Teimlo 'dyletswydd' i drefnu gigiau Cymraeg yn Llanfairfechan
- Cyhoeddwyd
Wrth feddwl am Lanfairfechan, prin fod pobl yn cysylltu'r dref sydd wedi'i lleoli ar ochr ffordd yr A55 gyda gigs Cymraeg.
Ers rhyw ddwy flynedd bellach, dyna'n union sydd wedi digwydd.
Bron allan o nunlle, fe ddechreuodd sawl un o fandiau amlycaf Cymru ddechrau chwarae gigs yn Neuadd y Dref.
Y sawl sy'n gyfrifol am drefnu'r holl gigs yw Sara 'Croesor' Green, sy'n trefnu'r gigs dan yr enw Bar Fechan.
'Castell o Ddyn'
Fe ddechreuodd y cyfan yn ystod y cyfnod clo, yn dilyn sgwrs ddwys iawn rhwng Sara a'i Thad.
Fe aeth Sara adref i Groesor er mwyn recordio ei thad yn siarad am ei fywyd.
"Nes i ofyn wrth Dad os oedd o erioed wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol?
"Dyma fo'n deud ei fod o yng Nghricieth 1975, a'r themâu oedd, Cestyll neu Gastell.
"Roedd o wedi gorffen y gerdd gyda'r llinell, y base fo'n hapus os y base fo'n cael ei ystyried fel 'castell o ddyn' rhyw ddydd.
"Do'n i erioed wedi clywed yr ymadrodd yna o'r blaen, felly dyma fi'n gofyn be' oedd o'n feddwl?
"Meddylia beth mae castell yn ei neud? Mae'n amddiffyn y wlad, y diwylliant y bobl a'r iaith.
"Roedd hwnna yn mynd rownd a rownd yn fy mhen i efo'r gigiau Cymraeg, a ro'n i'n teimlo fy mod i eisiau gwneud rhywbeth dros yr iaith Gymraeg yn Llanfairfechan, a dyma gychwyn wedyn ar y gigiau Cymraeg," meddai Sara.
Erbyn hyn mae wedi cael bandiau poblogaidd fel Bwncath, Celt, Pedair, Pwdin Reis a Cowbois Rhos Botwnnog i chwarae yn y dref.
Roedd Cowbois Rhos Botwnnog wedi ymweld â'r neuadd fel rhan o'u taith, Mynd a'r Tŷ am Dro.
Dywedodd y cerddor Gethin Griffiths oedd yn chwarae gyda Cowbois Rhos Botwnnog eu taith ddiweddar:
"'Mae cael chwarae gig ym mhob lleoliad yn fraint, ond mae chwarae yn rhywle mwy anghyfarwydd, rhywle sydd ddim yn cael ei gysylltu hefo'r sin gerddoriaeth fyw yn draddodiadol, yn arbennig iawn.
"Mi wnaeth 'na bobl deithio o bell i ddod i'n gweld ni ond mi'r oedd yn hynod braf gweld pobl leol yno hefyd yn mwynhau cerddoriaeth yn eu tref eu hunain."
Yn ôl Sara, mae'r ymateb mae hi wedi ei gael i'r gigs yn "anhygoel" ac mae hi'n ddiolchgar iawn i griw o wirfoddolwyr a swyddogion neuadd y dref am eu cydweithrediad.
Mae Sara yn gyn athrawes Gymraeg, ond bellach, ar ôl gadael y byd addysg yn gweithio mewn tafarndai.
Mae ganddi drwydded i redeg bar yn ystod y gigs, ac mae'r neuadd wedi'i osod yn wahanol ar gyfer pob gig.
Mae ganddi lawer o syniadau at y dyfodol, gyda’r bwriad o geisio denu Yws Gwynedd a Kizzy Crawford yno'n fuan.
'Sin mor gyfoethog'
Un o'r pethau mae Sara yn frwdfrydig iawn am geisio ei wneud yw gwneud i bobl sylweddoli pa mor "gyfoethog" yw'r sin gerddorol yma yng Nghymru.
Un sydd wedi bod ynghlwm â'r sin ers degawdau ac sydd wedi mynychu sawl gig yn Llanfairfechan yw cyn aelod o fand Yr Anhrefn a chyflwynydd Radio Cymru, Rhys Mwyn.
"Yn Llanfairfechan, mae gen ti neuadd y dref hyfryd, mae 'na lwyfan dda a digon o le.
"Mae o'n le sy'n newydd o ran map y venues. Mae Sara yn gwybod sut i drefnu, mae'r holl beth, y set up, yr awyrgylch, popeth yn dda," meddai Rhys Mwyn.
Wrth edrych ar ddyfodol gigs Cymraeg yn Llanfairfechan, dywedodd Sara ei bod hi'n gyffrous ac yn edrych ymlaen at beth sydd i ddod.
"Mae'n hynod bwysig fod pobl yn deall y sin Gymraeg, mae'n rhywbeth mor gyfoethog.
"Mae Bar Fechan yn rhan mor bwysig o fy mywyd i a dwi wrth fy modd yn cael gigs Cymraeg yma.
"Mae pobl yn dod i ddiolch i mi am gynnal y gigiau yma, mewn ardal sy'n troi'n Seisnig.
"Yn y dyfodol fyswn i'n lecio cael mwy o fandiau, a dal i fynd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd6 Ionawr