'Cerrig hudolus' waliau Cader Idris

waliauFfynhonnell y llun, Tom Griffiths
  • Cyhoeddwyd

Ar gyrion tref Dolgellau ar hyn o bryd mae 'na arddangosfa sy'n ddathliad celfyddydol o natur, waliau, waliwrs, llynnoedd a bywyd gwyllt ardal Cader Idris.

Mae'r arddangosfa, Cerrig Hudolus, yn llwyfannu gwaith artistiaid lleol; yr arlunwyr Chris Pugh a Richard Morgan, y waliwr a ffotograffydd, Tom Griffiths, a'r waliwr a cherddor, Osian Morris.

Bu Richard Morgan, Tom Griffiths ac Osian Morris yn trafod eu gwaith gyda Heledd Wyn ar raglen Ffion Dafis BBC Radio Cymru.

Ty NantFfynhonnell y llun, georgraph.org
Disgrifiad o’r llun,

Tŷ Nant, sydd ddwy filltir i'r de-orllewin o Ddolgellau, lleoliad yr arddangosfa

“Dwi’n hoff o waliau – ry'n ni'n pedwar yn", meddai Richard Morgan, sy'n gyn-athro celf yn Ysgol y Berwyn, Y Bala.

"Mae ‘na batrymau a gwead, rhyw fywyd cudd ynddyn nhw dwi’n meddwl.

"Os ydy’ch chi’n gweithio efo cerrig, 'da chi’n ffeindio darnau bach weithiau yn y wal, fatha darnau o fywyd y bobl sydd wedi creu’r wal, fel cetyn neu ddarn o bapur, lleder neu ddarnau o haearn, neu ddarnau o esgyrn!"

cader idrisFfynhonnell y llun, Tom Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cader Idris yn fynydd hir sy'n 893m mewn uchder, ac yn edrych dros dref Dolgellau

“Felly’r syniad fan hyn", meddai Richard, "oedd i greu rhyw fath o deimlad fod ‘na fywydau eraill wedi bod o’r blaen – sef y bobl sydd wedi creu y wal, felly mae ‘na ‘chydig o symbolau wedi eu hanner cuddio yn y cerrig."

morganFfynhonnell y llun, Richard Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau gan Richard Morgan; tref Dolgellau gyda Mynydd Moel yn y cefndir, a Llynnoedd Cregennan yn cuddio tu ôl i wal gerrig

“’Dy’n ni gyd yn arlunwyr o ryw fath, ac o’n i’n dysgu arlunio am 30 mlynedd, felly mae hwn yn gyfle ers ymddeol imi greu gwaith fy hun.

"Ond wedi dweud hynny, byswn i ddim yn galw fy hun yn arlunydd – dwi’n gwneud lot o bethau, fel mae’r tri arall sy’n rhan o’r arddangosfa."

'Gwneud chi deimlo bod chi'n fyw'

Mae Richard yn dweud bod arlunio'n rhan fawr o'i fywyd: "Mae'n fater o sut wyt ti fel person byw, a be' sy’n gwneud i chdi deimlo bod chdi yn fyw.

"Mae gwneud hyn yn gwneud i mi deimlo mod i’n fyw – i greu rhywbeth a gadael rhyw hoel bach ar eich hôl, hyd yn oed mewn sgwaryn bach o baent.

“Mae’r ardal yma’n gartref i fi, er mod i’n dod o’r de yn wreiddiol, ond mae Meirionnydd yn gornel arbennig iawn o’r byd, ac os ydych chi yn berson sy’n hoffi creu pethau mae’r ysbrydoliaeth sydd i’w weld rownd bob cornel yma yn arbennig.”

Llun mynydd a walFfynhonnell y llun, Richard Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dau lun arall gan Richard

Mae Tom Griffiths hefyd o'r ardal ac yn gweithio fel saer maen - yn aml ar lethrau'r Gader.

“Roedden ni’n trafod y themâu cerrig rhai misoedd yn ôl – y pedwar ona ni efo rhyw obsesiwn efo waliau. Dwi ‘di cymryd diddordeb yn y cerrig meini 'ma sy’n 6,000 neu 7,000 oed – mae nhw 'di aros yn fy meddwl i ers pan o’n i’n ffermio efo Dad tra’n blentyn.

"Roedden nhw’n rhan o’r tirwedd, y defaid yn pori o’u hamgylch nhw, ac achos mod i 'di tyfu fyny efo nhw maen nhw’n rhan ohono i mewn ffordd."

waliauFfynhonnell y llun, Tom Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Y meini mawr a ddaliodd dychymyg Tom pan oedd yn blentyn

'Obsesiwn' gyda thynnu lluniau

“Daeth yr obsesiwn efo tynnu lluniau gan mod i ‘di bod ffwrdd lot efo gwaith yn byw dramor," meddai Tom, "ac o’n i’n hiraethu mwy na’m byd.

"Do’n i erioed ‘di bod fewn i ffotograffiaeth, ond o’n i’n gneud ‘chydig bach o newyddiaduraeth pan o'n i'n byw yn Ne America."

caderFfynhonnell y llun, Tom Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Criw yn codi waliau ar fynyddoedd de Meirionnydd

“Saer maen dwi rŵan yn gweithio efo cerrig rhan fwya o’r amser," meddai Tom, "ac mae ‘di’n ysbrydoli i achos dwi’n gweld walio fel rhywbeth creadigol iawn.

"‘Di hyn ddim jest yn ffordd o wneud bywoliaeth, mae’n rywbeth mae rhywun yn caru ei wneud.”

walioFfynhonnell y llun, Tom Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Allan yn y caeau ym mhob y tywydd

Osian Morris sydd wedi gwneud y gwaith o ail-wneud byncws Tŷ Nant, ac mae'n falch o'r profiad o atgyweirio'r strwythur a chael safle priodol i lwyfannu'r gwaith.

“Mae ‘di bod yn brofiad hyfryd i adnewyddu’r hen adeilad ‘ma. Mae’n brofiad braf gallu creu lle i arddangos celf mewn lleoliad unigryw, a bod o ddim jest yn rhyw lety gwyliau sy’n gwneud llwyth o bres – o’n i isio gwneud rhywbeth mwy diddorol efo’r gofod yma.

“Mae’r Gader yn rhan mor drawiadol o’r tirlun yn yr ardal yma."

WaliwrFfynhonnell y llun, Chris Pugh
Disgrifiad o’r llun,

Darluniau o Tom ac Osian gan yr artist Chris Pugh

Cerddoriaeth a chelf yn 'ysbrydoli eu gilydd'

Mae Osian yn saer maen o ochrau Llanfachreth ger Dolgellau, ac mae hefyd yn gerddor yn canu gyda'i gitâr.

“Mae jest yn gyfle i ychwanegu i’r hyn sgen ni ar y waliau. Wrth gwrs mae cerddoriaeth a chelf yn rhedeg ochr yn ochr efo’i gilydd, ac yn ysbrydoli ei gilydd hefyd.

"Mae caneuon yn gallu ysbrydoli artistiaid i greu celf o'r newydd, ac y ffordd arall hefyd. Mae’r caneuon dwi’n ei ganu yma efo cysylltiad i’r celf sydd yma – mae gen i un am y ddynes yn y creigiau sydd mewn llun gan Tom; Gwenhudwy y môr-forwyn, sy’n denu y dynion i gyd at y creigiau efo’i gwên hudolus."

waliauFfynhonnell y llun, Tom Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Y môr-forwyn 'Gwenhudwy' rhwng ddwy wal garreg

Dywed Osian bod ysbrydoliaeth i'w ganeuon weithiau'n dod tra'n gweithio yn yr awyr agored.

“Yn aml iawn ella bod gen i ryw hanner cân yn fy meddwl, a dwi’n ffeindio bod y weithred o godi waliau fel rhyw ogof i’r meddwl gael ffeindio geiriau newydd i ganeuon newydd.

"Ti’n cyrraedd fatha ryw zen ble ti ddim yn gorfod meddwl am be' ti’n neud, mae’r meddwl yn crwydro i bethau eraill.”

Mae gwaith y pedwar i'w gweld yn Nhŷ Nant, byncws ar droed llethrau Cader Idris, hyd at Ddydd Sadwrn, 22 Mehefin.

Cader IdrisFfynhonnell y llun, Tom Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Y tirlun ehangach yn ardal Cader Idris, a'r waliau sy'n rhedeg dros y bryniau a'r mynyddoedd