Dau ddyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A40

A40 rhwng Hwlffordd a TrefgarnFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad ar yr A40 rhwng Hwlffordd a Trefgarn am 03:10 fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn oriau mân y bore yn Sir Benfro dros y penwythnos.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i wrthdrawiad un cerbyd ar yr A40 rhwng Hwlffordd a Trefgarn am 03:10 bore Sul.

Bu farw'r ddau a oedd yn teithio yn y car - Volkswagen Polo arian - yn y fan a'r lle.

Roedd y ffordd rhwng Hwlffordd a Spittal ar gau tan 16:45 ddydd Sul o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.

Mae'r llu'n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau dashcam i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.