Tywysog Cymru yn 2002 yn cwyno am 'dâp coch' y llywodraeth

Y Brenin Charles a'r FrenhinesFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Mae llythyr a ysgrifennwyd gan y Brenin Charles yn cwyno am “dâp coch” y llywodraeth dros 20 mlynedd yn ôl wedi cael ei ryddhau gan yr Archifau Cenedlaethol.

Yn y llythyr yn 2002, cwynodd Tywysog Cymru ar y pryd wrth un o uwch weinidogion Llywodraeth y DU fod “cyfreithiau mwy cyfarwyddol” yn creu “anhawster cynyddol mewn llawer o feysydd”.

Dywedodd y Brenin ei fod wedi cael ei “rybuddio” gan y prif weinidog ar y pryd, Tony Blair, efallai na fyddai ei farn yn cael ei chroesawu ond yr hoffai eu trafod gyda gweinidog cabinet.

Bu honiadau blaenorol bod Charles yn ceisio “ymyrryd” ym mholisïau'r llywodraeth, na ddylai fod yn ei wneud fel aelod o’r teulu brenhinol.

'Biwrocratiaeth'

Yn llythyr Chwefror 2002 at yr Arglwydd Irvine, a oedd fel yr Arglwydd Ganghellor yn uwch gynorthwyydd cyfreithiol i’r prif weinidog Tony Blair, dywed Charles ei fod wedi ysgrifennu o’r blaen yn amlinellu ei bryderon ynghylch yr hyn a alwodd yn “gyfreithgarwch cynyddol” yng nghymdeithas y DU.

Mae'n mynegi pryder ynghylch “enghreifftiau eithriadol o ymgyfreitha” a “biwrocratiaeth”.

Meddai: “Po fwyaf yr wyf wedi meddwl am y grŵp hwn o faterion, y mwyaf argyhoeddedig yr wyf ein bod yn anelu at anhawster cynyddol mewn llawer o feysydd.”

Mae’n nodi sawl maes sy’n peri pryder gan gynnwys gwirfoddolwyr gofal cymdeithasol yn methu â dosbarthu prydau poeth, pobl oedrannus mewn cartrefi gofal yn methu ag agor drysau tân gan eu bod yn rhy drwm ac anamlder hyfforddiant tanio byw i filwyr.

“Does gen i fawr o amheuaeth bod y doreth o reolau a hawliau yn gwneud pobl yn orofalus, yn llesteirio menter ac yn atal meddwl yn greadigol.

“Mae’r lluoedd arfog yn enghraifft bwysig. Byddinoedd yn ymladd wrth iddynt hyfforddi. Os dymunwch wneud yn dda mewn ymladd rhyfel dwys, rhaid i chi hefyd hyfforddi ar lefel uchel o ddwysedd.

"Ond oherwydd bod rhagofalon diogelwch modern mor llym, mae ymarferion tanio byw yn digwydd yn llawer llai aml nag o'r blaen.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd "carfan gyfan o wirfoddolwyr mewn perygl o gael eu dieithrio" yn y sector gofal, yn ôl Charles yn ei lythyr

Ar wirfoddolwyr gofal mae’n ysgrifennu: “Mae’r gyfraith bellach yn atal gwirfoddolwyr rhag coginio prydau i breswylwyr gartref, ac yna eu cludo i gartref y preswylydd i gael eu hailgynhesu. Mae hefyd yn eu hatal rhag coginio prydau mewn cartrefi henoed oni bai eu bod wedi dilyn cwrs hylendid bwyd”.

“Ac eto, mae llawer o’r mathau hyn o wirfoddolwyr yn ferched canol oed sydd wedi coginio i’w teuluoedd ers 40 mlynedd heb wenwyno neb”.

“Er mwyn amddiffyn yr henoed rhag risg fechan, ond damcaniaethol, mae carfan gyfan o wirfoddolwyr mewn perygl o gael eu dieithrio”.

“Mae’n ymddangos mor amlwg weithiau nad yw’r rhai sy’n sefydlu’r rheolau yn gwybod am beth maen nhw’n siarad”.

Dywed Charles: “Ni fyddwn am i chi feddwl am eiliad y byddwn yn dadlau yn erbyn ffyrdd synhwyrol o amddiffyn buddiannau unigolion a chymdeithas rhag niwed, anghyfrifoldeb ac annhegwch”.

Mae’n gorffen y llythyr at swyddog y gyfraith gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at “drafod y materion yn fwy preifat ac yn fwy manwl”.

Nid yw'n hysbys a wnaeth drafod y materion gyda'r Arglwydd Irvine.

Yn 2015 dyfarnodd y Goruchaf Lys y gallai llythyrau preifat eraill a anfonwyd gan Charles at weinidogion Llafur rhwng Medi 2004 ac Ebrill 2005 gael eu cyhoeddi gan gyfryngau.

Mewn un llythyr at y prif weinidog Tony Blair, dywedodd y tywysog ar y pryd bod y lluoedd arfog yn cael eu gofyn i wneud gwaith heriol “heb yr adnoddau angenrheidiol”.

O dan y dyfarniad cyfreithiol hwn, cyhoeddwyd 27 o lythyrau at saith o adrannau’r llywodraeth ar bynciau eang eu cwmpas, gan gynnwys goruchafiaeth archfarchnadoedd, difa moch daear a’r sector meddygaeth lysieuol.

Cafodd feto gan Lywodraeth y DU ar gyhoeddi'r dogfennau ei ddatgan yn anghyfreithlon gan y Llys Apêl y llynedd – penderfyniad a gafodd ei gadarnhau gan y Goruchaf Lys ym mis Mawrth 2015.