar gyfer cyn-filwyr a'u teuluoedd ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru, megis £8.55m i roi terfyn ar ddigartrefedd cyn-filwyr a £700,000 ar gyfer sefydliadau sy'n darparu cymwysterau, hyfforddiant a datblygu sgiliau i gyn-filwyr i'w helpu i drosglwyddo i mewn i'r wlad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2021