Ateb y Galw: Lisa Gwilym

  • Cyhoeddwyd
lisa

Mae Radio Cymru 2 yn ymestyn ei oriau darlledu er mwyn ehangu a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. O ddydd Llun, 4 Mawrth, fe fydd y gwasanaeth yn darlledu dros 60 awr yr wythnos o ddeunydd gwreiddiol - cynnydd sylweddol o'r 25 awr cyn hynny.

Un o'r cyflwynwyr sydd ynghlwm â Radio Cymru 2 yw Lisa Gwilym ac felly hi sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Taid Cwm yn rhoi oen llywath i fi adeg wyna, a finne'n cael gofalu am yr oen bob tro o'n i'n mynd i fferm Nain a Taid. Doedd yr oen ddim yno un wythnos, mi oedd o ar fy mhlat yn boddi mewn grefi a mint sauce. A byth ers hynny, dwi ddim yn bwyta cig oen!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Maes carafannau y Wern yn Nefyn. Mae gan y teulu garafán yno a'r olygfa yn un eithriadol o draeth Nefyn a Porthdinllaen. Nefoedd ar wyneb y ddaear a dwi wrth fy modd yno. Lle i enaid gael llonydd (a llymed)!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson fy mhriodas - parti gwych yng nghwmni ffrindiau a teulu, yn dathlu tan yr oriau man.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Siaradus, trefnus, hapus.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Dwi 'di priodi dyn doniol a direidus sy'n neud i fi chwerthin yn ddyddiol. Diolch Llyr!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

2003 - roedd criw cynhyrchu Uned 5 'di gosod sialensau i'r cyflwynwyr a'r her i fi oedd cymryd rhan yn y John Cooper Challenge, sef rasio mini coch ar draciau ledled Prydain. Tra'n ymarfer ar drac rasio Donington cyn diwrnod fy ras gynta', ro'n i'n cael gymaint o hwyl ar y gyrru nes i ddim cadw golwg ar faint o betrol oedd yn y tanc, a mi ddoth y car i stop a gwrthod symud.

Roedd rhaid i'r criw diogelwch ddod i achub y mini a fi a'n cludo nol i'r garej yn saff, a finne efo gymaint o gywilydd, nes i'm deud wrth neb, jyst smalio bod rhywbeth yn bod efo'r car… Anfaddeuol!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa'n cyflwyno'r rhaglen boblogaidd ar S4C, Ffit Cymru

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Gwylio'r ffilm Paddington 2 efo'r mab. Er bod ni 'di gwylio'r ffilm droeon fel teulu, dwi'n crïo bob tro. Ac ydw, dwi'n un sy'n teimlo i'r byw ac yn crïo yn aml tra'n gwylio ffilmiau a rhaglenni teledu.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n hoff iawn o dacluso ac isio byw mewn tŷ twt, sydd ddim yn hawdd pan ti'n rhannu dy gartref efo'r gŵr a'r mab. Dwi'n gyrru'r gŵr yn bonkers, ac yn cael fy nghyhuddo o gadw pethe tra mae o dal i'w defnyddio...

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Ffilmiau'r 80au yn agos iawn at fy nghalon - ET, Star Wars, Gremlins - nostalgia!

Disgrifiad o’r llun,

Lisa gyda'i gŵr, yr actor Llŷr Evans

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Adolf Hitler. Wedi darllen lot o lyfrau yn y blynyddoedd diwethaf am erchyllterau Auschwitz, ac fel un sydd efo gradd mewn seicoleg, oes modd deall beth yn union oedd yn mynd trwy ben yr anghenfil?

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ges i fy mwrw i'r llawr gan fws double-decker ar Stryd Westgate yng Nghaerdydd. Dwi dal yma i ddeud y stori!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gafael yn dynn yn y bobl hynny sydd wedi siapio fy mywyd, a diolch iddyn nhw am gyfoethogi fy mywyd.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun ohona i yn blentyn bach hapus efo Mam a Dad. Bu farw fy nhad 29 mlynedd yn ôl a dwi'n ei golli yn fawr iawn hyd heddiw. Gwilym oedd ei enw, dyn da a doeth, a dwi mor ddiolchgar iddo am roi'r dechrau gorau i fi mewn bywyd. Dwi hefyd yn falch fy mod wedi cael y cyfle i newid fy enw i Lisa Gwilym pan nes i ddechrau cyflwyno.

Ffynhonnell y llun, Lisa Gwilym
Disgrifiad o’r llun,

Lisa gyda'i rhieni

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Neil Armstrong, neu unrhyw un sydd wedi troedio'r lleuad. Dyna oedd fy mreuddwyd pan yn hogan fach, a dwi'n dal i obeithio cael mynd rhyw ddiwrnod.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig