'Dylai Llywodraeth Cymru werthu eu pencadlys yng Nghaerdydd'

Roedd 576 o staff yn gweithio ym mhencadlys Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ar gyfartaledd
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth Cymru werthu eu pencadlys yng Nghaerdydd, yn ôl un o gyn-benaethiaid y gwasanaeth sifil yng Nghymru.
Dywedodd Des Clifford, cyn-bennaeth swyddfa'r prif weinidog ym Mharc Cathays, y dylid sefydlu swyddfa llai o faint ym Mae Caerdydd yn lle hynny.
Daeth ei sylwadau ar ôl i ffigyrau newydd ddangos taw ond 19% o weithwyr Parc Cathays aeth i'r swyddfa bob dydd ar gyfartaledd ym mis Mawrth.
Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wedi dweud o'r blaen na fydd y llywodraeth yn gallu "cyfiawnhau" cadw eu swyddfeydd ar agor os ydy staff yn parhau i gadw draw.

Cyn i Covid daro roedd tua 2,500 o bobl yn gweithio ym Mharc Cathays bob dydd.
Ond ers y pandemig mae'r mwyafrif wedi parhau i weithio o adref.
Mae'r ffigyrau diweddaraf, ar gyfer mis Mawrth, yn dangos taw 576 o bobl oedd yn mynychu swyddfa Parc Cathays bob dydd.
Y cyfanswm dyddiol uchaf oedd 799.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C dywedodd Des Clifford bod y dyddiau o staff yn gweithio yn y swyddfa bob dydd ar ben a'i bod hi'n bryd ystyried gwerthu'r pencadlys.
"Mae'n hen adeilad hyll, anghyfeillgar.
"Byddwn i'n cau hwnna i lawr a'i werthu efallai i'r brifysgol neu rywun arall a gosod swyddfa gwahanol newydd yn y Bae fel bod y llywodraeth a'r Senedd ochr wrth ochr.
"Dwi'n meddwl bysa hynny'n creu sefyllfa well i bawb yn y pendraw."

19% oedd y presenoldeb dyddiol ym mhencadlys Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth
Mae gan Lywodraeth Cymru 20 o safleoedd ar draws Cymru gan gynnwys 15 "swyddfa graidd".
Y gost o redeg y swyddfeydd yma yn 2023-24 oedd £24.5m.
Ar draws ystad y Llywodraeth ym mis Mawrth 16% oedd y presenoldeb dyddiol cyfartalog.
Pan ofynnwyd iddo be ddylai ddigwydd i'r swyddfeydd yna, dywedodd Mr Clifford bod "penderfyniadau digon anodd ar y gorwel".
"A oes angen swyddfa yng Nghyffordd Llandudno a Chaernarfon er enghraifft – 30 o filltiroedd sydd rhwng y ddau?
"Mae'r un cwestiwn yn codi rhwng Penlle'r-gaer a Chaerfyrddin – 30 milltir eto rhwng y ddau. Ydy e'n ymarferol i gadw'r ddau i fynd?"
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod disgwyliad ar staff i dreulio 40% o'r wythnos – sy'n cyfateb â dau ddiwrnod – yn y swyddfa.
Yr wythnos diwethaf dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wrth y Senedd: "Yn amlwg, fe ddaw pwynt lle mae'n rhaid i chi ddweud, 'os na fyddwch chi'n dod, ni allwn gyfiawnhau cadw'r swyddfa benodol hon ar agor'."
Mae'r llywodraeth eisoes yn cynnal adolygiad o'u swyddfeydd ym Mhowys - yn Llandrindod a'r Drenewydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl