Iwan Huws Cowbois: 'Teimlo fel cerddor eto'
- Cyhoeddwyd
Ar ôl dod yn dad i ddau o blant, cyfnodau clo Covid a chael llawdriniaeth ar ei galon mae cerddoriaeth wedi tawelu dros y blynyddoedd diwethaf i Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog.
Ond ers yr haf mae caneuon newydd, rhyddhau albwm byw a pherfformio o flaen miloedd yn yr Eisteddfod wedi arwain at gwestiwn cyson.
“Roedd pobl yn dod aton ni yn deud 'da chi’n gwneud come back’ a finna’n meddwl ‘o, do’n i’m yn meddwl ein bod ni wedi rhoi’r gorau iddi’!" meddai Iwan, prif leisydd y band. "Ond roedd hi wedi bod yn gyfnod o rhyw dair blynedd pan oedda ni wedi bod yn ddistaw rhwng bob dim.”
Ac mae cryn dipyn wedi newid mewn tair blynedd.
Ar ddechrau 2020 roedd Cowbois Rhos Botwnnog ar fin cwblhau taith o gwmpas Cymru i nodi 10 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn. Canslwyd y gig olaf yn Aberteifi oherwydd dyddiau duon iawn wrth i Covid roi stop ar bopeth.
Tra bod rhai artistiaid wedi bod yn gynhyrchiol iawn ar lein yn ystod y pandemig, daeth popeth i stop i gerddorion eraill – yn cynnwys Cowbois. Gan bod y tri brawd o Ben Llŷn sy’n asgwrn cefn y band – Iwan, Aled a Dafydd - hefyd yn magu plant doedd dod o hyd i’r amser i greu ddim bob tro’n hawdd.
Ac ar ben popeth, ym mis Ebrill 2022 fe gafodd Iwan broblemau gyda’i galon.
Eglurodd wrth Cymru Fyw: “Ddigwyddodd pethau mor gyflym doedd na’m amser i boeni, ond mae’n anoddach i’r bobl o dy gwmpas di. Roedd o reit annifyr ar y pryd pan ddigwyddodd pethau, ond unwaith ro’n i’n gwybod nad oedd 'na risg mod i am ddisgyn yn farw wrth chwarae efo’r plant yn y parc roedd o’n haws.
“Fel oedd y meddyg yn dweud, y broblem oedd gen i oedd problem mecanyddol – fel oedd y llawfeddyg yn ddweud y plumbing.”
Saith mis ar ôl darganfod y broblem, roedd y ‘plymio’ yn golygu triniaeth hegar i drwsio falfiau'r galon.
Roedd y llawfeddygon yn Ysbyty Morriston, Abertawe, wedi eu plesio, ond un sgil effaith pryderus i’r cerddor a chyfieithydd oedd ei fod o'n cael trafferth i drin geiriau wedi’r driniaeth. Felly tan iddo fedru sgwennu a darllen yn iawn eto, fe ddechreuodd wneud lluniau i geisio delio efo’r hyn oedd o wedi bod drwyddo.
"Ar ôl dod adra ro’n i wedi dechrau blocio bob dim allan a nes i feddwl wna i ddechrau gwneud lluniau o’r profiad,” meddai. “Fel ro’n i’n eu gwneud nhw – un neu ddau bob dydd – ro’n i’n cofio mwy a mwy o bethau o’n i wedi eu rhoi o’r neilltu.
"Trwy’r lluniau nes i lwyddo i beidio blocio pethau allan – a nes i fedru gweld doedd o heb fod yn brofiad mor ddychrynllyd a hynny, doedd o ddim mor dywyll ac roedd yna bethau oedd yn gadarnhaol. Ac wedyn ar ôl tua mis do’n i jest ddim isho gwneud y lluniau ddim mwy, ro’n i wedi prosesu’r cyfnod. Roedd o’n ffantastig a faswn i’n argymell o i unrhywun.”
Caneuon newydd
Nid y profiad dirdynnol yma oedd y sbardun i ail-gydio yn y gerddoriaeth. Rhywbeth llai dramatig, ond effeithiol iawn: dedlein.
Roedd Iwan, sy’n dweud bod sgwennu caneuon yn broses araf iddo, wedi bod yn gweithio ar gynnyrch newydd ers tro, ers iddo ddod yn dad am y tro cyntaf chwe mlynedd yn ôl.
"Yn syth ar ôl gorffen record fyddai’n sgwennu dau neu dri cân yn syth i ffwrdd – dwi’n meddwl ella’r cyffro o ryddhau rhywbeth ydi o. Felly mae 'na rai sydd wedi eu sgwennu yn fuan iawn ar ôl rhyddhau’r albym ddiwetha’ yn 2016.
"Mae pobl yn meddwl mod i’n sgwennu mewn ffordd hynod confessional a phersonol iawn gan fod y caneuon fel arfer yn y person cyntaf ac yn delynegol, ond maen nhw i gyd drwy lens a dwi’n cyffredinoli i raddau. Ac o bosib mod i’n cymryd gymaint o amser i’w sgwennu nhw, ac wedyn yn ail-sgwennu ac mae’r pethau dwi’n ffeindio yn rhy emosiynol yn dod allan."
Eisteddfod Boduan
Gyda digon o ganeuon newydd roedd teimlad ei bod hi’n bryd recordio eto, ond y ffaith bod Eisteddfod Genedlaethol 2023 yn dod i’w hardal genedigol nhw roddodd y "cic yn din" oedd ei angen ar y brodyr.
Chafodd yr albym ddim ei gwblhau mewn pryd i Foduan, ond rhyddhawyd EP a chafwyd perfformiad cofiadwy o flaen torf enfawr ar Lwyfan y Maes.
Roedd y cyfuniad o faint y dorf a’r ffaith nad oedden nhw wedi chwarae llawer ers sbel yn effeithio’r nerfau.
"Dwi’m yn un sy’n mynd yn nerfus fel arfer ond ro’n i’n tin droi drwy’r bore ac wedyn neshi feddwl waeth i fi fynd ar y Maes," meddai Iwan. "Eshi yna tua amser cinio a threulio tua chwe awr gefn llwyfan. Dwi’n teimlo bechod dros pobl sy’n mynd yn nerfus cyn bob perfformiad."
Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi chwarae ambell i gig arall o gwmpas Cymru ers hynny ac wedi recordio y rhan fwyaf o’u halbym - fydd yn cael ei rhyddhau yn y gwanwyn gyda thaith i’w hyrwyddo ar y gweill.
Yn y cyfamser, maen nhw’n benderfynol o orffen y daith gafodd ei chanslo oherwydd Covid.
Ar 2 Rhagfyr eleni fe fydden nhw’n chwarae’r gig honno yn Aberteifi, dair blynedd a hanner yn hwyr, ac mae albym o berfformiad byw y band gafodd ei recordio yn Y Galeri yn ystod y daith newydd gael ei rhyddhau.
Efo dau o’r brodyr dal i yn y gogledd ac Iwan yn Aberystwyth, tydi ddim mor hawdd dod at ei gilydd – yn enwedig gyda gwaith a magu plant yn rhan o’r fargen.
Teimlo'n lwcus
Er nad oedden nhw erioed wedi rhoi’r gorau iddi er mwyn gallu ‘dod yn ôl’, dywed Iwan bod cerddoriaeth yn chwarae rhan mwy canolog yn eu bywydau unwaith eto ac maen nhw’n ymwybodol eu bod nhw’n ffodus o hynny:
“Wnaethon ni ddechrau pan o’n i’n 15 – sy’n 18 mlynedd yn ôl a 'da ni’n gwybod pa mor lwcus yda ni i fedru cario mlaen i wneud hyn. Mae 'na lot o fandiau, rhai da oedda ni’n arfer chwarae efo nhw back in the day, 'da ni’m yn clywed amdanyn nhw rŵan, ond mi rydan ni yn dal i chwarae – drwy lwc, a hefyd drwy ymdrech a gwaith caled.
“Pan mae rhywun yn cael plant mae rhywun yn gorfod addasu, a tydi o ddim yn hawdd bob tro gwneud pethau creadigol. Mi rydan ni’n gorfod derbyn rôl wahanol a dwi wedi arafu o ran creu cerddoriaeth a chwarae yn fyw, ac mae’n neis i gael yr ochr yna yn ôl.
“A dwi’n teimlo’n fwy fel cerddor na dwi wedi ei wneud ers tro ac mae hynny’n braf.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2023