'Datrysiad cymunedol' i achos difrod i wely blodau cymunedol

Gwely blodauFfynhonnell y llun, Andy Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd fideo o'r dinistr i'r gwely blodau ei rannu'n eang ar gyfryngau cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn busnes oedd wedi'i gyhuddo o ddinistrio gwely blodau cymunedol yn y gogledd wedi dod i "ddatrysiad cymunedol" y tu allan i'r llys, sef rhoi arian i eglwys leol, mae llys wedi clywed.

Roedd Michael Hodgson, 55 oed o Waunysgor ger Prestatyn, wedi ei gyhuddo o ddifrod troseddol ar ôl i wely o flodau gwyllt gael ei ddifrodi yn y pentref fis Awst diwethaf.

Cyngor Cymuned Trelawnyd a Gwaunysgor oedd yn berchen ar y gwely blodau, ac roedd gwerth y difrod wedi'i restru fel £178.

Fe gafodd fideo o'r digwyddiad ei rannu yn eang ar-lein.

Roedd Mr Hodgson wedi honni bod y gwely blodau cymunedol yn cael effaith ar ei gartref.

'Wedi bod trwy uffern'

Dywedodd yr erlynydd Rhian Jackson wrth farnwr rhanbarthol yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug bod trafodaethau wedi bod rhwng yr erlyniad a'r amddiffyniad mewn cysylltiad â'r honiadau.

Clywodd y llys fod yr erlyniad yn hapus gyda'r datrysiad cymunedol, ond nad oedd yr heddlu wedi rhoi rhybudd i Mr Hodgson.

"Mae Mr Hodgson bellach yn byw y tu allan i'r wlad," meddai Ms Jackson, er bod ganddo gyfeiriad yn y pentref o hyd.

Ychwanegodd cynrychiolydd Mr Hodgson, Selina Woodward: "Y datrysiad cymunedol oedd i dalu swm o arian i'r eglwys leol. Cafodd hynny ei dalu."

Dywedodd fod "y gŵr bonheddig yma a'i wraig wedi bod trwy uffern".

Ychwanegodd bod y cwnstabl heddlu oedd yn ymwneud â'r achos wedi stopio ymateb, a'i bod eisiau i'r achos gael ei ohirio.

Fe wnaeth y barnwr rhanbarthol ohirio'r achos tan fis Hydref, er mwyn i Heddlu Gogledd Cymru drafod gyda Mr Hodgson am faterion sydd eto i'w cwblhau yn ei ddatrysiad cymunedol.

Pynciau cysylltiedig