Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mochdre

MochdreFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ym Mochdre am tua 20:00 nos Fawrth 11 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw wedi gwrthdrawiad ym Mochdre, Conwy, wythnos ddiwethaf.

Bu farw Tony Hughes, 42, o Fochdre ddydd Gwener wedi gwrthdrawiad ddydd Mawrth 11 Gorffennaf am tua 20:00.

Roedd Mr Hughes yn gyrru beic modur Kawasaki a fu'n rhan o'r gwrthdrawiad ar Heol Conwy.

Cafodd Mr Hughes ei gludo i ysbyty yn Stoke gan ambiwlans awyr lle bu farw yn gynnar fore Gwener.

Dywedodd y Sarjant Nicola Laurie o Uned Blismona'r Ffyrdd: "Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Mr Hughes ar yr adeg anodd yma."

'Cnaf bach hoffus'

Mae teulu Mr Hughes wedi rhoi teyrnged iddo, gan ddweud: "Bydd colled fawr ar ôl Tony i'w ffrindiau niferus a'i deulu.

"Roedden nhw'n ei alw'n 'gnaf bach hoffus', ac roedd ei cael ei adnabod fel 'Pep' gan ei gyd filwyr yn y Gwarchodlu Cymreig lle bu'n falch o wasanaethu."

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad un cerbyd o'r beic Kawasaki ar 11 Gorffennaf, ac maen nhw'n awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd yn teithio yng nghyffiniau Ffordd Conwy ychydig cyn 20:00 ac sydd â delweddau dashcam.

Gall pobl sydd â gwybodaeth gysylltu trwy ffonio'r Uned Blismona Ffyrdd ar 101, a dyfynnu'r cyfeirnod 23000624038.

Pynciau cysylltiedig