Ateb y Galw: Leigh Alexandra
- Cyhoeddwyd
Mae Leigh Alexandra yn actores a chantores.
Mae’n byw ym Mhontardulais ar y stryd lle cafodd ei geni. Mae Leigh hefyd yn cyfansoddi ac yn rhyddhau caneuon. Yn ddiweddar cafodd dwy o'i chaneuon eu dewis ar ‘Bethan Elfyn’s Wales Mix’ ar gyfer BBC Gorwelion.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Bore Nadolig, 1989, yn bum mlwydd oed ac yn dod lawr llawr i weld fod Mam a Dad wedi prynu piano i fi. Cyn hynny, dechreuais i ddysgu ar keyboard bach i blant gyda dim ond dau wythfed, felly pan welais i’r holl allweddi piano a rhoddais fy mysedd bach arni am y tro cyntaf, roedd yn deimlad arbennig iawn.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Bues i’n ffodus iawn i weithio i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan blwyddyn diwethaf, a thra’n aros yn Nefyn aethom ni fel tîm i Borthdinllaen i Dŷ Coch ar y nos Fercher, a hynny am y tro cyntaf i bawb. Dwi’n cofio ni gyd yn cyffroi wrth gerdded yn agosach, yn sgipio a chwerthin, bron yn gallu teimlo’r naws cyn cyrraedd. Pan gyrhaeddon ni, roedd yn hawdd gwybod pam o fewn eiliadau... mae’r lle fel paradwys llwyr!
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Wel, mae hwn yn un anodd i’w ateb, gan fy mod wedi cael sawl noson wych ar hyd fy mywyd; yn gwylio bandiau, cyngherddau, yn teithio, gweithio, ac yn mwynhau cwmni ffrindiau a theulu. Ond un sy’n aros yn y cof yw haf 2017. Roeddwn i’n byw dramor am gyfnod rhwng 2015 a 2018, ac wrth gymryd amser i benderfynu ar ble i setlo nesaf, weithiais i haf mewn sawl gŵyl gerddoriaeth ar hyd Cymru a Lloegr yn gweithio gyda’r tîm lles, a rheolais dîm lles plant a phobl ifanc ar gyfer Boomtown.
Un o’r gwyliau olaf wnaethon ni weithio arni oedd Bestival, ac roedd hi wedi bod yn un prysur o ran cynorthwyo ymwelwyr a darparu lles a gofal i’r rheini oedd angen. Ar ôl gweithio tair shifft hir am 16 awr, wnes i orffen mewn da bryd i allu mynd i weld un o’m hoff gantorion, Rag'n'Bone Man. Dyna oedd y tro cyntaf i mi glywed e’n canu’n fyw, ac ar ôl sawl diwrnod heriol yn gweld pobl yn mynd i’r eithaf o fwynhau, wnes i ymgolli’n llwyr yn ei gerddoriaeth a’i lais gwych. Gyda’r haul yn disgleirio a phawb yn canu, roedd hi’n noson i’w chofio.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Caredig. Doniol. Bubbly.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Y noson ges i fy ‘arwyddo’ mewn i’r grŵp ‘Brownies’ yn fy mhentref. Roeddwn i’n teimlo’n nerfus am wneud, felly cyn mynd i’r ysgol y dydd hynny, gofynnodd Mam pa bryd o fwyd ro’n i eisiau cyn mynd. Fy newis oedd sosej, mash tatws, pys a grefi gyda winwns. I arwyddo mewn mae rhaid dweud dy vows; addo bod yn ‘Brownie’ sy’n estyn llaw, ac ati... ac yna ar ôl dweud popeth sydd angen, plygu ‘mlaen i orffen y broses yn y cylch gyda dy ddwylo. Wrth i fi estyn ‘mlaen i wneud, dyma fi’n rhechi yn rili uchel (ar ôl llond blaten o grefi winwns) ac wrth i bawb edrych a chwerthin, wnes i droi’n lliw betys a dweud “it wasn’t me”. Ha ha. Wnaeth e'n sicr ddod wrtho i, felly pam nes i feddwl gallwn i esgus, dwi ddim yn siŵr. Doniol iawn!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Ro’n i’n teithio trwy Lundain o Gaerdydd mewn brys i gyrraedd y Royal Opera House i gwrdd â fy ffrind annwyl Julie sy’n gweithio yna, ac i wylio La bohème. Wrth gyrraedd Gorsaf Paddington, roeddwn i wedi cyffroi a dechreuais i wneud stori Instagram wrth gerdded at y lle i ddal tacsi. Doeddwn i ddim yn canolbwyntio ar beth oedd o gwmpas, ond yn dal fy ffôn yn y llaw yn siarad â’r sgrin, a dyma fi’n symud wrth i’r ciw symud, ond heb edrych, rhoddais fy llaw allan ar beth ro’n i’n meddwl oedd yn rheilen, ond roedd e’n un oedd yn symud, felly wnes i gwympo yn ei erbyn a gyda’r rucksack ar fy nghefn hefyd, wnes i gwympo i’r llawr fel sach o datws. Gyda’r holl beth wedi’i ffilmio oherwydd nes i ddal yn sownd i’r ffôn i beidio gollwng hi a’i dorri. Wps! Gwers bwysig wedi dysgu'r diwrnod hynny ar ôl i’r fideo postio ar fy stori a darganfod fy mod wedi torri fy mhen-glin hefyd.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Mae gwylio’r Olympics ym Mharis wedi bod yn llawn emosiwn. Dwi wedi crio dagrau hapus sawl gwaith dros yr wythnosau diwethaf yn gwylio’r balchder sydd yn cael ei rannu yna. Mae’n hyfryd i weld yr athletwyr yn dathlu a chefnogi ei gilydd!
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Dwi ddim yn siŵr os mae’n rhywbeth drwg (weithiau yn embarassing), ond, os dwi’n dweud rhywbeth, neu yn clywed geiriau yn cael eu siarad sy’n f’atgoffa o lyrics mewn cân, yna dwi’n gorfod canu’r llinell o’r gân hynny.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Ar hyn o bryd dwi’n ail-ddarllen un o’m hoff lyfrau erioed – The Night Circus gan Erin Morgenstern. Mae’n llawn hud a lledrith, ac yn lle gwych i adael i’r meddwl creadigol ymlacio (a chael syniadau). Dwi hefyd wrth fy modd yn gwylio unrhyw ffilm gyda Melissa McCarthy ynddi, mae hi wir yn neud i fi chwerthin, sy’n rhywbeth dwi’n hoff iawn o wneud.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Mi fyddaf wrth fy modd yn cael diod gyda thad fy nhad, Grandpa Ray eto.
Wnaeth e farw ar fy mhenwythnos cyntaf yn y Brifysgol yng Nghaerdydd
pan oeddwn yn ddeunaw oed. Cawsom ni ddim digon o amser gyda’n
gilydd, a dwi’n siŵr bydda fe wrth ei bodd i glywed hanes fy mywyd dros yr
ugain mlynedd diwethaf dros ddiod. Roedd e fel cawr mawr cariadus, ac yn
dotio arnom ni fel chwiorydd a chefndryd gyda phob cyfle a gafodd.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Wnes i ddim siarad gair o Gymraeg tan ro’n i’n wyth mlwydd oed. Symudon ni o ysgol Saesneg i Ysgol Gynradd Bryniago, Pontarddulais a mynd i uned iaith benodol wedi’i leoli yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yn wythnosol am ddau dymor. Doedd Mam a Dad ddim yn siarad Cymraeg, ond gyda’r uned ac amsugno’r iaith yn y dosbarth, roeddwn yn rhugl o fewn y ddau dymor. Y penderfyniad gorau erioed sydd wedi cael ei wneud drosta i.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Mae’r llun hon wir yn bwysig i fi, roeddwn i newydd redeg o ochr y mynydd 7500 troedfedd uwchben Grindlewald, Y Swistir yn wynebu’r Eiger a Jungfraujoch. Mae’n f’atgoffa bod e’n bosib gwneud pethau sy’n teimlo’n hiwj weithiau, a’u mwynhau. Roedd y teimlad o fod mor uchel uwchben y tir a chlywed lleisiau a sŵn y clychau ar y gwartheg yn anhygoel.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Mi fyswn i wrth gwrs yn gweld fy holl deulu a ffrindiau am goffi a chacen, yna ar ôl canu’r piano, byddaf yn mynd i fy hoff draeth, Caswell. Byddaf yn gwario’r diwrnod yn y môr, yn cael y picnic gorau erioed, yn darllen a gwrando ar gerddoriaeth, a gwylio’r haul yn machlud. Bliss!
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Mi faswn i wrth fy modd i fod yn Ofodwr NASA am ddiwrnod. Un sydd wedi gwneud yr holl waith, profion a hyfforddiant paratoi i deithio i’r gofod ac sy’n barod i hedfan a glanio ar y lleuad ac yn ôl am ddiwrnod. Waw, dychmygwch!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2023