Rhybuddio staff y llywodraeth i ddefnyddio swyddfeydd neu eu colli

19% oedd y presenoldeb dyddiol ym mhencadlys Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi rhybuddio na all Llywodraeth Cymru "gyfiawnhau parhau i gadw swyddfeydd ar agor" os nad yw pobl yn eu defnyddio.
Yn ôl ystadegau ar gyfer mis Mawrth, 16% oedd y presenoldeb dyddiol cyfartalog yn swyddfeydd y llywodraeth.
Dim ond 9% oedd lefel presenoldeb swyddfa ym Merthyr Tudful, sy'n cael ei disgrifio fel "prif ganolfan".
Nod gweinidogion yw cael staff yn gweithio o'r swyddfa ddau ddiwrnod yr wythnos, neu 40% o'r amser.
Mynegodd undebau llafur gefnogaeth gref i'r trefniadau gweithio presennol, ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddan nhw'n "dod â gweithio o bell diangen i ben".
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd29 Mawrth
Mae gan Lywodraeth Cymru tua 5,700 o staff ar draws 20 safle, ac mae'n cynnal adolygiad o swyddfeydd ym Mhowys ar hyn o bryd "yn rhannol oherwydd y newid yn y ffordd y mae pobl yn gweithio".
Mae'r 15 "swyddfa graidd" yn cynnwys prif ganolfannau Parc Cathays Caerdydd, Rhyd-y-Car Merthyr Tudful, Rhodfa Padarn Aberystwyth a Sarn Mynach Cyffordd Llandudno.
Mae costau cynnal a chadw'r swyddfeydd hynny yn £24.5m, yn ôl yr adroddiad diweddaraf.
Mae swyddfeydd ac adeiladau eraill ledled Cymru "i sicrhau presenoldeb gwasgaredig ac i sicrhau y gellir darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion busnes".
Dywed Llywodraeth Cymru bod "y rhan fwyaf o'r staff wedi parhau i weithio o bell yn ystod 2023-2024" a bod y dystiolaeth yn awgrymu bod "cyfran uwch yn gwneud hynny'n rheolaidd".

Mae'r swyddfa yn Aberystwyth, gafodd ei hagor yn 2009, yn un o'r "prif ganolfannau"
Cododd yr AS annibynnol Russell George bryderon yn y Senedd yr wythnos diwethaf ynghylch dyfodol y swyddfa yn y Drenewydd, Powys.
Y swyddfa honno oedd â'r ganran presenoldeb ddyddiol gyfartalog uchaf ym mis Mawrth, sef 22% - 17 o staff.
Dywedodd ei bod hi'n bwysig cael swyddfeydd Llywodraeth Cymru ledled Cymru "oherwydd bod y swyddfeydd hynny a'r staff sy'n gweithio yno yn cefnogi siopau a gwasanaethau mewn trefi hefyd".
Ychwanegodd "ei bod hi'n bwysig cyflogi a chadw pobl sy'n byw yng nghanolbarth Cymru fel bod Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu anghenion a gofynion pawb, o bob cymuned ledled Cymru".

Mae'r llywodraeth yn annog staff i ddefnyddio'r swyddfeydd, meddai Eluned Morgan
Atebodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: "Rydym yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd, yn rhannol oherwydd y newid yn y ffordd mae pobl yn gweithio.
"Ni allwn gyfiawnhau parhau i gadw swyddfeydd ar agor os nad yw pobl yn dod.
"Mae'n bwysig ein bod yn annog pobl i ddod i'r gwaith; rydym yn eu hannog i ddod i mewn.
"Ond, yn amlwg, fe ddaw pwynt lle mae'n rhaid i chi ddweud, 'os na fyddwch chi'n dod, ni allwn gyfiawnhau cadw'r swyddfa benodol hon ar agor'.
"Felly mae'n ddyletswydd ar y bobl hynny i ddeall, os na fyddan nhw'n mynd i'r swyddfeydd, fod perygl y byddwn ni mewn sefyllfa lle bydd hi'n anodd i ni barhau."
Mae'r adolygiad o swyddfeydd Powys - Llandrindod a'r Drenewydd - i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi.
Presenoldeb Ionawr a Chwefror yn 15%
Roedd presenoldeb mewn swyddfeydd eraill ym mis Mawrth yn cynnwys:
Parc Cathays, Caerdydd - 19% (576 o staff)
Caernarfon - 17% (17)
Aberystwyth - 15% (42)
Llandrindod - 12% (13)
Cyffordd Llandudno - 12% (49)
Penllergaer - 10% (34)
Caerfyrddin - 10% (33)
Merthyr Tudful - 9% (55)
Roedd cyfartaledd presenoldeb dyddiol yn Ionawr a Chwefror yn 15%.
Mae adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar Gyflwr yr Ystâd, ar gyfer 2023-2024 gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai, yn dweud bod yr "angen am staff gwasgaredig ledled Cymru yn cyfyngu ar gyfleoedd i gau swyddfeydd ymhellach".
"[O]nd rydym yn ystyried yr opsiynau i sicrhau'r 'maint cywir' drwy ddatblygu achosion busnes, arfarnu buddsoddiadau ac ymgynghori â staff ac Undebau Llafur wrth i gyfleoedd, megis cymalau torri neu ddod â lesoedd i ben, godi."
Dywed bod hynny yn wir am y swyddfa yn Grosvenor Road, Wrecsam, "a wnaethom ei gadael ar ôl i'r les ddod i ben ym mis Ionawr 2024, gan adleoli staff i uned fach, sengl – hefyd yn Wrecsam".

Roedd 576 o staff yn gweithio ym mhencadlys Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ar gyfartaledd
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod bloc yn swyddfa Heol Picton, Caerfyrddin yn dal i fod yn wag.
"Nid oes mo'i angen mwyach ac mae wrthi'n cael ei farchnata," meddai'r adroddiad.
"Mae ansicrwydd ynghylch patrymau gweithio tymor hir wedi bod yn ffactor yn y ffaith bod y gofod swyddfa hwn yn parhau i fod yn wag."
Daw'r adroddiad i'r casgliad: "Wrth i arferion gweithio o bell ennill eu plwyf, rhagwelir y bydd natur yr ystad swyddfeydd yn newid ymhellach ac y bydd mwy o gyfleoedd i sicrhau arbedion drwy fod yn effeithlon yn codi.
"Mae cyfleoedd i gydleoli, naill ai drwy is-osod gofod dros ben neu symud gweithrediadau Llywodraeth Cymru i adeiladau cyhoeddus eraill yn parhau i gael eu harchwilio.
"Cynyddodd diddordeb gan feddianwyr posib yn ein prif hybiau yn ystod 2023-2024."

Dim ond 9% oedd y presenoldeb dyddiol cyfartalog ym Merthyr Tudful
Dywedodd Fran Heathcote, ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS): "Mae'r trefniadau gwaith cymysg presennol yn Llywodraeth Cymru wedi'u datblygu gydag undebau llafur drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, ac nid oes gennym unrhyw reswm i gredu nad yw'r trefniadau presennol yn gweithio.
"Pan fyddant yn cael eu hadolygu, bydd hyn yn cael ei wneud drwy bartneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru ac undebau llafur cydnabyddedig."
Dywedodd swyddog cenedlaethol undeb yr FDA, Jane Runeckles - cyn-gynghorydd arbennig yn Llywodraeth Cymru: "Gwaith yw'r hyn rydych chi'n ei wneud, nid ble rydych chi'n ei wneud.
"Mae byd gwaith wedi newid, a dylai Llywodraeth Cymru ymfalchïo yn y ffaith ei bod wedi cymryd rhan flaenllaw yn hyn."
Dywedodd Steve Thomas, dirprwy ysgrifennydd cyffredinol undeb Prospect, wrth y BBC fod y "dull hybrid, gyda chymysgedd o weithio yn y swyddfa a gweithio gartref, yn galluogi staff i weithio'n effeithiol, fel y mae miliynau o weithwyr yn ei wneud ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat".
'Agwedd ddi-hid at arian cyhoeddus'
Dywedodd Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, fod "Llafur Cymru wedi creu'r broblem hon gyda'i hagwedd ddi-hid at arian cyhoeddus ac arweinyddiaeth wael ar y mater".
"Yn ôl ym mis Mawrth addewais y byddai llywodraeth Geidwadol Gymreig yn rhoi terfyn ar weithio o bell diangen, ac yn cael pobl oddi ar eu soffas ac yn ôl i'w swyddfeydd pe baem yn dod i mewn i lywodraeth fis Mai nesaf," ychwanegodd, gan gyfeirio at etholiad y Senedd.
"Rwy'n sefyll wrth yr addewid hwnnw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.