Dathlu hanes y gymuned Norwyaidd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bob blwyddyn ar 17 Mai, mae diwrnod cenedlaethol Norwy yn cael ei ddathlu o fewn y wlad yn ogystal â ledled y byd gan Norwyaid, gan gynnwys dathliad ym Mae Caerdydd.
Mae cymuned Norwyaidd wedi bod yng Nghymru ers canol yr 1800au, fel yr eglura’r hanesydd, Thomas Alexander Husøy-Ciaccia.
Dydd y Cyfansoddiad ar 17 Mai yw diwrnod i ddathlu ysgrifennu cyfansoddiad Norwy yn 1814, yn ystod cyfnod byr o annibyniaeth ar ôl i’r undod rhwng Denmarc a Norwy ddod i ben.
Mae Cymdeithas Cymru Norwy a Chanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd yn trefnu digwyddiadau i ddathlu’r cysylltiadau hanesyddol rhwng Norwy a Chymru, gyda’r ganolfan yn symbol o’r cysylltiadau yma.
Daeth y Norwyaid i Gaerdydd fel rhan o ddiwydiant glo anferth Cymru. Daethant â 'pit props' o Sgandinafia gyda nhw i’w defnyddio yn y pyllau - darnau anferthol o bren i helpu i ddal y twneli tanddaearol ar agor.
Ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, roedd Cymru ar y blaen o ran allforio glo, ac roedd gan Norwy drydedd llynges fasnachol fwya’r byd. O ganlyniad, cynyddodd nifer y morwyr Norwyaidd a gyrhaeddodd dde Cymru.
Addoli drwy'r Norwyeg yng Nghymru
Roedd Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd yn wreiddiol yn eglwys i forwyr Norwyaidd. Cafodd ei chodi yn 1868/69, ac mae’n un o’r ddau adeilad eglwys Norwyaidd sydd dal ar ôl yng Nghymru.
Mae’r ail yn Abertawe, ar ôl cael ei symud o Gasnewydd yn 1909. Cafodd hwn ei gau fel eglwys i forwyr Norwyaidd yn 1966, ond parhaodd fel eglwys Norwyaidd tan yr 1990au.
Ar un adeg, roedd yna bedair eglwys Norwyaidd ar hyd arfordir de Cymru, gydag eglwysi eraill yn cael eu sefydlu yn Nociau’r Barri (1890-1931) a Chasnewydd (1890-1927 - ar ôl symud yr adeilad i Abertawe, cafodd adeilad arall ei rentu ar Commercial Road).
Roedd yna hefyd weithgareddau yn cael eu cynnal ym Mhort Talbot a Phenarth, a chynlluniau i agor eglwys Norwyaidd yn Aberdaugleddau yn yr 1950au, ond wnaeth hyn ddim dwyn ffrwyth.
Ynghyd â’r eglwysi, roedd cangen o’r Krigsseilerforbund yng Nghasnewydd, sef cymdeithas cyn filwyr rhyfel Norwyaidd, oedd ar gyfer morwyr oedd wedi brwydro yn yr Ail Ryfel Byd.
Yn ôl cofnodion y Genhadaeth Forwrol Norwyaidd, daeth 34,325 o ymwelwyr i wasanaethau crefyddol ac ystafell ddarllen eglwysi Norwyaidd ar hyd arfordir de Cymru yn 1900.
Erbyn 1915, roedd hynny wedi neidio i 73,580, sy’n dangos y cynnydd cyflym yn nifer yr ymwelwyr Norwyaidd a Sgandinafaidd i eglwysi Norwyaidd ar hyd Môr Hafren.
Arwyddion o gysylltiad y ddwy wlad
Mae nifer o’r arteffactau sy’n adrodd hanes y gymuned Norwyaidd bellach yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd.
Mae rhain yn cynnwys baneri oedd yn perthyn i’r Krigsseilerforbund, bedyddfaen wreiddiol yr eglwys – yr un a gafodd ei ddefnyddio i fedyddio’r awdur Roald Dahl, a tharian a gafodd ei chyflwyno i un o gyn-weinidogion yr eglwys, Rolf Rassmussen, fel arwydd o ddiolch am gefnogaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r rhain yn helpu i ddweud stori’r gymuned Norwyaidd yng Nghymru.
Heddiw, mae’r gymuned Norwyaidd yn parhau i fod yn gryf yng Nghymru, a sefydlwyd Gymdeithas Cymru Norwy yn 1995, sydd ag aelodau ledled Cymru.
Yn 1996, cafodd Caerdydd ei gefeillio â Hordaland - bellach Vestland - a dechrau cydweithio’n addysgol, ac mae myfyrwyr o Norwy yn dod i’r coleg i Gaerdydd bob blwyddyn.
Yn 2023, derbyniodd Ganolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gynnal ymchwil a threfnu digwyddiadau yn ymwneud â hanes a threftadaeth y gymuned Norwyaidd yng Nghymru.
Gratulerer med dagen! Dydd y Cyfansoddiad Hapus i chi!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd17 Ionawr
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2017